Data Cydraddoldeb + Gweithio Gyda’n Gilydd = Data Agored

Read this page in English

Delwedd o logo dataMae sicrhau bod data ar gael yn rhwydd yn rhywbeth y dylai holl gyrff cyhoeddus Cymru fod yn ei wneud, boed yn Lywodraeth Cymru, eich awdurdod lleol neu eich bwrdd iechyd lleol. Mewn gwirionedd, mae’n debyg ei bod yn deg dweud bod lle i wella hyn. Ond, y newyddion da yw ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i ddod o hyd i ffyrdd o wella pethau. Parhau i ddarllen

Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: dod yn fuan, data newydd ar gyfer deall meysydd o amddifadedd yng Nghymru

Read this page in English

Ar 27 Tachwedd, byddwn yn cyhoeddi Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019. Bydd hyn yn set newydd o safleoedd o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru.

Mae bwlch o bum mlynedd ers MALIC 2014. Yn ystod y cyfnod hwnnw rydym wedi gweld llawer o ddatblygiadau cyffrous o ran data, ynghyd â gwelliannau i dechnegau. Gall y rhain ein helpu â’r cyfrifon cymhleth sydd eu hangen.

Parhau i ddarllen

Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: gohirio amcanestyniadau is-genedlaethol poblogaeth a thai sail-2017

Read this page in English

O blith y setiau gwybodaeth yr ydym yn eu llunio, ein hamcanestyniadau poblogaeth awdurdod lleol yw un o’r rhai a ddefnyddir fwyaf. Mae’r amcanestyniadau yn edrych ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd i’r boblogaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan ddefnyddio hynny i ragweld tueddiadau’r dyfodol. Maent yn cael eu defnyddio i helpu amrywiaeth o sefydliadau i gynllunio ar gyfer y dyfodol (er enghraifft, i gynllunio tai, ysgolion, meithrinfeydd a gwasanaethau cymdeithasol), ac maent o gymorth hefyd er mwyn helpu i ddosbarthu arian hefyd. Nid ydynt yn ystyried unrhyw ddatblygiadau gwleidyddol nac economaidd a allai ddigwydd yn y dyfodol (er enghraifft, Brexit).

Parhau i ddarllen

Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: a all ein hystadegau gwasanaethau cymdeithasol ddarparu dealltwriaeth fwy cynhwysfawr?

Read this blog in English

Mae llawer o bobl yng Nghymru yn dod i gysylltiad â’n gwasanaethau gofal cymdeithasol bob blwyddyn, ac mae awdurdodau lleol yn gwario oddeutu chwarter o’u cyllid ar y gwasanaethau hyn. Yn ystod y flwyddyn 2017-18, rhoddwyd gwasanaethau i dros 75,000 o oedolion drwy gynllun gofal a chymorth, a chafodd bron i 50,000 o blant eu hasesu i weld a oedd angen gofal a chymorth arnynt.

Parhau i ddarllen

Fy mhrofiad i fel rhiant sy’n gweithio ac fel prentis gyda Llywodraeth Cymru

 

Read this page in English

Llun o Sheree, Prentis Digidol Data a ThechnolegYm mis Mawrth 2019, dechreuais ar brentisiaeth gyda Llywodraeth Cymru a rôl o fewn tîm Desg Wasanaeth Hwb oedd fy lleoliad cyntaf. Platfform Dysgu Digidol Cenedlaethol yw Hwb sy’n cynnwys casgliad cenedlaethol o raglenni digidol ac adnoddau i gefnogi dysgu ac addysgu yng Nghymru.
Parhau i ddarllen

Prentisiaethau – rhy dda i fod yn wir?

Read this page in English

Llun o Dom, Prentis Digidol, Data a Thechnoleg

Cyn ymuno â Llywodraeth Cymru, fe wnes i gwblhau cwrs gradd mewn Hanes ym Mhrifysgol Reading. Ar ôl graddio, doeddwn i ddim yn siŵr pa lwybr roeddwn i eisiau’i ddilyn o ran gyrfa, gan mai dim ond swyddi rhan-amser fel disgybl ysgol oeddwn i erioed wedi’u gwneud. Dros y Nadolig, dechreuais weithio fel cynorthwyydd cwsmeriaid mewn siop a dechreuais ddatblygu fy mhrofiad a’m sgiliau.  Ar ôl tair blynedd mewn gwahanol rolau roeddwn i wedi dod i’r canlyniad nad gyrfa hirdymor mewn rheoli manwerthu oedd y peth i mi felly dechreuais edrych am lwybr gyrfa gwahanol oedd yn cyd-fynd â’m diddordebau. Yn y dechrau, doeddwn i ddim yn siŵr a ddylwn i fynd yn ôl i’r brifysgol i barhau â’m haddysg; ond roeddwn wedi fy siomi o weld y rhagolygon posibl yr oedd gradd meistr mewn Hanes yn eu cynnig. Anfonais un ffurflen gais ar ôl y llall am amrywiaeth eang o swyddi, o swydd gyda’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i weithio yn y gwasanaeth Rheoli Traffig Awyr – gyda’m bryd ar roi tro ar rywbeth gwahanol. Parhau i ddarllen

O Farcio Llyfrau i Ddadansoddi Busnes!

Llun o Josh, Prentis Digidol, Data a ThechnolegRead this page in English

Ym mis Mawrth 2019, gadawais fy swydd addysgu i ymuno â Llywodraeth Cymru fel Prentis Llwybr Digidol, Data a Thechnoleg. Rwy’n tynnu tuag at derfyn fy lleoliad cyntaf ar y cynllun erbyn hyn ac mae hi eisoes yn amlwg na allwn fod wedi gwneud dewis gwell i adfywio fy ngyrfa a’i diogelu ar gyfer y dyfodol.

Cyn cofrestru ar gyfer y Brentisiaeth Llwybr Digidol, Data a Thechnoleg, treuliais 5 mlynedd yn gweithio fel Athro, gan arbenigo mewn Addysg Gynradd ac Anghenion Addysgol Arbennig. Er fy mod yn cael bodd wrth weithio, roedd ffocws y gwaith yn aml yn weinyddol ac roedd rhaid imi weithio y tu allan i oriau fy nghontract yn rheolaidd er mwyn diwallu anghenion y rôl. Roedd y gwyliau haf chwe wythnos yn helpu rhywfaint i unioni’r cydbwysedd ond roeddwn yn dal i orfod gweithio yn ystod y gwyliau hyd yn oed.
Parhau i ddarllen

Ai dim ond opsiwn i bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol yw prentisiaethau? #nidrhyhennebiddysgu #olddognewtricks

Newid gyrfa a chychwyn Prentisiaeth Ddigidol, Data a Thechnoleg

Read this page in English

Sut gyrhaeddais i yma?

Llun o Ted, Prentis Digidol, Data a TechnolegRoeddwn yn Rheolwr Prosiect i BT am 25 mlynedd, a 12 mis yn ôl roedd cyfle i mi dderbyn telerau dileu swydd.

Roeddwn i wedi mwynhau fy ngyrfa efo BT, ond roeddwn i’n teimlo fy mod, ar ôl treulio’r 10-15 mlynedd flaenorol yn rheoli prosiectau a oedd yn cyflwyno seilwaith TG, eisiau cyfle ‘i weld pethau o’r ochr arall’ ac i ymwneud â’r ochr dechnegol o’r byd TGCh. Parhau i ddarllen