Ym mis Gorffennaf, gwnaethom roi gwybod i chi am ein cynlluniau i gynnal gweithdy data agored, ac yn awr mae gennym ragor o newyddion.
Ble a phryd?
Cynhelir y digwyddiad yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ar fore 6 Tachwedd 2019. Rydym yn bwriadu cychwyn am 10am a dylai fod wedi gorffen erbyn 1pm.
Pam dod i’r gweithdy hwn?
Bydd y gweithdy yn gyfle i drafod yr heriau sy’n gysylltiedig â chyhoeddi data agored, eu darganfod, a’u hailddefnyddio a sut y gallwn ddechrau goresgyn yr heriau hyn gyda’n gilydd.
Byddwn hefyd yn cyflwyno pawb i ambell brosiect data agored yr ydym wrthi’n gweithio arnynt. Rydym yn gobeithio casglu’ch barn ynglŷn â’r hyn rydym wedi bod yn ei wneud hyd yma, a beth yw ein camau nesaf.
I bwy mae’r gweithdy hwn?
Rydym yn gobeithio denu pobl o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat sy’n cyhoeddi a/neu’n defnyddio data agored yng Nghymru (neu’n ceisio gwneud hyn). Felly, byddwn yn cymryd yn ganiataol bod gan bobl ddealltwriaeth dda o beth yw data agored.
Agenda’r diwrnod
Dyma’r cynlluniau ar gyfer y gweithdy – wrth gwrs, bydd te, bisgedi a chacennau cri ar gael i chi drwy gydol y bore.
Sesiwn 1: Gweithdy Data Agored
Bydd y sesiwn yn trafod y rhwystrau cyfredol i gyhoeddi a defnyddio data agored ac yn ystyried atebion posibl, gan gynnwys datblygu canllawiau data agored nad yw’n orfodol ar gyfer cyrff cyhoeddus. |
Sesiwn 2: Map Data Cymru
Yn ystod y sesiwn hon byddwn yn arddangos ac yn casglu barn am Map Data Cymru – platfform daearofodol sector cyhoeddus newydd Cymru. |
Sesiwn 3: Catalog Data Agored
Yn ystod y sesiwn hon byddwn yn cyflwyno pawb i’r Catalog Data Agored yr ydym wedi bod yn gweithio arno. Byddwn hefyd yn ceisio cael barn pobl i ganfod a ydynt yn credu y gall eu helpu i ddod o hyd i ddata agored yn haws. |
Sut i gofrestru
Mae’r digwyddiad hwn am ddim, ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael.
Os hoffech gadw lle, anfonwch e-bost at digitalanddatablog@llyw.cymru a rhoi’r wybodaeth a ganlyn:
- Eich enw
- Sefydliad
- Manylion cyswllt
- Crynodeb o’ch diddordeb mewn data agored, gan gynnwys a ydych yn cyhoeddi a/neu’n defnyddio data agored.
- Eich dewis iaith, Cymraeg neu Saesneg, ar gyfer y gweithdy
- Unrhyw ofynion ychwanegol
Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio at ddibenion y gweithdy hwn yn unig, a bydd yn cael ei thrin yn unol â hysbysiad preifatrwydd Llywodraeth Cymru.