Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: GDP ar lefel Gwlad a Rhanbarth

Read this page in English

Ar y 5ed o Fedi, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, am y tro cyntaf, amcangyfrifon GDP tymor byr ar gyfer Cymru a rhanbarthau Lloegr. Yn y blog hwn, rydym yn esbonio beth mae’r data’n ei ddangos a beth maen nhw’n ei olygu i ddata eraill o Gymru.

Cynnyrch Domestig Gros (GDP) Cymru

Mae’r Cynnyrch Domestig Gros (GDP) yn mesur maint economi gwlad – holl werth y nwyddau a’r gwasanaethau a gynhyrchir – ac mae’n fesur pwysig o berfformiad economi. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) sy’n gyfrifol am lunio amcangyfrifon o GDP y DU. Maen nhw’n seiliedig ar swm anferth o ddata a gesglir oddi wrth fusnesau, cofnodion TAW a ffynonellau eraill. Tan nawr, nid oes amcangyfrif swyddogol wedi bod yn cael ei wneud o GDP Cymru. Nid mater rhwydd yw rhannu’r data yn ôl gwlad neu ranbarth, gan fod busnesau’n gweithio ar draws ffiniau gwlad a rhanbarth a gall fod yn anodd dweud ‘ble’ mae gwerth cynnyrch neu wasanaeth wedi’i greu.

Gan ddefnyddio’r arian a ddarparwyd i wella data rhanbarthol yn dilyn Adolygiad Bean o ystadegau economaidd, mae’r ONS newydd ddatblygu methodoleg newydd ar gyfer amcangyfrif GDP Cymru a naw rhanbarth Lloegr a chyhoeddodd yr amcangyfrifon cyntaf o’r GDP ar lefel Gwlad a Rhanbarth ar 5 Medi . Am y tro o leiaf, mae’r ystadegau’n cael eu galw’n rhai ‘arbrofol’, gan fod y dull yn newydd ac efallai y bydd yn rhaid ei newid yn sgil profion ac adborth.

Y gwahaniaeth rhwng GDP a mesurau eraill

Mae’n bwysig yn ein  barn ni ein bod yn defnyddio basged o ddangosyddion sy’n mesur incwm, allbwn economaidd, tlodi, cyfoeth a’r farchnad lafur, i fonitro economi Cymru. Mae hynny’n sicrhau bod economi Cymru’n cael ei hystyried yn ei chyfanrwydd ac mae’n gyson â safbwynt arbenigwyr rhyngwladol. Byddwn yn ychwanegu’r GDP rhanbarthol at y casgliad hwn o ddangosyddion cyn bo hir iawn.

Tan nawr, ein mesur gorau a mwyaf amserol o allbwn economi Cymru oedd y Dangosyddion Allbwn Tymor Byr (STOI), a gynhyrchwyd ar ein rhan gan yr ONS. Mae’r mesurau hyn yn dangos symudiadau tymor byr yn allbwn cwmnïau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau’r farchnad, sydd rhyngddynt yn cyfrif am ryw 75 y cant o economi Cymru. Maen nhw i gyd yn ddangosyddion cymharol amserol – yn cael eu cyhoeddi ryw dri mis ar ôl y cyfnod cyfeirio – ond dydyn nhw ddim yn ymdrin â’r economi gyfan ac o ran methodoleg, nid oes modd eu cymharu â mesurau swyddogol y GDP.

O ran eu cysyniad, mae STOI a GDP Rhanbarthol yn debyg – maen nhw’n amcangyfrif newidiadau yn allbwn busnesau dros gyfnod o amser. Ond mae’r GDP Rhanbarthol yn rhoi golwg fwy cynhwysfawr i ni o’r economi a bydd modd ei gymharu â gwledydd a rhanbarthau eraill y DU.

O ran methodoleg, y prif wahaniaeth yw bod y GDP Rhanbarthol yn defnyddio mwy o ddata gweinyddol. Mae bron yn gwbl seiliedig ar daliadau TAW – tra bo STOI yn seiliedig ar arolygon yn bennaf. Mae data TAW yn cymryd ychydig mwy o amser i ymddangos, sy’n golygu y caiff yr amcangyfrifon newydd o’r GDP eu cyhoeddi fel arfer chwe mis ar ôl diwedd y cyfnod cyfeirio. Mae’r ONS yn credu bod data TAW yn ddangosyddion mwy cynhwysfawr a dibynadwy o allbwn ar lefel ranbarthol.

Yn gryno felly, mae’r GDP Rhanbarthol yn llai amserol na’r STOI ond mae’n fwy cynhwysfawr, ac  yn well ar gyfer ei gymharu â rhanbarthau eraill.

Y dangosydd arall allweddol o allbwn yr economi yw Gwerth Ychwanegol Gros (GVA). O ran ei gysyniad, mae’r GVA yn debyg i GDP ond tra bo’r GDP yn mesur cyfanswm gwerth (terfynol) nwyddau a gwasanaethau, mae’r GVA yn mesur y gwerth a ychwanegir yn y broses gynhyrchu ei hun. Paratoir ystadegau GVA rhanbarthol gan yr ONS. Mae modd cymharu GVA Cymru â gwledydd a rhanbarthau eraill y DU ac mae’r ffigurau ar gael i lawr hyd at lefel awdurdod lleol. Fodd bynnag, nid yw’r amcangyfrifon o GVA rhanbarthol yn dangos newidiadau tymor byr (maen nhw’n ymdrin â blwyddyn galendr ar y tro) ac maen nhw’n cael eu cyhoeddi ryw flwyddyn ar ôl y cyfnod cyfeirio.

Beth mae’r ystadegau newydd yn ei ddweud?

Mae’r data’n awgrymu i GDP Cymru dyfu 0.3 y cant yn Chwarter 4 (Hydref – Rhagfyr) 2018, a 2.3 y cant dros y flwyddyn.  Ar gyfer y DU yn gyfan, gwelwyd cynnydd o 0.2 y cant yn Chwarter 4 ac 1.5 y cant dros y flwyddyn.  O 12 gwlad a rhanbarth y DU, Cymru welodd y cynnydd ail fwyaf yn y chwarter olaf.

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y sector cynhyrchu yn dangos na fu newid yn Chwarter 4 ac y bu cwymp o 0.8 y cant yn 2018.  Mae’r rhain yn fwy positif nag amcangyfrifon cyfatebol STOI (minws 1.0 y cant yn Chwarter 4 a minws 1.7 y cant dros y flwyddyn).  Yn y sector adeiladu, gwelwyd cynnydd o 3.3 y cant yn Chwarter 4 ac o 17 y cant dros y flwyddyn, sy’n eithaf agos i amcangyfrif STOI o 4.4 y cant ac 17.8 y cant.  Fel dangosyddion economaidd eraill, fodd bynnag, mae ffigurau STOI a GDP yn gallu bod yn gyfnewidiol o’u mesur yn chwarterol, gan ei gwneud hi’n anodd dehongli newidiadau tymor byr.  Mae hynny’n arbennig o wir ar lefel diwydiannau unigol.  Ar hyn o bryd, nid ydym yn gallu cymharu amcangyfrifon ar gyfer gwasanaethau gan nad yw’r sectorau GDP a STOI yn cyfateb.  Byddwn am gynhyrchu amcangyfrif o GDP cyfatebol gwasanaethau’r farchnad yn y man er mwyn gallu ei gymharu â chyfres STOI.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Ar ôl y cyhoeddiad cyntaf hwn, caiff y GDP rhanbarthol ei gyhoeddi bob chwarter, 6 mis ar ôl y cyfnod cyfeirio. Bydd yr ONS yn ymgynghori i asesu ansawdd a phriodoldeb yr ystadegau newydd a chyn hir, byddwn yn dechrau casglu barn defnyddwyr ystadegau economaidd Cymru. Byddai’n ddiddorol gwybod sut y caiff y data eu defnyddio, ac at ba ddiben.  Hoffem wybod i ba raddau y mae’r gyfres newydd yn diwallu anghenion Cymru ac a oes dal angen parhau i ddefnyddio STOI. I’n helpu yn hyn o beth, byddwn yn parhau i gyhoeddi STOI am yr ychydig chwarteri nesaf er mwyn deall yr hyn sy’n wahanol ac yn debyg rhwng y ddwy gyfres a’u cryfderau a’u cyfyngiadau cymharol. Er mwyn i ddefnyddwyr ddeall sut y gallent ddefnyddio’r data, byddai’n bwysig deall hefyd i ba raddau y gallai ffigurau GDP chwarterol gael eu hadolygu, sut maen nhw’n cymharu â’r adolygiadau o’r STOI a sut y gallent fod yn wahanol mewn sectorau gwahanol yn yr economi.

Dros y tymor hwy, mae’r ONS yn bwriadu gweithio at eu hachredu fel Ystadegau Gwladol i gymryd lle’r dynodiad ‘arbrofol’ presennol. Mae ystadegau sydd wedi cael statws Ystadegau Gwladol yn ystadegau swyddogol sy’n bodloni’r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Am y tro, os hoffech gysylltu â ni i ddweud beth ydych chi’n ei feddwl am STOI neu’r ystadegau newydd, e-bostiwch economic.stats@gov.wales

Stephanie Howarth
Pennaeth ystadegau’r economi, sgiliau ac adnoddau naturiol