Mae Dr Richard Fry yn Uwch Ddarlithydd mewn Daearyddiaeth a Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Yma, mae’n esbonio sut mae data geo-ofodol a mapio daearyddol yn cyfrannu at gynhyrchu gwaith ymchwil i lywio polisi yng Nghymru.
Mae Cymru’n wlad amrywiol o ran daearyddiaeth a chymdeithas, sy’n golygu bod y man lle’r ydym yn byw ac yn gweithio yn cyfrannu’n fawr at ein hiechyd a’n lles. Gan fod yr effaith ar iechyd a lles yn ganolog i bob penderfyniad am bolisi yng Nghymru, mae’n amlwg bod angen i ni, fel cenedl, ddeall mwy am sut a pham mae ein daearyddiaeth yn effeithio arnom yng Nghymru. Parhau i ddarllen
Mae lleoliad yn elfen ddiffiniol o’r ffordd rydym yn byw, gweithio a chymdeithasu. Mae’n gallu cael effaith ar y gwasanaethau a mannau y mae gennym fynediad atynt, yr iaith a’r acen y siaradwn ynddynt, hyd yn oed ansawdd ein cysylltiad wi-fi. Mae deall y byd yn nhermau lleoliad, gan ddefnyddio data wedi eu seilio ar leoliad, yn hanfodol i weithrediad cymdeithas fodern. Mae hyn yn cael ei arddangos yn fwyaf trawiadol heddiw gan y rôl mae data lleoliad yn parhau i’w chwarae yn yr ymateb i’r pandemig coronafeirws a’r adferiad ar ei ôl. Ydy’r cwestiwn o ‘ble?’ erioed wedi bod yn fwy perthnasol?