Ar 27 Tachwedd, byddwn yn cyhoeddi Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019. Bydd hyn yn set newydd o safleoedd o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru.
Mae bwlch o bum mlynedd ers MALIC 2014. Yn ystod y cyfnod hwnnw rydym wedi gweld llawer o ddatblygiadau cyffrous o ran data, ynghyd â gwelliannau i dechnegau. Gall y rhain ein helpu â’r cyfrifon cymhleth sydd eu hangen.
Yn ystod y gwanwyn, cyhoeddwyd crynodeb o’ch safbwyntiau ar ba ddata y dylem eu defnyddio i ddiweddaru MALlC. Diolch i’r bobl a’r sefydliadau, dros 80 ohonynt, a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad a’r seminarau am sicrhau bod modd inni gyflawni hyn. Rydym hefyd wedi amlinellu ein cynlluniau ar gyfer misoedd olaf y gwaith datblygu ar gyfer pob un o’r 8 maes amddifadedd sydd wedi’i gynnwys yn y mynegai. Mae’r blog hwn yn ffordd o’ch atgoffa am y cynlluniau hynny cyn cyhoeddi’r canlyniadau ac mae’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf amdanynt.
Data newydd ar addysg ac iechyd
Yn y maes iechyd, rydym yn ychwanegu data newydd ar ordewdra ymysg plant oed dosbarth derbyn i atgyfnerthu’r hyn yr ydym yn ei wybod am iechyd plant a’r hyn yr ydym yn ei ragweld ar gyfer iechyd yn y dyfodol. Rydym yn dal i weithio’n galed i ehangu’r materion iechyd sydd wedi’u cynnwys yn y Mynegai, gan ddefnyddio diagnosis a wnaed gan feddygon teulu ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau iechyd cronig ac iechyd meddwl.
I fesur amddifadedd o safbwynt addysgol, byddwn yn edrych am y tro cyntaf ar ganlyniadau’r Cyfnod Sylfaen, cam cychwynnol addysg statudol i blant hyd at 7 oed. Rydym yn dal i weithio ar ddata i adlewyrchu cyrchfan pobl ifanc 16 oed; faint sy’n mynd ymlaen i Addysg Bellach neu Addysg Uwch dair blynedd yn ddiweddarach?
Gwelliannau hir-ddisgwyliedig i’r maes tai
Nid ydym wedi bod yn fodlon ar ansawdd y data ar amddifadedd tai mewn sawl fersiwn o’r Mynegai. Y tro hwn, rydym wedi comisiynu amcangyfrifon wedi’u modelu o dai o ansawdd isel ar draws yr holl ddeiliadaethau tai, gan ategu un o ddangosyddion y Cyfrifiad ar dai gorlawn. Mae’r rhain yn amcangyfrif pa mor debygol ydyw bod tai mewn ardal benodol mewn cyflwr gwael neu’n cynnwys peryglon difrifol (er enghraifft, risgiau o gwympiadau neu dai oer).
Defnyddio dulliau newydd
Rydym wedi bod yn datblygu is-barth newydd ar gyfer yr amgylchedd ffisegol i fesur hygyrchedd, agosatrwydd a gwelededd mannau gwyrdd naturiol. Mae haen Mannau Gwyrdd Agored yr Arolwg Ordnans wedi cael ei defnyddio ar y cyd â rhestr Cyfoeth Naturiol Cymru o safleoedd Mannau Gwyrdd Naturiol i amcangyfrif cyfran yr aelwydydd mewn ardal benodol sydd o fewn 5 i 10 munud ar droed i fan gwyrdd naturiol hygyrch. Hefyd, rydym yn bwriadu cynnwys dangosydd sy’n mesur maint y man gwyrdd yn yr amgylchedd cyfagos mewn ardal benodol.
Fel enghraifft, mae’r map isod yn dangos (mewn gwyrdd golau) yr ardaloedd o fewn 300 metr i fan gwyrdd naturiol hygyrch, mewn ardal o Gaerdydd.
Hefyd, I wella’r ffordd yr ydym yn mesur mynediad at wasanaethau, rydym wedi bod yn gweithio gyda’r Campws Gwyddor Data yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar eu hadnodd newydd i ddadansoddi teithiau trafnidiaeth aml-ddull. Bydd yr adnodd ‘propeR’, sydd wedi’i ysgrifennu ar gyfer yr iaith rhaglennu R, yn gwella manylder a llyfnder wrth ddadansoddi amser teithiau trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, a thu hwnt. Rydym hefyd yn cyflwyno ffordd o fesur argaeledd llinell sefydlog, band eang cyflym iawn. Bydd hyn yn ehangu ein mynediad at faes gwasanaethau, a oedd yn arfer cynnwys dim ond amseroedd teithio, i gynnwys mynediad ar-lein hefyd.
Byddwn yn edrych yn fanylach ar y data gyda dadansoddwyr o awdurdodau lleol ddechrau mis Tachwedd. Rydym yn dal i obeithio y bydd y rhan fwyaf o’r datblygiadau hyn yn cael eu cynnwys yn y Mynegai. Bydd hyn yn ein helpu i roi darlun gwell a diweddarach o amddifadedd yng Nghymru.
Felly beth yn union ydym yn ei gyhoeddi?
Erbyn hyn mae gennym restr lawn o’r hyn yr ydym yn bwriadu ei gyhoeddi a pha bryd, ar ein gwefan. Bydd hyn yn cynnwys canllawiau gwell, a chyflwyniadau y gellir eu rhannu â phobl eraill er mwyn helpu pob un ohonom i wneud gwell defnydd o MALlC i fynd i’r afael ag amddifadedd yng Nghymru. Mae MALlC yn gynnyrch cymhleth, ac rydym yn awyddus i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio a’i ddehongli’n gywir gan bob defnyddiwr.
Glyn Jones
Y Prif Ystadegydd