Mae’r cysyniad o Ddata Agored yn bodoli ers nifer o flynyddoedd ac er bod gwell dealltwriaeth bellach o’r hyn ydyw a sut y gellir ei ddefnyddio, mae cyrff sector cyhoeddus yng Nghymru yn dal i wynebu heriau wrth gyhoeddi eu data yn agored.
Mae rhai o’r heriau hyn yn cynnwys:
- Pa ddata ddylen ni eu rhyddhau?
- Pa fformatau ddylen ni eu defnyddio?
- Beth os nad yw ein data o’r safon uchaf?
- Pa ddata mae pobl eu heisiau mewn gwirionedd?
Ac nid y bobl sy’n cyhoeddi’r data yw’r unig rai sy’n wynebu heriau. Mae’r bobl hynny sydd eisiau defnyddio data agored yn wynebu eu heriau eu hunain hefyd, fel:
- Ym mhle allaf i ddod o hyd i’r data agored yr wyf eu hangen?
- Sut allaf i gael mynediad i’r data?
- A oes unrhyw gyfyngiadau?
Os ydych chi’n wynebu’r heriau hyn, neu os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio Data Agored, efallai y byddai gennych ddiddordeb yn y gweithdy yr ydym yn ei drefnu yn yr hydref.
Ymateb i’r her
Nod y gweithdy yw darganfod mwy am yr heriau yr ydych yn eu hwynebu fel cyhoeddwyr a/neu ddefnyddwyr data agored, ymchwilio i’r prif rwystrau ac ystyried rhai o’r atebion posibl. Bydd hefyd yn gyfle i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi ynglŷn â rhai o’r prosiectau data agored cysylltiedig yr ydym yn gweithio arnynt.
Felly, os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y gweithdy, anfonwch neges e-bost i blogdigidoladata@llyw.cymru gan nodi’r wybodaeth a ganlyn:
- Eich enw
- Eich sefydliad
- Manylion cyswllt
- Crynodeb o’ch diddordeb mewn data agored, gan gynnwys a ydych yn cyhoeddi a/neu’n defnyddio data agored.
Hoffem gadarnhau y defnyddir yr wybodaeth hon at ddibenion y gweithdy yn unig ac y bydd yn cael ei thrin yn unol â’n hysbysiad preifatrwydd Llywodraeth Cymru.