Amdano’r Blog

Read this page in English

Beth allwch ddisgwyl o’r blog

Fydd y blog yma’n rhoi diweddariad a gwybodaeth am brosiectau digidol, data a TGC yn Llywodraeth Cymru. Trwy rannu manylion y prosiectau yma, rydym yn anelu i adeiladu fwy o ymwybyddiaeth a gwybodaeth am y gwaith yr ydym yn gwneud o fewn Llywodraeth Cymru.  Rydyn ni hefyd yn gobeithio bydd y blog yma’n annog fwy ohonoch i gysylltu â ni ynghylch y gwaith yma.

Ar adegau fydd ein blogiau’n cyfeirio at gwahanol cynhyrch, gwasanaethau neu gwefannau, nid yw rhain yn gymeradwyaeth nac yn argymhelliad gan Llywodraeth Cymru mewn unrhyw ffordd.

Cyfranwyr i’r blog

Fydd y postiai yn cael eu hysgrifennu gan amryw o bobl sy’n gweithio ar draws Llywodraeth Cymru ac ynghlwm â amryw o brosiectau digidol, data a TGC.

Fydd y blog hefyd yn cynnwys cyfraniad rheolaidd gan y Prif Swyddog Digidol a’r Prif Ystadegydd.

Mae’r Prif Ystadegydd yn defynyddio’r blog i roi gwybodaeth i ddefnyddwyr ystadegau am ddatblygiadau ystadegol ac i geisio am eu sylwadau ar unrhyw newidiadau i allbynnau ystadegol. Mae hwn yn cydfynd â gofynion y Côd Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol i fod yn dryloyw mewn cynllunio ystadegol ac i ymgysylltu â defnyddwyr o ystadegau.

Diweddariadau archif y Prif Ystadegydd .

Yn achlysurol byddwn yn gwahodd pobl o du allan i Lywodraeth Cymru i ysgrifennu Blog Gwadd. Barn y blogwyr gwadd eu hun yw unrhyw farn a fynegir a dydyn nhw ddim o reidrwydd yn adlewyrchu barn na pholisïau Llywodraeth Cymru.

Sut i gyfrannu

Ar waelod bob blog, gallwch gosod sylwad/cwestiwn. Cyfeiriwch at ein Canllawiau Cyfranogi ar gyfer ein telerau cyfrannu ac amseroedd ymateb.