Sylwadau cychwynnol prentis ym maes ymchwil ar ddefnyddwyr

Read this page in English

Trwy gydol fy nyddiau ysgol roeddwn yn cymryd diléit mewn cynllunio a helpu i greu pethau newydd i eraill (fy hoff wers oedd Tecstilau). Dwi ddim yn awgrymu bod creu ffrog yr un peth â gweithredu polisi, ond maent yn galw am angenrheidiau tebyg. Ymhlith y rhain mae defnyddiwr hapus (gobeithio), cynnyrch terfynol, a’r ymdeimlad yna o lwyddiant!  Fel mae’n digwydd, drwy ddarganfod yr hyn yr oedd pobl ei angen, a thrwy ymaddasu i’w hanghenion, roeddwn mewn gwirionedd yn gwneud rhywbeth a elwir yn ymchwil ar ddefnyddwyr.

Parhau i ddarllen

O Safon Uwch i Brentisiaeth

Read this page in English

Llun o Tia, Prentis Digidol Data a Thechnoleg

Roedd cynllunio ar gyfer fy nyfodol yn edrych fel pe bai’n mynd i fod yn un o benderfyniadau mwyaf fy mywyd, ac felly mi geisiais ei osgoi. Wrth dynnu at ddiwedd fy nghyfnod Safon Uwch eleni, nid oeddwn i’n siŵr beth oedd fy hoff bwnc nac a oeddwn am fynd i’r brifysgol. Roeddwn i’n hollol ddi-glem. Er hynny, ar ôl siarad â phobl brofiadol cefais y cyfle gwych hwn, sy’n rhoi digonedd o ddewis i mi. Parhau i ddarllen

Prentisiaethau – rhy dda i fod yn wir?

Read this page in English

Llun o Dom, Prentis Digidol, Data a Thechnoleg

Cyn ymuno â Llywodraeth Cymru, fe wnes i gwblhau cwrs gradd mewn Hanes ym Mhrifysgol Reading. Ar ôl graddio, doeddwn i ddim yn siŵr pa lwybr roeddwn i eisiau’i ddilyn o ran gyrfa, gan mai dim ond swyddi rhan-amser fel disgybl ysgol oeddwn i erioed wedi’u gwneud. Dros y Nadolig, dechreuais weithio fel cynorthwyydd cwsmeriaid mewn siop a dechreuais ddatblygu fy mhrofiad a’m sgiliau.  Ar ôl tair blynedd mewn gwahanol rolau roeddwn i wedi dod i’r canlyniad nad gyrfa hirdymor mewn rheoli manwerthu oedd y peth i mi felly dechreuais edrych am lwybr gyrfa gwahanol oedd yn cyd-fynd â’m diddordebau. Yn y dechrau, doeddwn i ddim yn siŵr a ddylwn i fynd yn ôl i’r brifysgol i barhau â’m haddysg; ond roeddwn wedi fy siomi o weld y rhagolygon posibl yr oedd gradd meistr mewn Hanes yn eu cynnig. Anfonais un ffurflen gais ar ôl y llall am amrywiaeth eang o swyddi, o swydd gyda’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i weithio yn y gwasanaeth Rheoli Traffig Awyr – gyda’m bryd ar roi tro ar rywbeth gwahanol. Parhau i ddarllen

O Farcio Llyfrau i Ddadansoddi Busnes!

Llun o Josh, Prentis Digidol, Data a ThechnolegRead this page in English

Ym mis Mawrth 2019, gadawais fy swydd addysgu i ymuno â Llywodraeth Cymru fel Prentis Llwybr Digidol, Data a Thechnoleg. Rwy’n tynnu tuag at derfyn fy lleoliad cyntaf ar y cynllun erbyn hyn ac mae hi eisoes yn amlwg na allwn fod wedi gwneud dewis gwell i adfywio fy ngyrfa a’i diogelu ar gyfer y dyfodol.

Cyn cofrestru ar gyfer y Brentisiaeth Llwybr Digidol, Data a Thechnoleg, treuliais 5 mlynedd yn gweithio fel Athro, gan arbenigo mewn Addysg Gynradd ac Anghenion Addysgol Arbennig. Er fy mod yn cael bodd wrth weithio, roedd ffocws y gwaith yn aml yn weinyddol ac roedd rhaid imi weithio y tu allan i oriau fy nghontract yn rheolaidd er mwyn diwallu anghenion y rôl. Roedd y gwyliau haf chwe wythnos yn helpu rhywfaint i unioni’r cydbwysedd ond roeddwn yn dal i orfod gweithio yn ystod y gwyliau hyd yn oed.
Parhau i ddarllen

Ai dim ond opsiwn i bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol yw prentisiaethau? #nidrhyhennebiddysgu #olddognewtricks

Newid gyrfa a chychwyn Prentisiaeth Ddigidol, Data a Thechnoleg

Read this page in English

Sut gyrhaeddais i yma?

Llun o Ted, Prentis Digidol, Data a TechnolegRoeddwn yn Rheolwr Prosiect i BT am 25 mlynedd, a 12 mis yn ôl roedd cyfle i mi dderbyn telerau dileu swydd.

Roeddwn i wedi mwynhau fy ngyrfa efo BT, ond roeddwn i’n teimlo fy mod, ar ôl treulio’r 10-15 mlynedd flaenorol yn rheoli prosiectau a oedd yn cyflwyno seilwaith TG, eisiau cyfle ‘i weld pethau o’r ochr arall’ ac i ymwneud â’r ochr dechnegol o’r byd TGCh. Parhau i ddarllen

Cwestiynau Cyflym i’n Datblygwr Newydd

Read this page in English

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd blog oedd yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn recriwtio i rolau Digidol, Data a Thechnoleg ac yn sôn am ein dymuniad i gynyddu ein sgiliau a’n gallu mewnol yn y meysydd hyn. Fel rhan o’r broses recriwtio ddiweddar hon, rydym wedi cyflogi Datblygwr newydd i’r Tîm Digidol Corfforaethol, ac rydym yn hynod gyffrous i’w groesawu i’r sefydliad. Felly, pa ffordd well o ddod i’w adnabod na gofyn iddo ateb cyfres o gwestiynau cyflym?

Parhau i ddarllen

Dydyn ni ddim yn gwybod pwy ydych chi, ond os oes gennych set benodol iawn o sgiliau byddwn yn dod o hyd i chi…

Read this page in English

Efallai i chi sylwi’n ddiweddar ar ffrwd Twitter y Prif Swyddog Digidol (ac os na, dylech ein dilyn ar @cdocymru) ein bod wedi dechrau hysbysebu am arbenigwyr digidol, data a thechnoleg. Gan y bydd nifer o ymarferion recriwtio dros y misoedd nesaf, fe benderfynom ysgrifennu blog i roi rhagor o wybodaeth i chi am ein rhesymau dros recriwtio a’r hyn sydd gan Lywodraeth Cymru i’w gynnig. Parhau i ddarllen