Canllawiau cyfranogi

Read this page in English

DYLECH

  • Barchu eraill sy’n defnyddio’r safle
  • Cadw at y pwnc
  • Cadw’ch sylwadau’n gryno

NI DDYLECH

  • Ddefnyddio iaith sarhaus, ymfflamychol neu gythruddol (mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, rhegi a sylwadau anweddus neu ddi-chwaeth)
  • Torri’r gyfraith (mae hyn yn cynnwys enllib, esgusodi gweithgarwch anghyfreithlon a dirmyg llys)
  • Defnyddio’r safle at ddibenion plaid wleidyddol (arian cyhoeddus sy’n talu am y safle, felly mae’n amhriodol ymwneud â gweithgarwch plaid wleidyddol)
  • Postio gwybodaeth bersonol mewn sylwadau fel cyfeiriadau, rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost neu fanylion cyswllt ar-lein eraill sy’n berthnasol i chi neu unigolion eraill
  • Dynwared neu honni eich bod yn cynrychioli person neu sefydliad
  • Ceisio mewngofnodi drwy gyfrif defnyddiwr arall
  • Hyrwyddo unrhyw gynnyrch, gwasanaeth neu gyhoeddiad masnachol nad ydynt yn berthnasol i’r drafodaeth
  • Gwneud sylwadau i fynd ati i hyrwyddo eich prosiectau, gwefannau neu gyfrifon cyfryngau cymdeithasol

Os ydych chi’n 16 oed neu’n iau, rhaid i chi gael caniatâd gan eich rhiant neu warcheidwaid cyn postio sylw.

Sut byddwn ni’n ymateb i’ch sylw

Os yw’ch sylw yn cadw at y pwnc, yn ychwanegu gwerth at y drafodaeth ac yn rhywbeth y gallwn ymateb iddo’n gyhoeddus, byddwn yn ymateb o 5 diwrnod gwaith.

Os ydych yn gofyn am wybodaeth neu fanylion ynghylch un o sianelau neu wasanaethau eraill Llywodraeth Cymru, byddwn yn trosglwyddo’ch sylw at y tîm perthnasol.

Os ydych yn gwneud cwyn am Lywodraeth Cymru, byddwn yn trosglwyddo’ch sylwadau at yr Uned Gwynion.