
Cyn ymuno â Llywodraeth Cymru, fe wnes i gwblhau cwrs gradd mewn Hanes ym Mhrifysgol Reading. Ar ôl graddio, doeddwn i ddim yn siŵr pa lwybr roeddwn i eisiau’i ddilyn o ran gyrfa, gan mai dim ond swyddi rhan-amser fel disgybl ysgol oeddwn i erioed wedi’u gwneud. Dros y Nadolig, dechreuais weithio fel cynorthwyydd cwsmeriaid mewn siop a dechreuais ddatblygu fy mhrofiad a’m sgiliau. Ar ôl tair blynedd mewn gwahanol rolau roeddwn i wedi dod i’r canlyniad nad gyrfa hirdymor mewn rheoli manwerthu oedd y peth i mi felly dechreuais edrych am lwybr gyrfa gwahanol oedd yn cyd-fynd â’m diddordebau. Yn y dechrau, doeddwn i ddim yn siŵr a ddylwn i fynd yn ôl i’r brifysgol i barhau â’m haddysg; ond roeddwn wedi fy siomi o weld y rhagolygon posibl yr oedd gradd meistr mewn Hanes yn eu cynnig. Anfonais un ffurflen gais ar ôl y llall am amrywiaeth eang o swyddi, o swydd gyda’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i weithio yn y gwasanaeth Rheoli Traffig Awyr – gyda’m bryd ar roi tro ar rywbeth gwahanol. Parhau i ddarllen

Roeddwn yn Rheolwr Prosiect i BT am 25 mlynedd, a 12 mis yn ôl roedd cyfle i mi dderbyn telerau dileu swydd.
