Ym mis Hydref fe wnaeth Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol gyhoeddi fod cyflenwr wedi’i benodi i gefnogi cynllun peilot ar gyfer creu ‘Canolfan Ragoriaeth Caffael‘ i roi cymorth ymarferol i dimau caffael sector cyhoeddus yng Nghymru.
Parhau i ddarllenArchifau Categori: Strategaeth Ddigidol
Strategaeth Ddigidol i Gymru: blwyddyn yn ddiweddarach
Wedi’i bostio gan Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru
Mae bron i flwyddyn wedi mynd heibio ers i’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS, gyhoeddi Strategaeth Ddigidol i Gymru sy’n nodi ein huchelgais i ddefnyddio dull digidol i wneud pethau’n well i bobl, gwasanaethau cyhoeddus a chymuned fusnes Cymru.
Parhau i ddarllenStrategaeth Ddigidol Cymru: Diolch am eich sylwadau
Wedi’i bostio gan Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru
Rydym bellach wedi gorffen cyhoeddi’r gyfres o flogiau ar Strategaeth Ddigidol Cymru. Mae’r chwe amcan yn disgrifio ein huchelgais ar gyfer creu Cymru ddigidol, y canlyniadau yr hoffem eu cyflawni a’r camau gweithredu a fydd yn eu gwireddu.
Parhau i ddarllenStrategaeth Ddigidol i Gymru: Cenhadaeth 6 – Sgiliau Digidol
Post gan Huw Morris, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes
Dyma’r pumed mewn cyfres o flogiau sy’n amlinellu’r uchelgeisiau a’r cynlluniau ar gyfer ein Strategaeth Ddigidol i Gymru. Mae rhagor o wybodaeth yn y postiadau eraill yn y gyfres: blog rhagarweiniol; Cenhadaeth 1; Cenhadaeth 2; Cenhadaeth 3; Cenhadaeth 4; Cenhadaeth 5.
Cenhadaeth 6 – Creu gweithlu sydd â’r sgiliau digidol, y galluogrwydd a’r hyder i ragori yn y gweithle ac mewn bywyd bob dydd.
Dyma’r olaf yn ein cyfres o flogiau am y cenadaethau yn ein strategaeth ddigidol. Ond nid dyma’r lleiaf o bell ffordd. Mae sgiliau a chymhwysedd digidol yn hanfodol i bob agwedd ar y strategaeth hon, er mwyn datblygu hyder pobl i ddefnyddio technolegau digidol mewn bywyd bob dydd, arwain trawsnewid digidol ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus a gwella rhagolygon swyddi. Dyna pam mae gwella sgiliau digidol yn sail i’r strategaeth gyfan.
Parhau i ddarllenStrategaeth Ddigidol i Gymru: mwy o amser i helpu ni wella’r strategaeth
Post gan Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru
Diolch i bawb am eich diddordeb yn y Strategaeth Ddigidol ar gyfer Cymru hyd yma.
Strategaeth Ddigidol i Gymru: Cenhadaeth 5 – Cysylltedd Digidol
Postiad gan Lee Waters MS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Dyma’r chweched mewn cyfres o flogiau sy’n amlinellu’r uchelgeisiau a’r cynlluniau ar gyfer ein Strategaeth Ddigidol i Gymru. Ceir rhagor o wybodaeth yn y postiadau eraill yn y gyfres: blog rhagarweiniol ; Cenhadaeth 1 ; Cenhadaeth 2 ; Cenhadaeth 3.; Cenhadaeth 4.
Cenhadaeth 5: Cefnogir gwasanaethau gan seilwaith cyflym a dibynadwy
Ym mhob man o’n cwmpas, mae technoleg ddigidol yn sbarduno gwelliannau ym mron pob agwedd ar ein bywydau. Wrth gwrs, ni all unrhyw ddigideiddio ddigwydd heb y seilwaith sylfaenol sy’n cysylltu ein cyfrifiaduron, ein dyfeisiau a’n gwasanaethau ar-lein.
Mae Covid wedi amlygu’r angen am fwy o gyflymder cysylltedd a mynediad band eang, ac wrth i ni barhau i gadw pellter cymdeithasol, rydym yn dod yn fwy dibynnol ar wasanaethau digidol ar gyfer gweithio gartref, e-ddysgu, mynychu apwyntiadau meddygon teulu rhithwir, digwyddiadau ar-lein a llawer mwy. Ers dechrau’r pandemig, mae angen i lawer mwy o bobl gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus ar-lein, a bu mwy o ddibyniaeth ar y rhyngrwyd am wybodaeth a chyngor sydd wedi sbarduno trawsnewid mewn gwasanaethau digidol.
Parhau i ddarllenStrategaeth Ddigidol i Gymru: Cenhadaeth 4 – Cynhwysiant Digidol
Postiad gan Julie James, AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Dyma’r pumed mewn cyfres o flogiau sy’n amlinellu’r uchelgeisiau a’r cynlluniau ar gyfer ein Strategaeth Ddigidol i Gymru. Mae rhagor o wybodaeth yn y postiadau eraill yn y gyfres: blog rhagarweiniol ; Cenhadaeth 1 ; Cenhadaeth 2 ; Cenhadaeth 3.
Cenhadaeth 4: rhoi’r cymhelliant, y mynediad, y sgiliau a’r hyder i bobl ymgysylltu â byd cynyddol ddigidol, yn seiliedig ar eu hanghenion
Rwy’n eiriolwr brwd dros gynhwysiant ddigidol. Mae’r pandemig wedi tynnu sylw at ein dibyniaeth ar ddigidol – boed hynny i gael mynediad at wasanaethau iechyd, cadw mewn cysylltiad ag anwyliaid neu gynnal gweithgareddau dyddiol arferol fel archebu bwyd.
Fodd bynnag i’r rhai nad ydynt yn hyderus yn ddigidol, mae’r ddibyniaeth fwy hon ar ddigidol wedi pwysleisio’r rhaniad digidol sy’n ehangu’n gynyddol. Nid yw cynhwysiant digidol bellach yn ‘braf i’w gael’. Mae’n hanfodol bod yn rhan o gymdeithas fodern. Dyna pam y mae’n sail i’r holl deithiau yn ein strategaeth ddigidol.
Parhau i ddarllenStrategaeth Ddigidol i Gymru: Cenhadaeth 3 – Data a Chydweithredu
Post gan Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru
Dyma’r pedwerydd mewn cyfres o flogiau sy’n amlinellu’r uchelgeisiau a’r cynlluniau ar gyfer ein Strategaeth Ddigidol i Gymru. Mae rhagor o wybodaeth yn y postiadau eraill yn y gyfres: blog rhagarweiniol ; Cenhadaeth 1 ; Cenhadaeth 2.
Cenhadaeth 3 – Data a Chydweithredu: Mae gwasanaethau’n cael eu gwella drwy gydweithio, gyda data a gwybodaeth yn cael eu defnyddio a’u rhannu
Pan fyddwn yn ystyried sut y gallwn wneud pethau’n well yn ddigidol, rydym yn aml yn anwybyddu pwysigrwydd data. Mae data’n sail i bopeth digidol – boed yn ddata a roddwn i mewn, fel y cyfrinair i gael mynediad at fancio ar-lein, neu’r data sy’n dod allan, fel rhagolygon y tywydd ar gyfer y diwrnod canlynol.
Strategaeth Ddigidol i Gymru: Cenhadaeth 2 – Yr Economi Ddigidol
Post gan Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Dyma’r trydydd mewn cyfres o flogiau sy’n amlinellu’n huchelgais a’n cynlluniau ar gyfer ein Strategaeth Ddigidol i Gymru. Gweler y blog rhagarweiniol am ragor o gefndir a Chenhadaeth 1 ar wasanaethau digidol am yr hyn yr ydym wedi’i gyhoeddi hyd yn hyn.
Cenhadaeth 2 – Sbarduno twf economaidd, cynhyrchiant a chydnerthedd drwy groesawu a manteisio ar arloesedd digidol.
Fel yr wyf wedi dweud eisoes yn fy mlog cyntaf, mae ‘digidol’ yn ymwneud â mwy na thechnoleg yn unig – mae’n ymwneud â phobl hefyd. Mae hynny yr un mor wir yn achos ein heconomi.
Wrth inni ddod allan o’r pandemig ac ymadael â’r UE, bydd arloesedd digidol yn parhau’n rym a fydd yn tarfu ar ein bywydau. Ond mae manteision i hynny. Bydd yn golygu na fydd yn rhaid i bobl ymgymryd â thasgau bob dydd dibwys a bydd yn eu galluogi i fod yn fwy creadigol a chynhyrchiol. Bydd yn cefnogi swyddi sgiliau uwch y dyfodol. Bydd yn agor marchnadoedd newydd ar gyfer masnach. Bydd yn helpu i sbarduno economi llesiant ar gyfer pobl a busnesau Cymru.
Parhau i ddarllenStrategaeth Ddigidol i Gymru: Cenhadaeth 1 – Gwasanaethau Digidol
Post gan Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru
Dyma’r ail mewn cyfres o flogiau sy’n amlinellu yr uchelgeisiau a’r cynlluniau ar gyfer ein Strategaeth Ddigidol i Gymru. Gweler y blog cyflwyno am ragor o gefndir.
Cenhadaeth 1 – Gwasanaethau Digidol: Darparu a moderneiddio gwasanaethau i safon cyffredin fel eu bod yn syml, yn ddiogel a chyfleus
Fel y dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn ei flog cyflwyno yn gynharach yr wythnos hon, mae gwasanaethau digidol yn fwy am bobl a ffordd o feddwl na thechnoleg. Mae’n ymwneud â moderneiddio gwasanaethau o fewn sefydliadau a darparu gwasanaethau ar draws ffiniau sefydliadol yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr.
Parhau i ddarllen