Mae llawer o bobl yng Nghymru yn dod i gysylltiad â’n gwasanaethau gofal cymdeithasol bob blwyddyn, ac mae awdurdodau lleol yn gwario oddeutu chwarter o’u cyllid ar y gwasanaethau hyn. Yn ystod y flwyddyn 2017-18, rhoddwyd gwasanaethau i dros 75,000 o oedolion drwy gynllun gofal a chymorth, a chafodd bron i 50,000 o blant eu hasesu i weld a oedd angen gofal a chymorth arnynt.
Mae Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn adrodd ar ystadegau sy’n ymwneud â nifer o agweddau ar weithgarwch y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Gellir defnyddio’r ystadegau hyn i ddatblygu polisïau; helpu gyda gwaith dadansoddi awdurdodau lleol; a helpu pobl i ddeall ansawdd gwasanaethau cymdeithasol yn eu hardal.
Er mwyn gwella ein hystadegau gwasanaethau cymdeithasol, mae’r blog hwn yn disgrifio’r hyn a fydd yn wahanol pan fyddwn yn eu cyhoeddi yn nes ymlaen eleni.
Beth fydd yn newid?
Yn lle cyhoeddi nifer o adroddiadau ystadegol llai, rydym yn bwriadu cyfuno rhai o’r adroddiadau mewn cyhoeddiad mwy o faint. Bydd hynny’n rhoi darlun gwell o weithgarwch y gwasanaethau cymdeithasol ar draws Cymru, gan ddarparu mwy o naratif ac amlygu negeseuon allweddol yn y data mewn modd ystyrlon.
Rydym yn bwriadu tynnu ein gwybodaeth ynghyd, er mwyn cynnwys data am asesiadau, darparu gofal a chymorth, a gweithgarwch diogelu, ac ar yr un pryd bodloni anghenion gwahanol grwpiau o ddefnyddwyr ee plant, oedolion etc. Bydd y cyhoeddiad hwn hefyd yn cynnwys data gwariant cyllidol lefel uchel, ac yn cysylltu â mesurau perfformiad perthnasol i ychwanegu gwerth ac ehangu dealltwriaeth.
Rydym yn parhau i weithio i wella ansawdd data, ac i fod yn dryloyw ynghylch unrhyw faterion sy’n ymwneud â’r ystadegau yr ydym yn eu cyhoeddi. Felly bydd yr adroddiad hwn yn ymdrin ag ystadegau mewn modd arbrofol yn sgil y pryderon ynghylch ansawdd data sydd wedi codi yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bydd yr adroddiadau ystadegol hynny sy’n dod o dan y pennawd Ystadegau Gwladol yn parhau ar wahân, fel y bydd yr adroddiad ar Fesurau Perfformiad a’r ddau adroddiad sy’n seiliedig ar ddata plant ar lefel yr unigolyn.
Pam yr ydym yn gwneud hyn?
Mae’r newidiadau hyn yn adlewyrchu sgyrsiau a gynhaliwyd rhwng y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau a rhanddeiliaid fel rhan o’i hadolygiad o ansawdd a gwerth cyhoeddus ystadegau am ofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru, yn ogystal ag adborth a rannwyd gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru. Rydym hefyd wedi bod yn ystyried y ffordd orau o fodloni anghenion defnyddwyr ein gwasanaethau gofal cymdeithasol, ac roedd yr adborth gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau yn adlewyrchu llawer o’r hyn yr oeddem yn gwybod eisoes drwy ein hymchwil a’n syniadau ni ein hunain.
Mae rhanddeiliaid wedi dweud y byddai’n well pe bai’n haws cael mynediad at yr ystadegau, a’u bod yn darparu mwy o ddealltwriaeth, ac y dylai’r data a gesglir fod yn fwy cyson. Mae pryderon ynglŷn ag ansawdd a gwerth, a blychau yn yr ystadegau presennol sydd wedi eu cyhoeddi. Drwy gyfuno cyhoeddiadau a thynnu ar ddata o ffynonellau eraill, dylai fod yn bosibl creu darlun llawnach, ac ateb mwy o’r cwestiynau sydd gan ddefnyddwyr yr ystadegau.
Mae hyn hefyd yn cryfhau’r ffocws ar wella wrth baratoi ar gyfer defnyddio’r dull gweithredu diwygiedig i fesur perfformiad gwasanaethau cymdeithasol y mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori arno’n ddiweddar. Fel rhan o hyn, adolygir y data am wasanaethau cymdeithasol a gesglir oddi wrth awdurdodau lleol. Mae ystadegwyr yn cymryd rhan weithgar yn y broses adolygu hon ac yn y gwaith o ddatblygu gofynion data newydd ar gyfer 2020-21.
Rydym yn cydnabod yr effaith y mae’r newidiadau diweddar yn y ddeddfwriaeth wedi ei chael ar gymaroldeb, ac ar ba mor hawdd yw hi i gael gafael ar ddata ynghylch tueddiadau. Rydym hefyd yn cydnabod bod newidiadau i’r system casglu data yn effeithio ar gynnwys, a hefyd ar ba mor hawdd yw hi i gael gafael ar ddata. Mae gwaith yn mynd rhagddo i baratoi awdurdodau lleol ar gyfer newidiadau pellach o 2020-21, a fydd yn cynnwys cymorth i gasglu data mewn modd cyson ar draws Cymru, a datblygu mecanweithiau adrodd cyffredin.
Beth arall fyddwn yn ei wneud?
Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddarparu sicrwydd ansawdd mewn perthynas â data, ac yn ddiweddar rydym wedi ymweld â nifer o awdurdodau lleol i gael gwell ddealltwriaeth o sut y maent yn prosesu ac yn darparu’r data y maent yn eu rhoi inni. Byddwn hefyd yn edrych ar ffyrdd eraill o sicrhau bod ein data ar gael yn rhwydd ac mewn modd a fydd yn ategu’r hyn yr ydym yn ei wneud eisoes, megis darparu inffograffeg a dangosfyrddau.
Yn sgil yr ymgynghoriad, byddwn yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr ym maes polisi i ddeall y gofynion data, ac yn helpu i ddatblygu dogfennau a chanllawiau technegol ar gyfer casglu data yn 2020-21.
Byddwn yn parhau i gydweithio â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ar faterion sy’n effeithio ar ein hystadegau. Hefyd, byddwn yn parhau i weithio gyda darparwyr data gofal cymdeithasol eraill ar ddatblygiadau pellach yn y sector yng Nghymru. Ar ben hynny, rydym yn dechrau trafodaethau gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ac adrannau eraill yn y DU ynglŷn â sut y gallwn gydweithio i sicrhau bod ystadegau gwasanaethau cymdeithasol mwy ystyrlon ar gael ar draws y DU, a’u bod yn ystadegau haws eu deall.
Byddem yn hapus i glywed am unrhyw syniadau sydd gennych ynghylch sut y gallwn ddadansoddi a lledaenu ein hystadegau gwasanaethau cymdeithasol. Cysylltwch â ni drwy e-bostio ystadegau.gwascymdeithasol@llyw.cymru.
John Morris
Pennaeth yr uned ystadegau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a phoblogaeth