Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: gohirio amcanestyniadau is-genedlaethol poblogaeth a thai sail-2017

Read this page in English

O blith y setiau gwybodaeth yr ydym yn eu llunio, ein hamcanestyniadau poblogaeth awdurdod lleol yw un o’r rhai a ddefnyddir fwyaf. Mae’r amcanestyniadau yn edrych ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd i’r boblogaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan ddefnyddio hynny i ragweld tueddiadau’r dyfodol. Maent yn cael eu defnyddio i helpu amrywiaeth o sefydliadau i gynllunio ar gyfer y dyfodol (er enghraifft, i gynllunio tai, ysgolion, meithrinfeydd a gwasanaethau cymdeithasol), ac maent o gymorth hefyd er mwyn helpu i ddosbarthu arian hefyd. Nid ydynt yn ystyried unrhyw ddatblygiadau gwleidyddol nac economaidd a allai ddigwydd yn y dyfodol (er enghraifft, Brexit).

Rydym wedi bod yn llunio ein hamcanestyniadau is-genedlaethol ein hunain (ar gyfer awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol yng Nghymru) ers dros 15 mlynedd. Ers hynny, rydym wedi rhoi diweddariadau bob rhyw dair blynedd. Cafodd ein set ddiwethaf o amcanestyniadau, sef yr amcanestyniadau sy’n seiliedig ar 2014, eu cyhoeddi yn 2016.

Ar 31 Hydref roeddem wedi bwriadu cyhoeddi ein set ddiweddaraf o amcanestyniadau is-genedlaethol (yn seiliedig ar 2017). Fodd bynnag, yr wythnos hon, rydym wedi penderfynu eu gohirio. Mae hyn oherwydd data newydd a gyhoeddwyd yn gynharach yn yr wythnos a rhai materion a godwyd wrth sicrhau ansawdd yr amcanestyniadau yr oedd angen gwneud rhagor o waith i’w goresgyn.

Rydym yn rhoi llawer o werth ar gywirdeb yr hyn a gyhoeddwn ac roedd hi’n bwysig inni bwyso a mesur y ddau fater hyn cyn cyhoeddi set newydd o ddata a fydd yn llywio penderfyniadau am flynyddoedd i ddod.

Ddydd Llun, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ei hamcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol yn seiliedig ar 2018 (ar gyfer y DU a’r pedair gwlad). Am y tro cyntaf mewn hanes diweddar, mae’r prif amcanestyniad (sy’n defnyddio’r tueddiadau mwyaf diweddar i ragweld tueddiadau’r dyfodol) yn dangos gostyngiad rhagamcanol yn y boblogaeth yng Nghymru dros y tymor hirach. Mae’r ONS hefyd wedi cyhoeddi blog ynghylch sut mae’r amcanestyniadau’n seiliedig ar dueddiadau yn y gorffennol, ac ni ddylid eu trin fel rhagfynegiadau.

Mae’r amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol yn fewnbwn allweddol i’r amcanestyniadau is-genedlaethol. Roedd yr amcanestyniadau is-genedlaethol a oedd yn seiliedig ar 2017 yn defnyddio rhai o’r data sy’n sail i’r amcanestyniadau cenedlaethol a oedd yn seiliedig ar 2016. Byddai parhau i ddefnyddio’r rhain yn golygu y byddai ein hamcanestyniadau is-genedlaethol yn wahanol iawn i’r amcanestyniadau cenedlaethol mwyaf diweddar. Mae’r siart isod yn dangos y gwahaniaeth rhwng amcangyfrifon canol-blwyddyn o’r boblogaeth, prif amcanestyniad cenedlaethol sail-2018 a rhai blaenorol ar gyfer Cymru.

Mae Siart yn dangos gostyngiad yn y boblogaeth yng Nghymru dros y tymor hir am y tro cyntaf mewn hanes diweddar, yn ôl amcanestyniadau'r boblogaeth sail-2018.

Yn ogystal â hyn, yn dilyn cyhoeddi’r amcanestyniadau is-genedlaethol seiliedig ar 2014 yn 2016, codwyd rhai pryderon ynghylch pa mor debygol yw hi y byddai’r canlyniadau hyn i’w gweld dros y tymor hirach mewn perthynas â rhai awdurdodau lleol. Ar ôl ymchwilio i’r pryderon hyn, maent yn cael eu hachosi yn bennaf gan y rhagdybiaethau o ran mudo yn yr amcanestyniadau. Mae’r amcanestyniadau wastad wedi tybio na fydd y tueddiadau dros y blynyddoedd diwethaf ar gyfer mudo yn newid yn y dyfodol, sy’n debyg i’r ffordd y mae gwledydd eraill hefyd yn cyfrifo eu hamcanestyniadau. Er enghraifft, pe bai 1,500 o bobl yn gadael awdurdod lleol yn 2020 ond bod 1,600 o bobl yn symud i mewn (cynnydd o 100 o bobl) yna dyna fydd yr achos yn 2040 hefyd, hyd yn oed os bydd poblogaeth yr awdurdod lleol hwnnw wedi mynd yn fwy neu’n llai.

Mae’r dadansoddiad o’n canlyniadau newydd o’r amcanestyniadau diweddaraf a oedd fod i gael eu cyhoeddi ar 31 Hydref yn dangos rhai canlyniadau nad ydynt yn debygol o ddigwydd ar gyfer rhai awdurdodau lleol yn sgil y rhagdybiaethau mudo, ac rydym yn credu bod angen gwneud rhagor o waith i sicrhau bod gennym set o amcanestyniadau sy’n addas i’r diben.

Caiff yr amcanestyniadau poblogaeth is-genedlaethol eu cymeradwyo gan ein grŵp cynghori technegol, grŵp Amcanestyniadau Is-genedlaethol Cymru. Mae hwn yn grŵp o arbenigwyr ar ddemograffeg o awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol ledled Cymru. Rydym yn gwerthfawrogi’r grŵp cynghori hwn ac mae wedi rhoi’r her yr oedd ei hangen arnom i sicrhau bod yr amcanestyniadau’n gadarn, ond mae hefyd wedi ein helpu wrth inni wynebu materion yn y gorffennol. Maent yn gefnogol o ohirio’r ystadegau hyn.

Rydym yn ymwybodol ein bod ni eisoes wedi gohirio’r amcanestyniadau hyn o fis Awst i ddiwedd mis Hydref a bod llawer o’n defnyddwyr yn awyddus i gael y data hyn cyn gynted â phosibl.

Ar 31 Hydref byddwn yn cyhoeddi adroddiad byr a fydd yn rhoi ychydig yn fwy o fanylion ynghylch y materion a ddisgrifir uchod.

Byddwn yn cyhoeddi dyddiad newydd ar gyfer yr amcanestyniadau cyn gynted ag y gallwn.

Glyn Jones
Y Prif Ystadegydd

Ebost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru