Blog Digidol a Data

Cysylltu a rhannu

Fy mhrofiad i fel rhiant sy’n gweithio ac fel prentis gyda Llywodraeth Cymru

 

Read this page in English

Llun o Sheree, Prentis Digidol Data a ThechnolegYm mis Mawrth 2019, dechreuais ar brentisiaeth gyda Llywodraeth Cymru a rôl o fewn tîm Desg Wasanaeth Hwb oedd fy lleoliad cyntaf. Platfform Dysgu Digidol Cenedlaethol yw Hwb sy’n cynnwys casgliad cenedlaethol o raglenni digidol ac adnoddau i gefnogi dysgu ac addysgu yng Nghymru.

Pam dw i yma

Fe fues i’n gweithio mewn canolfan alwadau am dros 10 mlynedd yn gweithio’n bennaf fwyaf ar yswiriant car. Fe fues i’n gwneud nifer o wahanol ddyletswyddau ond fy mhrif gyfrifoldeb oedd helpu cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau oedd ganddyn nhw neu i wneud newidiadau i’w polisïau. Roeddwn i’n mwynhau fy swydd yn fawr ond fel roeddwn i’n mynd yn hŷn roeddwn i’n awyddus i ddysgu rhywbeth newydd a defnyddio fy sgiliau newydd i ddatblygu fy ngyrfa.

Gan fy mod i’n fam oedd yn gweithio’n rhan-amser, roeddwn i’n meddwl mai dau ddewis oedd gen i. Naill ai peidio gweithio ac ymrwymo i ddysgu rhywbeth newydd trwy fynd yn ôl i’r coleg neu’r Brifysgol Agored. Neu, gwneud cais am swyddi fyddai’n rhoi cyfle i mi ddatblygu sgiliau newydd ond hefyd yn fy ngalluogi i gynnal fy nheulu ar yr un pryd. Roedd meddwl am fynd yn ôl i’r coleg a pheidio cael fy nhalu bob mis a cheisio cadw tŷ a chynnal y plant ychydig yn frawychus.

Yna, fe welais hysbyseb am brentisiaeth Digidol, Data a Thechnoleg trwy Lywodraeth Cymru ac roeddwn i eisiau gwybod mwy. Mae gen i ddiddordeb mewn TGCh wedi bod erioed ond dydw i ddim wedi ymwneud llawer â’r maes gan mai dim ond ychydig o wersi roedden ni’n eu cael yn yr ysgol. Yn y dechrau, roeddwn i’n meddwl na fyddwn i’n gymwys beth bynnag gan fy mod i’n 30 a gan fod gen i ymrwymiadau oherwydd y plant. Ond fe benderfynais ymchwilio ymhellach beth bynnag ac es i edrych ar yr adran ‘pwy all wneud cais?’ ar y wefan yn syth. Roeddwn i’n falch o weld nad oedd cyfyngiad oedran ac nad oedd angen unrhyw gymhwyster mewn TGCh chwaith. Wrth i mi ddarllen drwy’r cais, gwelais fod cyfeiriad ynddo hefyd at weithio’n rhan-amser a gwyddwn y byddai hynny’n help mawr i mi wrth geisio cadw’r cydbwysedd rhwng gyrfa newydd a bod yn fam. Roedd y tâl a’r buddion yn wych hefyd, yn enwedig i rieni sy’n gweithio.

Doeddwn i ddim yn gallu credu bod fy nghais wedi bod yn llwyddiannus a ’mod i’n un o 10 prentis newydd i ymuno â Llywodraeth Cymru.

Fy rôl bresennol

Yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf, roeddwn i’n dod i wybod mwy am Hwb a beth sydd ar gael i’r defnyddwyr – ac mae hynny’n gryn dipyn gyda llaw. Yna, dechreuais ateb e-byst er mwyn dod i arfer gyda’r math o gwestiynau ac ymholiadau sy’n dod at sylw’r ddesg wasanaeth o ddydd i ddydd. Roeddwn i’n teimlo ’mod i wedi ymuno ar yr amser iawn achos roedden nhw wrthi’n cyflwyno system newydd o gofnodi galwadau er mwyn hwyluso’r broses i ddefnyddwyr. Pan oeddwn i’n teimlo’n gyfforddus yn ymateb i e-byst, cefais hyfforddiant ar y system newydd er mwyn bod yn barod i ddechrau cymryd galwadau gan ddefnyddwyr Hwb. Mae cryn dipyn o amrywiaeth yn codi yn y galwadau a’r e-byst ac mae hynny wedi golygu fy mod i wedi cael cyfle i ddatblygu fy ngwybodaeth am bob math o bynciau mewn nifer o feysydd gwahanol.

Mae fy lleoliad presennol gyda thîm Desg Wasanaeth Hwb wedi bod yn bleserus iawn. Dw i wedi cyfarfod pobl anhygoel sydd wedi bod mor groesawus a pharod i helpu gydag unrhyw beth roeddwn i ei angen. Mae’r tîm yn llawn gwybodaeth a dw i wedi dysgu cymaint ganddyn nhw’n barod.

Gallaf argymell cynllun Prentisiaeth Llwybr Digidol, Data a Thechnoleg Llywodraeth Cymru yn fawr gan ei fod yn gyfle gwych i ddysgu sgiliau newydd. Mae’n chwa o awyr iach cael gweithio’n hyblyg ac mae’n berffaith i mi gan ei fod yn rhoi’r cydbwysedd gorau rhwng bywyd a gwaith i mi a’r teulu.

Post gan Sheree Jones, Prentis Digidol Data a Thechnoleg

 

%d bloggers like this: