Ym mis Mawrth 2019, gadawais fy swydd addysgu i ymuno â Llywodraeth Cymru fel Prentis Llwybr Digidol, Data a Thechnoleg. Rwy’n tynnu tuag at derfyn fy lleoliad cyntaf ar y cynllun erbyn hyn ac mae hi eisoes yn amlwg na allwn fod wedi gwneud dewis gwell i adfywio fy ngyrfa a’i diogelu ar gyfer y dyfodol.
Cyn cofrestru ar gyfer y Brentisiaeth Llwybr Digidol, Data a Thechnoleg, treuliais 5 mlynedd yn gweithio fel Athro, gan arbenigo mewn Addysg Gynradd ac Anghenion Addysgol Arbennig. Er fy mod yn cael bodd wrth weithio, roedd ffocws y gwaith yn aml yn weinyddol ac roedd rhaid imi weithio y tu allan i oriau fy nghontract yn rheolaidd er mwyn diwallu anghenion y rôl. Roedd y gwyliau haf chwe wythnos yn helpu rhywfaint i unioni’r cydbwysedd ond roeddwn yn dal i orfod gweithio yn ystod y gwyliau hyd yn oed.
Cydbwysedd Iach rhwng Bywyd a Gwaith
Dyna ddiwedd ar hynny! Ers imi ymuno â Llywodraeth Cymru rwyf wedi gallu cynnal cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, gan feithrin sgiliau newydd a chael syniadau gan staff sy’n arbenigo mewn meysydd diddorol ac amrywiol. Rwy’n teimlo fy mod i’n aelod gwerthfawr o’r tîm ac rwy’n gallu cyfrannu mewn ffordd ystyrlon at waith Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wir yn canolbwyntio ar lesiant staff. Gwelir hyn yn ei dull gweithio hyblyg a’r Awr Llesiant wythnosol y mae hi wedi’i chyflwyno, sy’n annog y staff i dreulio awr bob wythnos yn canolbwyntio ar eu llesiant eu hunain.
Hyfforddiant Personol
Ar hyn o bryd rwy’n gweithio yn Swyddfa’r Prif Swyddog Digidol ac rwy’n cael profiad gwerthfawr fel Dadansoddwr Busnes. Mae’r proffesiwn Dadansoddi Busnes yn gwirio bod ymarferwyr yn sicrhau canlyniadau mewn ffordd sy’n cyd-fynd â gweledigaeth y gwasanaeth a strategaeth y busnes, gan weithio fel “cyfaill beirniadol” er mwyn herio mewn modd adeiladol. Felly, mae Dadansoddwyr Busnes yn hybu cydweithio er mwyn cefnogi’r gwaith o ddylunio, adeiladu a chyflawni i ddiwallu anghenion defnyddwyr. Rwyf wedi treulio’r misoedd diwethaf yn ymgyfarwyddo â ffyrdd Llywodraeth Cymru o weithio, yn ogystal â dysgu cymaint ag y gallaf am fy rôl bresennol.
Ers imi ymuno, rwyf wedi gallu manteisio ar gyfleoedd hyfforddi dirifedi, yn ogystal â chael cymorth un-i-un gan fy Ngoruchwyliwr Lleoliad. Drwy gael fy lleoli gyda Dadansoddwr Busnes, rwyf wedi cael cyfle i weithio ar amrywiaeth eang o brosiectau ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru. Yn fwy na hynny, oherwydd yr hyfforddiant personol a gefais, rwy’n gallu cyfrannu at y prosiectau hynny mewn modd ystyrlon. Mae hyn wedi cynnwys cyfrannu tystiolaeth ategol at gam dadansoddi prosiectau; arwain cyfweliadau â chwsmeriaid i bennu gofynion system; yn ogystal â chymryd rhan yng ngham dylunio prosiect drwy greu modelau cynnar o wefan.
Cefnogaeth Reolaidd
Yn ogystal â chael cefnogaeth ddyddiol gan fy Ngoruchwyliwr Lleoliad, rwyf hefyd yn cael cymorth ac arweiniad gan fy Rheolwr Cohort. Mae hyn yn sicrhau bod y Brentisiaeth yn cyd-fynd â fy nodau a fy nyheadau, yn ogystal â rhoi’r newyddion diweddaraf imi am amcanion y Brentisiaeth. Oherwydd y sianeli cyfathrebu hyn, rwy’n cael gwybod yn rheolaidd am y gwahanol gyfleoedd hyfforddi sydd ar gael imi, sy’n golygu bod modd imi ddatblygu rhagor yn Llywodraeth Cymru.
Ar y cyfan, nid wyf unwaith wedi difaru gadael fy ngyrfa addysgu a dechrau eto ar fy antur newydd, a byddwn i’n argymell i unrhyw un ddilyn y Brentisiaeth Llwybr Digidol, Data a Thechnoleg ddigon.
Post gan Josh Henley, Prentis Digidol Data a Thechnoleg
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Prentisiaeth Llwybr Digidol, Data a Thechnoleg ac i wneud cais, ewch i wefan prentisiaethau Llywodraeth Cymru