O Wenyn i Goed a phopeth yn y canol – Cymru’n defnyddio’r Rhyngrwyd Pethau

Read this post in English

Mae’r ‘Rhyngrwyd Pethau’ neu ‘IoT’ wedi dod yn ymadrodd cyffredin yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Efallai ei fod yn ymddangos yn haniaethol iawn, a dim byd i’w wneud â’ch bywydau bob dydd, neu efallai nad ydych erioed wedi clywed amdano hyd yn oed. Ond ydych chi’n gwisgo Fitbit i ddal eich camau bob dydd a gwneud yn siŵr eich bod yn symud digon? Neu efallai y bydd eich Alexa dibynadwy yn eich atgoffa i godi llaeth ar eich ffordd adref yn nes ymlaen? Wel, heb wybod hyd yn oed, rydych chi wedi bod yn cysylltu â’r Rhyngrwyd Pethau.

Parhau i ddarllen

Bod yn foesegol

Read this post in English

Ydych chi erioed wedi cael eich hun yn gwylio rhywbeth am oriau, oherwydd bod Netflix wedi ei argymell ichi? A yw datgloi eich ffôn drwy edrych arno’n dod yn norm i chi?

Beth pe bai’r sector cyhoeddus yn dechrau defnyddio data fel hyn? Beth pe bai ein casgliadau sbwriel yn seiliedig nid ar rotas ond ar ba bryd y dywedodd synwyryddion clyfar eu bod yn llawn? Beth pe bai cardiau llyfrgell yn beth o’r gorffennol a bod benthyca llyfrau yn seiliedig ar feddalwedd adnabod wynebau?

Parhau i ddarllen

Data Agored – a gawsom ni’r atebion i gyd?

Read this page in English

Efallai eich bod yn cofio inni ddweud wrthych o’r blaen am ein cynlluniau i gynnal Gweithdy Data Agored. Wel, fis diwethaf, fe wnaethom ddwyn ynghyd dros 50 o bobl sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector (fel elusennau) ac mewn sefydliadau preifat. Roedd yn wych gweld cymaint o amrywiaeth o bobl a sefydliadau â diddordeb mewn data agored. Roeddem hefyd yn falch bod y rheini a ddaeth i’r gweithdy yn credu ei fod yn ddefnyddiol, a hoffem ddiolch iddynt i gyd am ei wneud yn ddigwyddiad difyr a diddorol tu hwnt. Parhau i ddarllen

Data Cydraddoldeb + Gweithio Gyda’n Gilydd = Data Agored

Read this page in English

Delwedd o logo dataMae sicrhau bod data ar gael yn rhwydd yn rhywbeth y dylai holl gyrff cyhoeddus Cymru fod yn ei wneud, boed yn Lywodraeth Cymru, eich awdurdod lleol neu eich bwrdd iechyd lleol. Mewn gwirionedd, mae’n debyg ei bod yn deg dweud bod lle i wella hyn. Ond, y newyddion da yw ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i ddod o hyd i ffyrdd o wella pethau. Parhau i ddarllen