Data Cydraddoldeb + Gweithio Gyda’n Gilydd = Data Agored

Read this page in English

Delwedd o logo dataMae sicrhau bod data ar gael yn rhwydd yn rhywbeth y dylai holl gyrff cyhoeddus Cymru fod yn ei wneud, boed yn Lywodraeth Cymru, eich awdurdod lleol neu eich bwrdd iechyd lleol. Mewn gwirionedd, mae’n debyg ei bod yn deg dweud bod lle i wella hyn. Ond, y newyddion da yw ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i ddod o hyd i ffyrdd o wella pethau.

Fel cyrff cyhoeddus, mae gofyn inni i gyd gyhoeddi data cydraddoldeb am y bobl sy’n gweithio inni. Rhaid inni wneud hyn o dan rywbeth a elwir yn Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (y ddyletswydd cydraddoldeb). Er ein bod ni i gyd yn gwneud hyn ar hyn o bryd, nid yw hi wastad yn rhwydd dod o hyd i’r data gan fod cyrff gwahanol yn eu cyhoeddi ar rannau gwahanol o’u gwefannau. Nid yw’r data wastad ar gael yn y fformat mwyaf hygyrch chwaith. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn cyhoeddi’r data mewn adroddiad mewn fformat PDF ac nid yw hynny’n hwylus iawn os ydych chi am gael gafael ar y data eu hunain.

Felly, beth yw’r ateb?……..Data Agored

I fynd i’r afael â’r materion hyn, rhaid inni gyhoeddi ein data fel data agored mewn taenlenni, a hynny ochr yn ochr â’n hadroddiadau. Er bod hyn yn weddol rwydd mewn egwyddor, nid fel hyn mae cyrff cyhoeddus fel arfer yn cyflwyno gwybodaeth o’r fath. Felly, i helpu, rydym yn ddiweddar wedi llunio canllawiau syml ar ddata agored, ynghyd â dogfen Cwestiynau Cyffredin. Fe wnaethom hefyd gynnal dwy weminar (seminar ar-lein i bob pwrpas) yn Gymraeg a Saesneg, er mwyn i bobl allu gofyn unrhyw gwestiynau nad ydynt yn cael eu hateb yn y dogfennau canllaw yr ydym wedi’u llunio.

Roedd yn galonogol iawn gweld pa mor gadarnhaol oedd yr amrywiol gyrff cyhoeddus ynghylch cyhoeddi eu data fel data agored. Fodd bynnag, os yw pobl am ddefnyddio’r data hyn, mae’n bwysig eu bod yn gallu dod o hyd iddynt yn y lle cyntaf, yn enwedig os ydynt yn awyddus i gasglu data gan yr holl gyrff cyhoeddus. Felly, er mwyn ei gwneud yn haws i bobl ddod o hyd i’r data, rydym wedi creu tudalen ar wefan StatsCymru sy’n cynnwys rhestr o ddolenni ar gyfer pob corff cyhoeddus yr ydym wedi gweithio ag ef hyd yma. Drwy glicio ar y dolenni, byddwch yn mynd yn syth at ddata’r corff cyhoeddus perthnasol.

Llun o dudalen dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus ar StatsCymru

Beth nesaf?

Rydym yn falch iawn bod cyfran fawr o gyrff cyhoeddus eisoes wedi cyhoeddi’r data sydd ganddynt mewn perthynas â’r ddyletswydd cydraddoldeb fel data agored. O ran y rheini nad ydynt wedi llwyddo i wneud hynny eto, rydym yn gobeithio parhau i weithio gyda nhw er mwyn gallu eu hychwanegu at y rhestr cyn gynted â phosibl.

Rydym yn deall bod cyrff gwahanol yn defnyddio categorïau gwahanol a allai achosi ychydig o broblemau i’r rheini sydd am ddefnyddio’r data hyn. Fodd bynnag, mae hwn yn gam cyntaf pwysig i sicrhau ei bod yn hawdd dod o hyd i’r data hyn a chael gafael arnynt.

 

Post gan: Rachel Dolman, Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s