Mae Strategaeth Ddigidol Cymru yn nodi sut mae cyfle gwirioneddol i wasanaethau caffael yn y sector cyhoeddus gefnogi a datblygu busnesau Cymreig a sgiliau digidol.
Dyma’r trydydd flog yn ein cyfres am gaffael. Mae Victoria, aelod o’n tîm cyflenwi yn rhoi diweddariad ar sut mae’r ‘Ganolfan Ragoriaeth Caffael’ yn datblygu ac yn rhannu rhai canfyddiadau am enw posib wrth symud ymlaen.
Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, nododd tua 538,300 o bobl tair oed neu’n hŷn, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, eu bod yn gallu siarad Cymraeg. Mae hyn yn 17.8% o’r boblogaeth. Mae hyn yn ostyngiad o tua 23,700 o bobl ers Cyfrifiad 2011, neu ostyngiad o 1.2 pwynt canran.
Mae nifer y bobl y nodir eu bod yn gallu siarad Cymraeg wedi bod yn gostwng ers 2001 bellach.
Ffynhonnell: Cyfrifiad o’r boblogaeth, 1921 i 2021
Noder: Ni chafodd y cyfrifiad ei gynnal yn 1941 oherwydd yr Ail Ryfel Byd.
Beth sydd y tu ôl i’r gostyngiad diweddaraf hwn?
Y prif ffactor sy’n gyfrifol am y gostyngiad ers 2011 yw’r lleihad yng nghanran y plant a’r bobl ifanc y nodir eu bod yn gallu siarad Cymraeg. Yn 2011 a 2021, roedd plant a phobl ifanc 5 i 15 mlwydd oed yn fwy tebygol o nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg nag unrhyw grŵp oedran arall. Fodd bynnag, rhwng 2011 a 2021, gostyngodd canran yr unigolion 5 i 15 oed y nodwyd eu bod yn gallu siarad Cymraeg, o 40.3% yn 2011 i 34.3% yn 2021, gostyngiad o 6.0 pwynt canran. Hwn oedd y gostyngiad mwyaf o ran pwyntiau canran o fewn unrhyw grŵp oedran. Gwelwyd gostyngiad tebyg ymhlith plant tair i bedair oed, o 23.3% yn 2011 i 18.2% yn 2021, gostyngiad o 5.2 pwynt canran.
Mae canrannau is o blant a phobl ifanc, ac o bobl hŷn, yn gallu siarad Cymraeg bellach, o gymharu â 2011.
Ffynhonnell: Cyfrifiad o’r boblogaeth, 2011 a 2021
Er bod canran y plant a’r bobl ifanc 3 i 15 oed y nodwyd eu bod yn gallu siarad Cymraeg wedi gostwng ym mhob awdurdod lleol rhwng 2011 a 2021, roedd y gostyngiad ar ei fwyaf amlwg mewn ardaloedd lle roedd dwysedd y siaradwyr Cymraeg yn is, fel ym Mlaenau Gwent, Casnewydd a Thorfaen.
Fodd bynnag, er gwaethaf gostyngiad yng ngallu plant a phobl ifanc i siarad Cymraeg, gwelwyd cynnydd yng nghanran y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg mewn rhai rhannau o Gymru. Gwelir hyn yn ne-ddwyrain Cymru yn bennaf.
Gostyngodd canran y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg ym mhob awdurdod lleol rhwng 2011 a 2021, ac eithrio rhai awdurdodau lleol yn ne-ddwyrain Cymru.
Ffynhonnell: Cyfrifiad o’r boblogaeth, 2011 a 2021
Oedd y newidiadau hyn yn ddisgwyliedig?
Mae’r cyfrifiad yn rhoi cipolwg inni ar fywyd yng Nghymru ar adeg benodol, unwaith bob 10 mlynedd. Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), ar 21 Mawrth 2021. Roedd yn dilyn cyfnodau clo a chyfnodau dysgu o bell i blant, ac roedd llawer o bobl yn gweithio gartref. Nid yw’n hysbys sut y gallai’r pandemig fod wedi effeithio ar y sgiliau Cymraeg a nodwyd, na chanfyddiad o sgiliau Cymraeg pobl eraill, fel eu plant.
Fel rheol, mae canran y plant a phobl ifanc 5 i 15 mlwydd oed y nodwyd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn y cyfrifiad yn uwch na chanran y plant a phobl ifanc sy’n addysgu’r Gymraeg fel iaith gyntaf. Yr hyn a wyddom o ddata addysg yw nad yw tua hanner y plant sy’n addysgu’r Gymraeg fel iaith gyntaf yn siarad Cymraeg gartref.
Cafodd llai o bobl eu geni nag a fu farw yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn hefyd. O ganlyniad, roedd llai o bobl o dan 15 oed yn 2021 nag yn 2011, a chyfran gynyddol fwy o’r boblogaeth yn 65 oed neu’n hŷn. Mae Cyfrifiad 2021 a chyfrifiadau diweddar yn dweud wrthym bod plant a phobl ifanc 5 i 15 oed yn fwy tebygol o allu siarad Cymraeg nag unrhyw grŵp oedran arall.
Beth mae ffynonellau data eraill yn ei ddweud wrthym am sgiliau Cymraeg?
Mae ffynonellau data eraill ar gael sy’n ddefnyddiol i fonitro patrymau o ran sgiliau Cymraeg rhwng cyfrifiadau. Mae diweddariad Prif Ystadegydd blaenorol wedi trafod hyn yn fanylach, gan gynnwys sut na ddylem gymharu amcangyfrifon arolygon eraill yn uniongyrchol â’r cyfrifiad, gan ein bod yn gwybod bod yna wahaniaethau o ran sut caiff rhai o’r arolygon hyn eu cynnal, er enghraifft.
Fel rheol, mae amcangyfrifon arolygon eraill am aelwydydd yn uwch nag amcangyfrifon y cyfrifiad. Er bod cyfrifiad heddiw yn amcangyfrif bod 538,300 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, amcangyfrifodd Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod tua 884,000 o bobl tair oed neu’n hŷn yn gallu siarad Cymraeg yn ystod mis Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021, neu 29.2% o’r boblogaeth. Ar y llaw arall, amcangyfrifodd Arolwg Cenedlaethol Cymru fod 18% o oedolion 16 oed neu’n hŷn yn gallu siarad Cymraeg ym mis Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021, a bod 15% yn ychwanegol yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg.
Rydym wedi edrych yn fanylach ar y gwahaniaethau rhwng ffynonellau mewn bwletin ystadegol blaenorol, gan gynnwys rhai rhesymau posibl drostynt.
Beth bynnag y ffynhonnell, gall asesiad unigolyn o ba mor dda y mae’n siarad iaith fod yn oddrychol. I rai pobl, mae’r gallu i ddweud ambell air yn Gymraeg yn ddigon iddynt ddweud eu bod yn ei siarad. I eraill, er eu bod yn ei siarad yn rheolaidd, efallai mai dweud nad ydynt yn gallu ei siarad a wnânt os ydynt yn teimlo’n fwy cyfforddus yn siarad iaith arall.
Mae’n glir o Arolwg Cenedlaethol Cymru bod yna nifer cynyddol o bobl sy’n gallu siarad rhywfaint o Gymraeg. Efallai bod dewis rhwng ‘ydw’ a ‘nac ydw’ pan ofynnir p’un a ydynt yn gallu siarad yr iaith yn arbennig o heriol i bobl sy’n siarad rhywfaint o Gymraeg. O ystyried sut y caiff gwahanol setiau o ystadegau arolygon a chyfrifiadau eu casglu, mae hwn yn un ffactor a fydd yn cyfrannu at y ffaith bod gwahanol ffynonellau data yn nodi gwahanol amcangyfrifon.
Beth nesaf felly?
Cyhoeddiad heddiw yw’r set gyntaf o ddata o Gyfrifiad 2021 am y Gymraeg. Y flwyddyn nesaf, caiff rhagor o wybodaeth am y Gymraeg ei chyhoeddi. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am drosglwyddo’r Gymraeg o fewn aelwydydd o un genhedlaeth i’r nesaf, yn ogystal â sut mae’r gallu i siarad Cymraeg yn amrywio yn ôl grwpiau gwahanol o’r boblogaeth, er enghraifft, yn ôl ethnigrwydd.
Yr hyn sy’n glir o gyhoeddiad heddiw yw bod yna wahaniaethau rhwng canlyniadau’r cyfrifiad a’r hyn y mae ffynonellau data eraill yn ei ddweud wrthym am sgiliau Cymraeg. Mae rhai o’r gwahaniaethau hyn yn rhai hanesyddol. Nid yw’n gwbl hysbys chwaith sut y gallai’r pandemig fod wedi effeithio ar ddata am sgiliau Cymraeg.
Wrth edrych i’r dyfodol, byddwn yn gweithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ochr yn ochr â’u rhaglen drawsnewid bresennol i wella ein dealltwriaeth ynghylch pam mae amcangyfrifon y cyfrifiad a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth mor wahanol i’w gilydd. Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn cael ei ailgynllunio ar hyn o bryd i fod yn arolwg “ar-lein yn gyntaf”, gyda gwelliannau hefyd yn cael eu gwneud i gynnwys a phrosesau yr arolwg. Byddwn ni’n gweithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i ddeall effaith hyn ar ystadegau iaith Gymraeg.
Byddwn hefyd yn ymchwilio i sut y mae data’r cyfrifiad yn wahanol i ddata Arolwg Cenedlaethol Cymru a data ysgolion, drwy ymchwilio i brosiectau ymchwil cysylltu data arloesol. Bydd y gwaith hwn yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o sut mae pobl yn nodi eu sgiliau Cymraeg eu hunain, a sgiliau Cymraeg pobl eraill, mewn amrywiol gyd-destunau.
Mae costau byw wedi bod yn cynyddu ledled y Deyrnas Unedig ers dechrau 2021. Ym mis Hydref 2022, roedd y gyfradd chwyddiant yn 11.1%, y lefel uchaf ers 41 o flynyddoedd. Cododd Banc Lloegr gyfraddau llog i 3% ym mis Tachwedd, y lefel uchaf ers argyfwng ariannol 2008. Mae hyn yn effeithio ar ba mor fforddiadwy yw nwyddau a gwasanaethau i aelwydydd, ac mae hefyd yn effeithio ar fusnesau.
Mae darpariaeth gwasanaethau iechyd wedi’i ddatganoli ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig. O ganlyniad, mae’r ffordd rydym yn mesur gweithgarwch a pherfformiad y GIG ym mhob gwlad yn amrywio, er mwyn adlewyrchu gwahanol flaenoriaethau polisi ac amgylchiadau pob gwlad. Er bod tebygrwydd yn y mathau o ddata a gesglir, mae gwahaniaethau pwysig hefyd o ran yr hyn sy’n cael ei gynnwys a’r diffiniadau, sy’n golygu’n aml nad yw’n bosib cymharu’r prif ystadegau’n uniongyrchol. Fodd bynnag, deallwn fod diddordeb mawr yn y cymariaethau hyn, felly mae’r erthygl hwn yn ceisio cynnig cyngor ynglŷn â sut i wneud hyn.
Mae heddiw’n garreg filltir bwysig wrth ryddhau data Cyfrifiad 2021. Ar 28 Mehefin, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ganlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 ar gyfer Gymru. Mae’r canlyniadau cyntaf hyn yn cynnwys amcangyfrifon poblogaeth wedi’u talgrynnu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru, yn ôl rhyw a grwpiau oedran pum mlynedd. Mae’r datganiad hefyd yn cynnwys amcangyfrifon aelwydydd, a gwybodaeth am ddwysedd y boblogaeth.
Ar 4 Mawrth 2022, cyhoeddwyd ‘Gyda’n gilydd tuag at ddyfodol mwy diogel: COVID-19: cynllun pontio hirdymor Cymru o bandemig i endemig’. Mae’r cynllun hwn yn esbonio bod y cysylltiad rhwng haint COVID-19, salwch difrifol, derbyniadau i’r ysbyty a marwolaeth wedi gwanhau’n sylweddol. Mae hyn yn golygu y gallwn ddechrau symud y tu hwnt i ymateb argyfwng i’r pandemig a chynllunio dyfodol lle rydym yn symud yn raddol i fyw’n ddiogel gyda’r coronafeirws, yn yr un modd ag yr ydym yn byw gyda nifer o glefydau heintus arall.
Cyhoeddwyd y nodyn blog hwn ym mis Mawrth 2022 yn wreiddiol i esbonio sut rydym yn mesur gweithgarwch a pherfformiad y GIG. Mae’r nodyn wedi’i ddiweddaru heddiw i gynnwys datblygiadau newydd ar mesur y nifer o gleifion sy’n aros am driniaeth.
Mae’r pandemig wedi gwneud i ni feddwl yn wahanol am y mathau o ddadansoddiadau yr ydym yn eu cynhyrchu, gyda llawer o’n cyhoeddiadau ystadegol arferol yn newid er mwyn adlewyrchu amgylchiadau newydd neu bynciau o ddiddordeb. I roi ond un enghraifft o hyn, rydym wedi cyhoeddi dadansoddiad newydd yr wythnos hon sy’n edrych ar yr effaith ar ddysgwyr mewn addysg ôl-16.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Cymru, ynghyd â gwledydd eraill y DU, nad oes rhaid ichi gymryd prawf PCR dilynol bellach, os cewch ganlyniad positif i brawf llif unffordd. Mae’r math hwn o newid i bolisi’n gallu cael effaith ar ddata COVID-19. Mae’r blog hwn yn anelu at esbonio’r newidiadau hyn ac yn rhoi cyngor ar ddehongli data dros y diwrnodau a’r wythnosau i ddod.