Cyn ymuno â Llywodraeth Cymru, fe wnes i gwblhau cwrs gradd mewn Hanes ym Mhrifysgol Reading. Ar ôl graddio, doeddwn i ddim yn siŵr pa lwybr roeddwn i eisiau’i ddilyn o ran gyrfa, gan mai dim ond swyddi rhan-amser fel disgybl ysgol oeddwn i erioed wedi’u gwneud. Dros y Nadolig, dechreuais weithio fel cynorthwyydd cwsmeriaid mewn siop a dechreuais ddatblygu fy mhrofiad a’m sgiliau. Ar ôl tair blynedd mewn gwahanol rolau roeddwn i wedi dod i’r canlyniad nad gyrfa hirdymor mewn rheoli manwerthu oedd y peth i mi felly dechreuais edrych am lwybr gyrfa gwahanol oedd yn cyd-fynd â’m diddordebau. Yn y dechrau, doeddwn i ddim yn siŵr a ddylwn i fynd yn ôl i’r brifysgol i barhau â’m haddysg; ond roeddwn wedi fy siomi o weld y rhagolygon posibl yr oedd gradd meistr mewn Hanes yn eu cynnig. Anfonais un ffurflen gais ar ôl y llall am amrywiaeth eang o swyddi, o swydd gyda’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i weithio yn y gwasanaeth Rheoli Traffig Awyr – gyda’m bryd ar roi tro ar rywbeth gwahanol.
Dod o hyd i yrfa bosibl
Des ar draws hysbyseb am Brentisiaeth Llwybr Digidol, Data a Thechnoleg (DDaT) ar wefan gyrfaoedd Llywodraeth Cymru un diwrnod wrth chwilio am swyddi. Roeddwn i’n chwilio am lwybrau gyrfa posibl a fyddai’n fy ngalluogi i weithio gyda thechnoleg, maes o ddiddordeb mawr i mi, a datblygu fy sgiliau digidol a TGCh ar yr un pryd. Ar y pryd, roeddwn i’n ystyried mynd yn ôl i’r brifysgol i astudio Cyfrifiadureg a doeddwn i erioed wedi ystyried prentisiaeth cyn gweld yr hysbyseb. Roedd i weld yn gyfle gwych i ddatblygu profiad gwerthfawr gyda chyflogwr o fri, dysgu a datblygu sgiliau newydd ac ennill cyflog wrth weithio. A dweud y gwir, roedd i weld yn rhy berffaith i fod yn wir! Felly gweithiais yn galed i gwblhau’r cais, cefais gyfweliad ac yna derbyniais alwad ffôn yn dweud fy mod i wedi cael cynnig lle ar y cynllun.
Fy lleoliad cyntaf
Ar hyn o bryd, rwy’n gwneud fy lleoliad cyntaf o fewn y tîm sy’n gyfrifol am gefnogi systemau cyllid Adnoddau Dynol. Ar y dechrau, roeddwn i’n nerfus iawn gan nad oeddwn i wedi gweithio mewn swyddfa o’r blaen. Roeddwn i’n poeni y byddwn i’n gwneud camgymeriadau ac na fyddwn i’n ffitio i mewn. Ond roedd y tîm mor groesawus, a gyda’u help nhw roeddwn i’n teimlo’n gartrefol ymhen dim. Roedden nhw’n cynnig fy helpu gydag unrhyw agwedd ar y gwaith prentisiaeth, roeddwn i’n cael gwahoddiad i ymuno yn unrhyw beth oedd ymlaen ar ôl gwaith a chyn hir, roeddwn i’n teimlo fel aelod allweddol o’r tîm.
Ar y dechrau, roeddwn i’n gweithio ar gefnogaeth lefel gyntaf oedd yn golygu dyrannu achosion i aelodau perthnasol y tîm a rheoli’r llif gwaith. Cyn hir, cefais fwy o gyfrifoldebau a dechreuais ddysgu sut i osod caniatadau i ddefnyddwyr a helpu defnyddwyr gydag ymholiadau ynglŷn â’r system daliadau. Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ar gefnogaeth ail lefel, ac yn parhau i ddysgu o ddydd i ddydd. Cefais fy ngosod yn y lleoliad hwn oherwydd bod gen i brofiad yn y sector manwerthu ac rydw i wedi mireinio’r sgiliau oedd gen i ymhellach wrth ymdrin â chwsmeriaid mewnol Llywodraeth Cymru bob dydd. Rydw i hefyd wedi dysgu cryn dipyn am y systemau mae Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i brosesu eu gwasanaethau ariannol ac am ddiogelwch TG, fel rhan o fy rôl yn gosod caniatadau i ddefnyddwyr a sicrhau bod trywydd archwilio cywir ar gyfer pob achos.
Hyfforddi a datblygu
Er mai dim ond am gyfnod byr rydw i wedi bod yn brentis DDaT, rydw i eisoes wedi cael cyfle i ddysgu llawer o bethau newydd. Yn ystod ein bŵt-camp sefydlu dros gyfnod o bythefnos, dysgais am weithio i Lywodraeth Cymru a bues ar daith i lawr i’r Senedd, yn gweithio ar hyfforddiant prentisiaethau a chefais brofiad o ymarferion gweithio fel tîm – roedd rhain yn help i ddod â’r grŵp at ei gilydd. Rydym wedi cael cyfle i fynychu sesiynau hyfforddi sy’n berthnasol i weithio yn y maes DDaT a gweithio ar brosiectau gyda’n gilydd. Mae fy ngrŵp prentisiaeth wedi bod yn rhwydwaith gefnogi wych oedd yn bodoli heb unrhyw ymdrech; rydyn ni’n cadw mewn cysylltiad ac yn rhannu gwybodaeth gyda’n gilydd ynglŷn â’n gwahanol leoliadau. Mae Llywodraeth Cymru yn annog diwylliant o ddysgu a datblygu, felly mae llawer o adnoddau fel cyrsiau hyfforddi ar gael i’n helpu i ddatblygu gwybodaeth a meithrin datblygiad.
Beth nesaf?
Rydw i’n nesáu at ddiwedd fy lleoliad cyntaf a byddaf yn symud i dîm newydd ddiwedd Medi. Er fy mod wedi mwynhau’r lleoliad cynta’n fawr, rydw i’n teimlo’n gyffrous iawn am y cyfleoedd sydd o’m blaen ac yn edrych ymlaen at barhau i ddatblygu fy mhortffolio o sgiliau o fewn Llywodraeth Cymru.
Post gan Dominic Wheeler, Prentis Digidol, Data a Thechnoleg
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Prentisiaeth Llwybr Digidol, Data a Thechnoleg ac i wneud cais, ewch i wefan prentisiaethau Llywodraeth Cymru