Newid gyrfa a chychwyn Prentisiaeth Ddigidol, Data a Thechnoleg
Sut gyrhaeddais i yma?
Roeddwn yn Rheolwr Prosiect i BT am 25 mlynedd, a 12 mis yn ôl roedd cyfle i mi dderbyn telerau dileu swydd.
Roeddwn i wedi mwynhau fy ngyrfa efo BT, ond roeddwn i’n teimlo fy mod, ar ôl treulio’r 10-15 mlynedd flaenorol yn rheoli prosiectau a oedd yn cyflwyno seilwaith TG, eisiau cyfle ‘i weld pethau o’r ochr arall’ ac i ymwneud â’r ochr dechnegol o’r byd TGCh.
Pan ymunais â BT yn 1994, cefais gyflwyniad byr i fyd datblygu a chyflwyno meddalwedd ond aeth fy llwybr gyrfa â fi yn sydyn iawn i gyfeiriad Rheoli Prosiectau… yn fuan iawn, roedd fy sgiliau technolegol yn rhydu. Fyddwn i’n newid dim …. ond rwy’n aml yn meddwl lle fyddwn i nawr petawn i wedi dilyn y llwybr technegol.
Felly, yn Awst 2018 penderfynais gytuno i adael BT ym mis Chwefror 2019. Roedd hynny’n golygu bod gen i 6 mis i gynllunio gyrfa newydd ac ymgeisio am rolau TGCh newydd. Profiad brawychus a chyffrous ar y pryd.
Doeddwn i ddim yn gwybod ar y pryd pan oeddwn i’n mynd i swyddfa Gyrfa Cymru i wneud hyfforddiant ReAct (hyfforddiant ar ôl dileu swydd), y byddwn i’n cydweithio â’r sefydliadau a’r timau hyn ar ôl i mi ymuno â Llywodraeth Cymru .
Pan welais yr hysbyseb am y Brentisiaeth gyda Llywodraeth Cymru, roedd gen i ddiddordeb ar unwaith… Pam? Oherwydd eu bod eisiau pobl â diddordeb mewn TGCh ond nid o reidrwydd ag unrhyw gymwysterau blaenorol mewn TGCh. Roedd yn ymddangos yn gyfle gwych i ymuno â sefydliad gydag ymrwymiad clir i hyfforddi staff newydd yn y byd digidol sy’n datblygu’n gyflym.
Ond ai dim ond rhywbeth i bobl ifanc sydd wedi gadael yr ysgol yw prentisiaeth?
A minnau’n 46 oed, roeddwn yn poeni nad oedd prentisiaeth yn opsiwn i bobl fy oedran i. Ond nid oeddwn am golli cyfle, felly ffoniais y rhif ar yr hysbyseb. Yn rhyfedd iawn, roeddwn â chywilydd yn holi:
“… ydi hon yn swydd ….. i ….. i bobl hŷn hefyd?”.
Ymlaciais o glywed y person cyfeillgar o Lywodraeth Cymru ar ben arall y ffôn yn dweud (gan weld y cwestiwn ychydig yn ddoniol)
“…. ydi, mae pobl o bob oed a chefndir yn rhan o’r cynlluniau prentisiaeth…. gorau po fwyaf! ”.
Felly gwnes gais …… ac roeddwn wrth fy modd pan glywais fy mod yn un o’r 10 o bobl a fu’n llwyddiannus.
Ar hyn o bryd, rwy’n…
Dechreuais fy lleoliad prentisiaeth ym maes Sgiliau ac Addysg Uwch gyda’r tîm sy’n gyfrifol am greu systemau TGCh. Roedd hyn yn gyffrous i mi gan y byddwn yn cael y cyfle i weithio â datblygwyr meddalwedd a’r rhai sy’n eu profi, a gobeithio dechrau datblygu sgiliau a phrofiad o ddatblygu a phrofi meddalwedd a rhoi cymorth i ddefnyddwyr.
Hyd yn hyn rwyf wedi:
- gwneud gwaith ar ofynion defnyddiwr
- datrys ymholiadau
- profi gyda ddefnyddwyr
- mynd i Hyfforddiant
Yr hyn rwyf wedi ei fwynhau fwyaf hyd yma yw’r cyfle i ddysgu am ieithoedd rhaglennu gwahanol ac, rwyf eisoes wedi cael hyfforddiant ar-lein ar SQL, C#, .NET, Python a XML.
Mae’r tîm cyfan wedi bod yn hynod groesawgar ac wedi fy annog i ofyn cwestiynau a gwneud ceisiadau i’w cysgodi.
Newid gyrfa … Prentisiaethau …. Llywodraeth Cymru ?
Felly, os wyt ti’n ystyried newid gyrfa, paid byth â meddwl ei bod yn rhy hwyr… Nid rhy hen neb i ddysgu!
Rwy’n argymell y cynllun Prentisiaeth Llwybr Digidol, Data a Thechnoleg fel cyfle gwych i ddatbygu sgiliau digidol newydd mewn amgylchedd cefnogol.
Post gan Ted Diment, Prentis Digidol Data a Thechnoleg
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Prentisiaeth Llwybr Digidol, Data a Thechnoleg ac i wneud cais, ewch i wefan prentisiaethau Llywodraeth Cymru
An impressive share! I’ve just forwarded this onto a colleague who
was conducting a little research on this. And he actually ordered me
breakfast because I discovered it for him… lol.
So let me reword this…. Thanks for the meal!!
But yeah, thanx for spending the time to talk about
this issue here on your site.
HoffiHoffi