Yn fy niweddariad ar 23 Mawrth 2020, amlinellwyd sut yr oeddem yn bwriadu adolygu ein casgliadau data, ein gweithgarwch ymchwil a’n hallbynnau arfaethedig yng ngoleuni’r pandemig coronafeirws (COVID-19). Mae hyn wedi’i wneud er mwyn blaenoriaethu’r ymateb i’r sefyllfa bresennol – o safbwynt ein hadnoddau ein hunain o fewn Llywodraeth Cymru, ond yr un mor bwysig hefyd adnoddau ein darparwyr data sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen allweddol ar draws y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r nodyn hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynlluniau.
Diweddariad y Prif Ystadegydd: esbonio ffynonellau data marwolaethau COVID-19 ar gyfer Cymru
Yn y blog hwn dw i am geisio helpu i roi dealltwriaeth o’r gwahanol ffynonellau o ddata ar farwolaethau cysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19) yng Nghymru. Mae llawer o graffu cyhoeddus wedi bod ar y ffigurau hyn dros yr wythnos diwetha’, ac rydyn ni heddiw wedi cyhoeddi, am y tro cynta’, gyfanswm y marwolaethau sydd wedi bod mewn cartrefi gofal yng Nghymru dros gyfnod yr haint.
Diweddariad y Prif Ystadegydd: COVID-19 a chynhyrchu ystadegau ac ymchwil gymdeithasol
Mae ystadegwyr ac ymchwilwyr o fewn Llywodraeth Cymru yn casglu, dadansoddi ac yn cyhoeddi ystadegau swyddogol ac adroddiadau ymchwil i helpu’r Llywodraeth, busnes a’r cyhoedd i wneud penderfyniadau gwybodus.
Gweithdai Data Agored – yn dod cyn bo hir!
Yn dilyn y Gweithdy Data Agored ym mis Tachwedd, rydym yn gweithio gyda Data Cymru i gynnig dau weithdy ychwanegol yng ngogledd a de-orllewin Cymru. Bydd y gweithdai hyn yn canolbwyntio ar sut y gallwn gynyddu faint o ddata agored sy’n cael ei gyhoeddi a’i ddefnyddio drwy ddatblygu canllawiau ac arddangos ychydig o adnoddau defnyddiol. Parhau i ddarllen
Diweddariad y Prif Ystadegydd: amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd is-genedlaethol sy’n seiliedig ar 2018
Ym mis Hydref, fe wnaethom gyhoeddi ein bod yn mynd i ohirio’r amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd is-genedlaethol sy’n seiliedig ar 2017. Roedd ein blog blaenorol yn disgrifio’r rhesymau pam y gwnaethom y penderfyniad hwnnw, a chyhoeddwyd hefyd nodyn byr yn disgrifio’r heriau a gawsom gyda’r gwaith.
Data Agored – a gawsom ni’r atebion i gyd?
Efallai eich bod yn cofio inni ddweud wrthych o’r blaen am ein cynlluniau i gynnal Gweithdy Data Agored. Wel, fis diwethaf, fe wnaethom ddwyn ynghyd dros 50 o bobl sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector (fel elusennau) ac mewn sefydliadau preifat. Roedd yn wych gweld cymaint o amrywiaeth o bobl a sefydliadau â diddordeb mewn data agored. Roeddem hefyd yn falch bod y rheini a ddaeth i’r gweithdy yn credu ei fod yn ddefnyddiol, a hoffem ddiolch iddynt i gyd am ei wneud yn ddigwyddiad difyr a diddorol tu hwnt. Parhau i ddarllen
Data Cydraddoldeb + Gweithio Gyda’n Gilydd = Data Agored
Mae sicrhau bod data ar gael yn rhwydd yn rhywbeth y dylai holl gyrff cyhoeddus Cymru fod yn ei wneud, boed yn Lywodraeth Cymru, eich awdurdod lleol neu eich bwrdd iechyd lleol. Mewn gwirionedd, mae’n debyg ei bod yn deg dweud bod lle i wella hyn. Ond, y newyddion da yw ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i ddod o hyd i ffyrdd o wella pethau. Parhau i ddarllen
Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: dod yn fuan, data newydd ar gyfer deall meysydd o amddifadedd yng Nghymru
Ar 27 Tachwedd, byddwn yn cyhoeddi Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019. Bydd hyn yn set newydd o safleoedd o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru.
Mae bwlch o bum mlynedd ers MALIC 2014. Yn ystod y cyfnod hwnnw rydym wedi gweld llawer o ddatblygiadau cyffrous o ran data, ynghyd â gwelliannau i dechnegau. Gall y rhain ein helpu â’r cyfrifon cymhleth sydd eu hangen.
Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: gohirio amcanestyniadau is-genedlaethol poblogaeth a thai sail-2017
O blith y setiau gwybodaeth yr ydym yn eu llunio, ein hamcanestyniadau poblogaeth awdurdod lleol yw un o’r rhai a ddefnyddir fwyaf. Mae’r amcanestyniadau yn edrych ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd i’r boblogaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan ddefnyddio hynny i ragweld tueddiadau’r dyfodol. Maent yn cael eu defnyddio i helpu amrywiaeth o sefydliadau i gynllunio ar gyfer y dyfodol (er enghraifft, i gynllunio tai, ysgolion, meithrinfeydd a gwasanaethau cymdeithasol), ac maent o gymorth hefyd er mwyn helpu i ddosbarthu arian hefyd. Nid ydynt yn ystyried unrhyw ddatblygiadau gwleidyddol nac economaidd a allai ddigwydd yn y dyfodol (er enghraifft, Brexit).
Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: a all ein hystadegau gwasanaethau cymdeithasol ddarparu dealltwriaeth fwy cynhwysfawr?
Mae llawer o bobl yng Nghymru yn dod i gysylltiad â’n gwasanaethau gofal cymdeithasol bob blwyddyn, ac mae awdurdodau lleol yn gwario oddeutu chwarter o’u cyllid ar y gwasanaethau hyn. Yn ystod y flwyddyn 2017-18, rhoddwyd gwasanaethau i dros 75,000 o oedolion drwy gynllun gofal a chymorth, a chafodd bron i 50,000 o blant eu hasesu i weld a oedd angen gofal a chymorth arnynt.
