Yn y blog hwn dw i am geisio helpu i roi dealltwriaeth o’r gwahanol ffynonellau o ddata ar farwolaethau cysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19) yng Nghymru. Mae llawer o graffu cyhoeddus wedi bod ar y ffigurau hyn dros yr wythnos diwetha’, ac rydyn ni heddiw wedi cyhoeddi, am y tro cynta’, gyfanswm y marwolaethau sydd wedi bod mewn cartrefi gofal yng Nghymru dros gyfnod yr haint.
Sut y caiff marwolaethau COVID-19 eu hadrodd?
Mae dwy brif ffynhonnell o ddata yn cael eu cyhoeddi ar gyfer marwolaethau COVID-19 ar gyfer y boblogaeth gyfan. Mae’r data hyn yn cael eu casglu at ddibenion ychydig yn wahanol ac mae’r hyn maen nhw’n ei gwmpasu yn wahanol.
Mae’n bwysig cofio bod yna ffyrdd gwahanol o briodoli marwolaeth i COVID-19. Efallai fod yr ymadawedig wedi cael prawf positif am COVID-19. Serch hynny, heb brawf a gadarnhawyd mewn labordy, mae’n bosib y byddai clinigwyr wedi dal i ystyried bod COVID-19 yn rhywbeth sylfaenol a achosodd y farwolaeth neu’n rhywbeth a gyfrannodd ati. Mae yna hefyd rai marwolaethau a achoswyd o bosibl gan effaith ehangach COVID-19 ar gymdeithas, rhywbeth na ellir ei gysylltu’n uniongyrchol â COVID-19 yn yr ystadegau sy’n cael eu cyhoeddi.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn cynnal gwyliadwriaeth gyflym o farwolaethau COVID-19 ac yn cyhoeddi data yn ddyddiol, yn seiliedig ar farwolaethau mewn achosion o COVID-19 sydd wedi’u cadarnhau. Dyma’r ffigurau sy’n ymddangos yn y cyfryngau am 2pm bob dydd. Caiff y rhain eu casglu drwy swyddogaeth gwyliadwriaeth statudol ICC gan ddefnyddio diffiniad o achos sy’n debyg i’r un y mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn ei awgrymu ar gyfer marwolaethau COVID-19 mewn achosion sydd wedi’u cadarnhau. Mae’r prif ffigurau yn dueddol o ganolbwyntio ar achosion newydd a gafodd eu hadrodd y diwrnod hwnnw, ond gallai’r rhain gynnwys marwolaethau a ddigwyddodd sawl diwrnod ynghynt. Mae ICC hefyd yn darparu cyfres o ddata yn ôl diwrnod y marwolaethau. Maen nhw’n cynnwys marwolaethau mewn ysbytai, ond hefyd rai marwolaethau y mae ICC yn cael gwybod amdanyn nhw gan gartref gofal preswyl neu hosbis sydd wedi cael profion wedi’u cadarnhau gan labordy (mae rhagor o wybodaeth am gartrefi gofal ar gael isod).
Mae data gwyliadwriaeth gyflym ICC yn cynnig darlun amserol pwysig o sefyllfa’r haint ar y pryd ond mae’r prosesau dan sylw yn golygu na fydd byth yn rhoi darlun cyflawn o bob marwolaeth gysylltiedig â COVID-19. Nid yw’r system yn casglu data ar breswylwyr Cymru a fu farw yn Lloegr, na phreswylwyr Cymru a fu farw gartref. Fe fydd preswylwyr Cymru a fu farw mewn ysbytai yn Lloegr yn cael eu cynnwys yn ddyddiol yn y data y mae Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lloegr yn eu cyhoeddi. Hefyd, fe fydd hi bob amser yn bosibl i nifer y marwolaethau yn y diwrnodau blaenorol gael ei ddiwygio wrth i ddata newydd gael eu hadrodd.
Caiff y set ddata fwyaf cyflawn ac awdurdodol o farwolaethau ymysg preswylwyr Cymru eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), gan gynnwys ar gyfer awdurdodau lleol a byrddau iechyd unigol. Sail y data yw’r prosesau cyfreithiol sy’n golygu bod rhaid cofrestru pob marwolaeth. Mae’r data hyn yn cael eu cyhoeddi bob dydd Mawrth ac maen nhw wedi’u seilio ar bob marwolaeth gofrestredig sy’n gysylltiedig â COVID-19 yn ôl y dystysgrif marwolaeth, gan gynnwys y rhai lle nad oedd yna brawf gan labordy. Mae’n cymryd mwy o amser i baratoi’r ffigurau hyn gan fod rhaid iddyn nhw gael eu cadarnhau gan feddyg, eu cofrestru a’u prosesu (felly mae data sy’n cael eu cyhoeddi heddiw, 5 Mai, yn cynnwys marwolaethau a gofrestrwyd hyd at 24 Ebrill). Mae’r data hyn yn darparu darlun cyflawn o ddata yn ôl awdurdod lleol preswylio, ble bynnag y digwyddodd y farwolaeth, (gan gynnwys yn Lloegr), ac mae modd eu rhannu yn ôl marwolaethau mewn ysbytai, cartrefi gofal neu gartref.
Pa mor wahanol yw’r data hyn?
Mae disgwyl i ddata SYG fod yn uwch oherwydd y rhesymau uchod, fel y gwelir yn y siart isod. Yn yr wythnosau diwethaf, rydyn ni wedi gweld gwahaniaeth rhwng y ffynonellau, wrth i’r ganran o farwolaethau a ddigwyddodd rywle heblaw ysbyty gynyddu.
Mae’r siart hon wedi’i seilio ar ddiwrnod y marwolaethau, yn hytrach na’r ffigurau y mae ICC yn eu cyhoeddi’n ddyddiol. Mae hyn yn bwysig gan ei fod yn cynnig dealltwriaeth well o dueddiadau yn nifer y marwolaethau ac a yw’r nifer yn lleihau mewn gwirionedd, yn hytrach na chynnydd ymddangosiadol o ganlyniad i oedi o ran eu hadrodd. Er enghraifft, dyma sy’n aml yn digwydd ar y penwythnos a gall arwain at anghysondeb yn y data. Dyna pam rydyn ni wedi dechrau defnyddio’r siart ganlynol yn ein set ddata COVID-19 wythnosol ac fe fyddwn i’n awgrymu y dylai defnyddwyr a’r cyfryngau ganolbwyntio ar hon. Fel enghraifft mae’r siart yn cynnwys dau ddiwrnod dros y pythefnos diweddaraf lle bod y nifer a adroddir yn uchel iawn oherwydd ôl-adroddi nifer o farwolaethau gan ddau fwrdd iechyd penodol. Ond yn y llinell yn dangos dyddiad marw, fe fydd y rhain wedi’u dyranu i’r dyddiad priodol, sydd yn rhoi dealltwriaeth fwy cywir o’r tueddiad.
Beth am farwolaethau mewn cartrefi gofal, neu ymysg eu preswylwyr?
Fel y nodir uchod, mae SYG yn casglu data ar bob marwolaeth gan gynnwys yn ôl lleoliad y farwolaeth. Mae hyn yn golygu y gallwn fesur nifer y marwolaethau a ddigwyddodd mewn cartrefi gofal, ond nid yw’n dweud wrthym a fu farw preswylydd cartref gofal yn ddiweddarach mewn ysbyty ar ôl dal COVID-19. Mae ICC hefyd yn cael gwybod am farwolaethau mewn cartrefi gofal, lle mae achosion yn cael eu harchwilio, sydd wedi’u cadarnhau gan labordy, ac mae’r rhain wedi’u cynnwys yn y cyfansymiau uchod.
Heddiw, fe wnaethon ni ddechrau cyhoeddi cyfres newydd wedi’i seilio ar hysbysiadau o farwolaethau i Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) gan leoliadau cofrestredig. AGC yw rheoleiddiwr annibynnol darparwyr cartrefi gofal yng Nghymru, ac mae’n ofynnol yn statudol i ddarparwyr roi gwybod iddo am farwolaethau ymysg preswylwyr. Mae hyn yn cynnig darlun o farwolaethau ymysg preswylwyr cartrefi gofal, boed y farwolaeth wedi digwydd mewn cartref gofal neu ysbyty. Mae hefyd yn ein galluogi i ddeall y darlun ehangach o farwolaethau ymysg preswylwyr cartrefi gofal pan nad COVID-19 o bosibl oedd yr achos sylfaenol.
Mae’r data hyn wedi’u seilio ar yr hyn a achosodd y farwolaeth yn ôl adroddiad darparwr y cartref gofal. Nid ydyn nhw wedi’u seilio ar brofion sydd wedi’u cadarnhau gan labordy, felly nid oes modd eu cymharu’n uniongyrchol â data ICC. O ystyried bod y ddwy ffynhonnell yn gorgyffwrdd, ni ellir adio’r data hyn at ei gilydd. Fe fyddwn ni’n gweithio gydag ICC ac AGC i ddeall y gorgyffwrdd hwn a cheisio darganfod faint o’r marwolaethau hyn sy’n cael eu cynnwys yn amcangyfrifon ICC.
A allaf ymddiried yn y data gwyliadwriaeth gyflym a gyhoeddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru?
Ddydd Mawrth 29 Ebrill, fe wnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyhoeddi adolygiad o’r data ar farwolaethau sy’n cael eu darparu drwy broses gwyliadwriaeth gyflym ICC. Roedd yr adolygiad hwn yn cynnwys nifer o gamau gweithredu yr ydyn ni nawr yn eu rhoi ar waith. Fe wnaeth y Prif Weinidog ofyn imi oruchwylio’r system gyfan er mwyn sicrhau y gall pawb ymddiried yn y data sy’n cael eu darparu gan Fyrddau Iechyd a’u cyhoeddi gan ICC. Rydyn ni wedi dechrau cyfres o drafodaethau wythnosol â Byrddau Iechyd i sicrhau hyn a sicrhau bod y dull adrodd yn gyson. Rydyn ni eisoes wedi cael sicrhad gan bob bwrdd iechyd eu bod nawr yn darparu data wedi’u seilio ar yr un diffiniad cyson.
Fel y nodir uchod, mae’r data hyn wedi’u seilio ar broses gwyliadwriaeth gyflym ac mae yna agweddau sydd ddim ar hyn o bryd yn cael eu casglu drwy’r data hyn, ac o ystyried bod y data yn cael eu darparu mor gyflym, fe fydd yna ddiwygiadau i ddata diwrnodau blaenorol. A dyna pam mae data ONS yn bwysig i ddarparu darlun cyflawn o farwolaethau preswylwyr Cymru o COVID-19 ble bynnag digwyddodd y marwolaeth (gan gynnwys yn Lloegr).
Rydyn ni drwy’r amser yn ceisio gwella ein dealltwriaeth o farwolaethau COVID-19
Yn ogystal â gwella’r prosesau i gydgasglu’r data, rydyn ni hefyd yn ceisio cydweithio ar draws sefydliadau i’n helpu i ddeall y data yn well, ac felly helpu ein dealltwriaeth o’r haint. Mae hyn yn cynnwys:
- cyflwyno proses adrodd gyson yn ddiweddar ar gyfer gwyliadwriaeth gyflym
- drwy’r broses hon, casglu data ar ethnigrwydd, statws gweithiwr allweddol, ysmygu a materion iechyd sy’n bodoli eisoes
- gweithio gydag SYG i gysoni data er mwyn deall cwmpas data gwyliadwriaeth gyflym ICC
- datblygu modelau i’n galluogi i lunio amcangyfrifon mwy amserol o gyfanswm y marwolaethau cyn y caiff nifer y marwolaethau cofrestredig ei gyhoeddi
- gweithio ar draws AGC ac ICC i ddeall y gorgyffwrdd wrth gofnodi marwolaethau ymysg preswylwyr cartrefi gofal
Mae ONS hefyd wedi cyhoeddi cynlluniau i ddadansoddi data ar farwolaethau cysylltiedig â COVID-19 ymhellach. Mae hyn eisoes wedi cynnwys y dadansoddiad pwysig wythnos diwetha’ o farwolaethau yn ôl daearyddiaeth ac amddifadedd. Yn yr wythnosau i ddod, fe fydd ONS yn cyhoeddi dadansoddiad o farwolaethau yn ôl grŵp ethnig a chefndir yng Nghymru a Lloegr.
Glyn Jones
Prif Ystadegydd
E-bost: desg.ystadegau@llyw.cymru