Diweddariad y Prif Ystadegydd: mesur nifer yr unigolion sydd yn yr ysbyty, a rhai sylwadau ynghylch ansawdd data

Read this page in English

Yn y blog hwn, hoffwn siarad ychydig am ystadegau ysbytai, sydd wedi bod mor hanfodol ar gyfer deall y pandemig hwn.

Mae amrywiaeth eang o fesuriadau metrig wedi cael eu defnyddio’n gyffredin yn ystod y ddadl gyhoeddus dros yr wythnosau diwethaf: nifer y marwolaethau; nifer yr achosion positif o COVID-19; nifer y profion a gynhelir. Un mesur metrig pwysig arall y byddwch wedi ei weld yn cael ei ddefnyddio yng nghynadleddau i’r wasg Llywodraeth Cymru, a’r sleidiau a gyflwynir bob dydd gan Lywodraeth y DU, yw nifer yr unigolion sydd â COVID-19 sydd yn yr ysbyty. Mae hwn yn ffigur pwysig gan ei fod yn rhoi gwybod inni faint o bobl sydd yn yr ysbyty, ac felly faint o bwysau sydd ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) a’r effaith bosibl ar gapasiti gofal critigol os bydd iechyd y cleifion hynny yn dirywio. Mae nifer yr unigolion sydd yn yr ysbyty hefyd yn un o’r mesurau y gellir ei ddefnyddio i ddeall a modelu a ydy’r camau sydd ar waith yn arafu lledaeniad y feirws.

Newid y ffordd o fesur nifer yr unigolion sydd yn yr ysbyty

Yn ddiweddar, rydym wedi newid y ffordd yr ydym yn casglu data ar nifer yr unigolion sydd yn yr ysbyty. Mae hyn wedi effeithio ar y gyfres amser y byddwch wedi’i gweld yn cael ei chyhoeddi ar gyfer Cymru. Pan fydd claf yn cael ei dderbyn i’r ysbyty, bydd clinigwyr yn nodi ei symptomau, a byddant yn ystyried a ydy’r claf yn dangos symptomau o COVID-19. Pan fydd y data yn cael eu hadrodd yn genedlaethol inni yn ddyddiol, rydym yn gofyn i’r byrddau iechyd ddosbarthu’r cleifion i gategorïau er mwyn dangos a gafwyd cadarnhad bod ganddynt COVID-19 (hy eu bod wedi cael canlyniad positif i’r prawf ar gyfer COVID-19) neu a ydynt yn gleifion yr amheuir bod ganddynt COVID-19. Adroddwyd bod nifer yr unigolion sydd yn yr ysbyty yn gyfuniad o’r ddau fath hwn o gleifion. 

Ers dydd Llun diwethaf (Mai 25), rydym wedi gofyn i fyrddau iechyd newid y ffordd y maent yn adrodd inni’n ddyddiol. Rydym yn awr wedi gofyn iddynt wahanu cleifion sy’n gwella (ac sy’n adsefydlu). Gwnaethom hyn oherwydd y gall cleifion sy’n gwella ac sy’n cael cymorth adsefydlu gael eu nyrsio mewn gwahanol ffyrdd, ac mewn gwahanol leoliadau ac mae’n bwysig inni ddeall hyn.

At hynny, roedd rhai sefydliadau eisoes yn symud cleifion sy’n gwella o’u data ar welyau ar gyfer cleifion COVID i welyau nad ydynt ar gyfer cleifion COVID wrth adrodd. Roedd hyn yn achosi camddealltwriaeth o ran y tueddiadau mewn cleifion sydd â COVID, ac o ran y galw sydd ar y GIG gan gleifion nad oes ganddynt COVID. Drwy newid y ffordd o adrodd, byddwn yn cael darlun clir a chyson o effaith COVID ar gapasiti ledled Cymru.

Yn y tymor byr, mae hyn wedi golygu rhywfaint o fylchau yn y gyfres amser, ar 22 Mai a 26 Mai yn arbennig, wrth i fyrddau iechyd symud cleifion yn ôl o lwybr gofal nad ydyw ar gyfer cleifion COVID i lwybr COVID. Gellir gweld hyn yn glir mewn dau bigyn amlwg yn y gyfres. Yn y dyfodol byddwn yn tynnu’r gwahanol gategorïau allan yn glir yn ein ffigurau.

Siart yn dangos y nifer o cleifion mewn ysbytai yng Nghymru, gyda cynnydd diweddar oherwydd newyd yn y dulliau adrodd.

Sicrhau ein bod yn cyfathrebu’n gywir

Dros yr wythnosau diwethaf, mae llawer o sôn wedi bod am gapasiti gofal critigol a’r defnydd ohono. Mae’n bwysig deall beth mae hyn yn ei olygu. Cyn COVID, byddai gan ein GIG gapasiti o tua 150 o welyau gofal critigol. Ers i’r paratoadau gael eu gwneud i’r GIG fod yn barod ar gyfer pwysau sylweddol ar ei gapasiti gofal critigol o ganlyniad i’r pandemig, mae byrddau iechyd wedi nodi “capasiti ymchwydd” sydd wedi golygu, ar brydiau, fod tua 400 o welyau ar gael at ddefnydd gofal critigol. Roedd hyn yn cynnwys gwelyau cyffredinol a gwelyau acíwt a chanddynt rywfaint o ddarpariaeth gofal dwys, fel peiriannau anadlu mecanyddol, ynghlwm wrthynt. Mae’r capasiti ymchwydd hwn yn hanfodol ar gyfer darparu’r cymorth anadlu y byddai ei angen ar gleifion gyda chymhlethdodau sylweddol yn sgil COVID-19, ond nid yw’r gwelyau hynny mewn unedau gofal critigol. Er mwyn sicrhau felly ein bod yn cyflwyno data sydd mor gywir â phosibl rydym wedi dechrau cyfeirio at “Welyau lle ddarperir cymorth anadlu mewnwthiol” yn hytrach na “Gwelyau gofal critigol” wrth adrodd.

Rhai sylwadau ynghylch ansawdd a thryloywder data

Mae hwn yn gyfnod eithriadol ac rydym wedi gweld galw na welwyd mo’i debyg o’r blaen am wybodaeth, mewn amser real, am yr effaith y mae’r pandemig yn ei chael. O ganlyniad, mae ystadegwyr, a’r rheini sy’n darparu data inni yn gorfod cynhyrchu data ar raddfa na fyddai unrhyw un wedi gallu ei dychmygu dri mis yn ôl. Eglurodd Ed Humpherson, y Cyfarwyddwr Cyffredinol â chyfrifoldeb dros reoleiddio ystadegau, hyn mewn ffordd arbennig yn ei flog diweddar. Rydym yn gweld data yn cael eu casglu o ysgolion yn ddyddiol a’u cyhoeddi o fewn oriau o’u derbyn. Mae’r GIG yn darparu adroddiadau dyddiol sy’n cael eu defnyddio ymhen rhai oriau i ddrafftio cyhoeddiadau ac fel sail ar gyfer cynadleddau i’r wasg. Mae’r data hyn yn cael eu casglu, yn gyflym, drwy systemau gweinyddol gan weithwyr allweddol a fu’n gweithio’n bennaf cyn hyn i ddarparu gofal ac ymyriadau diogel ar gyfer aelodau’r cyhoedd.

Rydym yn gwybod o brofiad helaeth fod rhaid ymdrin â data gweinyddol yn ofalus, eu dilysu a’u herio, i sicrhau mai’r hyn yr oeddem yn meddwl oedd yn cael ei gyfrif sydd yn cael ei gyfrif. Dyna’r rheswm pam mae oedi’n aml rhwng y cyfnod y mae’r data yn berthnasol iddo a’r cyhoeddiadau ystadegau swyddogol sy’n dilyn.

Fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid oes gennym y fantais o allu treulio wythnosau (nac hyd yn oed oriau) ar ddilysu, ac o ganlyniad rwy’n meddwl ei bod hi ond yn deg ar y rheini sy’n darparu’r data hyn fy mod i’n gwbl glir – ni allwn ddisgwyl i’r data hyn fod yn berffaith drwy’r amser. Dylem ddisgwyl i’r data gael eu diwygio oherwydd bod canllawiau yn cael eu hegluro’n barhaus a’r ystadegau a ddaw yn sgil hynny yn destun craffu. Er gwaethaf hynny, y manteision a ddaw o fod yn dryloyw ac agored sy’n flaenllaw ar hyn o bryd ac mae gan y cyhoedd hawl i ddisgwyl y byddant yn deall beth sy’n digwydd yn eu GIG. Felly rydym ni ac adrannau eraill o’r llywodraeth yn cyhoeddi amrediad o “wybodaeth reoli”, er ein bod yn gwneud hynny gyda’r “rhybudd iechyd” perthnasol. Ein gwaith ni fel ystadegwyr y llywodraeth yw gwneud cymaint â phosibl i egluro’n glir ac yn agored beth yn union yw cyfyngiadau’r data hynny, a bod yn dryloyw gyda’n defnyddwyr pan fyddwn yn sylwi ar faterion, fel yr wyf wedi ceisio ei wneud uchod.

Glyn Jones
Prif Ystadegydd

E-bost: desg.ystadegau@llyw.cymru