Diweddariad y Prif Ystadegydd: cynhyrchu ystadegau yn ystod pandemig cenedlaethol (dilyniant i’r diweddariad blaenorol)

Read this page in English

Yn fy niweddariad  ar 23 Mawrth 2020, amlinellwyd sut yr oeddem yn bwriadu adolygu ein casgliadau data, ein gweithgarwch ymchwil a’n hallbynnau arfaethedig yng ngoleuni’r pandemig coronafeirws (COVID-19). Mae hyn wedi’i wneud er mwyn blaenoriaethu’r ymateb i’r sefyllfa bresennol – o safbwynt ein hadnoddau ein hunain o fewn Llywodraeth Cymru, ond yr un mor  bwysig hefyd adnoddau ein darparwyr data sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen allweddol ar draws y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r nodyn hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynlluniau.

Ers y diweddariad hwnnw, rydym wedi blaenoriaethu’r datblygiad a chyhoeddiad o allbynnau ystadegol newydd i hysbysu’r cyhoedd drwy’r pandemig. Rydym wedi dechrau cyhoeddi data ar capasiti y GIG, presenoldeb mewn lleoliadau awdurdod lleol ar gyfer plant, marwolaethau preswylwyr cartrefi gofal a gwybodaeth eraill fel arolygon ar farn ac ymddygiadau’r cyhoedd. Gymaint ag sydd yn bosib, caiff yr allbynnau hyn eu hysbysu ymlaen llaw a’u cyhoeddi drwy ein gwefan ystadegau ac ymchwil, a’u dwyn ynghyd drwy’r tudalen casglu dadansoddiadau coronafeirws COVID-19. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn cyhoeddi coronavirus (COVID-19) roundup o’u data a’u dadansoddiad, gyda’u blog yn ffynhonnell arall o syniadau defnyddiol.

Effaith ar ein gwaith parhaus

Casgliadau data

Rydym wedi gwneud y penderfyniad y bydd y rhan fwyaf o gasgliadau data o gyrff cyhoeddus yn cael eu hatal ar hyn o bryd. Yn achos rhywfaint o wybodaeth, cesglir data yn ddiweddarach yn y flwyddyn, neu ar y cyd â data’r flwyddyn nesaf ac yn achos gwybodaeth arall, byddwn yn casglu data yn flynyddol yn hytrach nag yn chwarterol. Er hynny, yn achos rhai cyfresi rhaid inni dderbyn nad yw’r data ar gael ar eu cyfer yn ystod y cyfnod hwn, ac felly ni chânt byth eu casglu. Rydym wedi gwneud penderfyniadau gan ystyried priodoldeb gofyn i gyflenwyr data ddarparu’r data, angen y defnyddiwr i gasglu data yn ôl amserlenni arferol, a pherthnasedd a phwysigrwydd data i sefyllfa COVID-19. Byddwn yn croesawu adborth gan ddefnyddwyr ar unrhyw faterion sy’n deillio o’r penderfyniadau hyn a fydd hyn yn llywio’r ffordd rydym yn blaenoriaethu’r casgliadau i ddod yn ôl ar-lein.

Arolygon

Yn unol â chyngor y llywodraeth ynghylch coronafeirws a chadw pellter cymdeithasol, mae pob cyfweliad wyneb yn wyneb ar gyfer arolygon cymdeithasol y llywodraeth wedi’u hatal ym mis Mawrth. Mae hyn wedi effeithio ar y dull o gynnal Arolwg Cenedlaethol Cymru, ac eraill a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol megis yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth – ffynhonnell allweddol o ddata ystadegau’r farchnad lafur ledled y DU. Lle bo modd, symudwyd at gyfweliadau dros y ffôn, ond bydd goblygiadau yn y dyfodol o ran amseru, argaeledd a/neu ansawdd y data ac fe fyddwn yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr amdanynt.

Dechreuodd y dull ffôn i gymryd lle’r Arolwg Cenedlaethol wyneb yn wyneb ar 24 Ebrill. Mae’n arolwg sampl ar hap, 20 munud o hyd, gydag ymatebwyr blaenorol a gytunodd i gael eu hailgysylltu ar gyfer ymchwil bellach.  Y nod yw sicrhau 1,000 o gyfweliadau pob mis. Mae’r arolwg yn canolbwyntio ar bynciau sy’n berthnasol i’r sefyllfa bresennol, a’r bwriad yw cyhoeddi canlyniadau o waith maes pob mis erbyn diwedd y mis canlynol, felly dylai’r canlyniadau cyntaf fod ar gael erbyn diwedd mis Mehefin.

Mae’r Arolwg Defnydd Iaith a oedd yn cael ei ddosbarthu i’r siaradwyr Cymraeg  fel rhan o’r Arolwg Cenedlaethol yn wreiddiol, bellach wedi cael ei hatal.

Allbynnau

Yn ogystal ag effeithio ar yr hyn y gallwn ei gasglu gan ddarparwyr data ac ymatebwyr, mae’r sefyllfa’n effeithio ar ein gweithrediadau ein hunain o ran y blaenoriaethau ar gyfer ein hadnodd dadansoddol, ac felly mae’n effeithio ar yr hyn a gyhoeddwn dros y misoedd nesaf. Bydd angen atal y gwaith o gynhyrchu rhai ystadegau a gwaith ymchwil arfaethedig os caiff rhaglenni eu canslo neu pan fydd y gwaith o gasglu data wedi’i effeithio, neu os bernir bod y dadansoddiad yn flaenoriaeth is.  Effeithir ar ystadegau eraill o safbwynt ansawdd, naill ai o ran cywirdeb, neu oherwydd lefel y manylder sydd ar gael, megis llai o sylwebaeth neu lai o ddadansoddiadau lle mae angen i ni leihau ein mewnbwn dadansoddol. Bydd ein crynodeb o weithgarwch a pherfformiad misol y GIG, er enghraifft, yn parhau, ond gyda ffocws llai a ffocws gwahanol o gofio’r llacio presennol o ran monitro a thargedau, yn ogystal â chanslo rhai gweithdrefnau.

Sut i ddarganfod mwy

Mae’n bwysig inni fod yn agored ac yn dryloyw gyda defnyddwyr ynghylch y penderfyniadau a wneir, a’n cynlluniau ar gyfer casglu data unigol. Bydd yr wybodaeth ddiweddaraf am ein hallbynnau neu’r gohiriadau arfaethedig yn parhau i fod ar gael drwy ein calendr datganiadau.

Glyn Jones
Prif Ystadegydd

E-bost: desg.ystadegau@llyw.cymru