Diweddariad y Prif Ystadegydd: COVID-19 a chynhyrchu ystadegau ac ymchwil gymdeithasol

Read this page in English

Mae ystadegwyr ac ymchwilwyr o fewn Llywodraeth Cymru yn casglu, dadansoddi ac yn cyhoeddi ystadegau swyddogol ac adroddiadau ymchwil i helpu’r Llywodraeth, busnes a’r cyhoedd i wneud penderfyniadau gwybodus.

Mae’r salwch coronafeirws (COVID-19) yn her sylweddol i bob un ohonom, ac rydym yn cydweithio ar draws Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth a phroffesiwn Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth, i sicrhau bod Cymru ynghyd â’r DU cyfan yn cael yr wybodaeth hanfodol sydd eu hangen i ymateb i effeithiau byr a hir dymor y pandemig yma ar ein cymdeithas a’n heconomi.

Mae hyn yn golygu bydd angen i ni newid ein gweithrediadau arferol, er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cefnogi ymateb y Llywodraeth i’r argyfwng hwn yn ogystal â darparu’r wybodaeth angenrheidiol pan fydd ei hangen fwyaf.

Mae angen hefyd ei hystyried beth sy’n gywir ac yn addas i ni ofyn i ymatebwyr a darparwyr data ei gyflenwi i ni ar hyn o bryd, o ystyried y pwysau ar feysydd a staff allweddol. Byddwn yn gwneud penderfyniadau brys o ran pa gasgliadau data y gellir eu hoedi, neu eu canslo mewn rhai achosion. Mae penderfyniadau eisoes wedi’u gwneud i ganslo casgliadau data presennol neu sydd wedi’u cynllunio, a gwaith ymchwil cysylltiedig, ar gyfer ysgolion.

Bydd y newidiadau i’n gwaith, a chasgliadau data a gweithgarwch ymchwil, yn golygu bydd angen gohirio cynhyrchu rhai ystadegau ac allbynnau ymchwil arfaethedig. Gallai hefyd effeithio ar ansawdd rhai o’n hystadegau eraill, o ran cywirdeb, neu lefel y manylder sydd ar gael, megis llai o sylwebaeth neu lai o wybodaeth ar gyfer grwpiau/ardaloedd penodol.

Caiff penderfyniadau eu gwneud ar sail achosion unigol, gan flaenoriaethu’r hyn sy’n berthnasol i’r sefyllfa bresennol, a byddwn yn agored ac yn dryloyw ynghylch y penderfyniadau a wneir a’r effeithiau posib ar ein hystadegau a’n hymchwil. Byddwn yn cyhoeddi rhagor am hyn yn ystod yr wythnosau nesaf. Drwy gydol y broses hon, byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y Cod Ymarfer wrth gyhoeddi ystadegau swyddogol, sydd o werth i’r cyhoedd, sydd o ansawdd uchel ac y gellir ymddiried ynddo, yn ogystal â’r Cod Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth a phrotocol cyhoeddi.

Bydd y wybodaeth ddiweddaraf am ein hallbynnau neu ohiriadau yn parhau i fod ar gael ar ein calendr datganiad.

Mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau hefyd wedi cyhoeddi datganiad am eu hymagwedd tuag at reoleiddio ein gwaith ystadegol ar yr adeg hon.

Glyn Jones
Prif Ystadegydd

Steven Marshall
Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol

E-bost: desg.ystadegau@llyw.cymru