Sylwadau cychwynnol prentis ym maes ymchwil ar ddefnyddwyr

Read this page in English

Trwy gydol fy nyddiau ysgol roeddwn yn cymryd diléit mewn cynllunio a helpu i greu pethau newydd i eraill (fy hoff wers oedd Tecstilau). Dwi ddim yn awgrymu bod creu ffrog yr un peth â gweithredu polisi, ond maent yn galw am angenrheidiau tebyg. Ymhlith y rhain mae defnyddiwr hapus (gobeithio), cynnyrch terfynol, a’r ymdeimlad yna o lwyddiant!  Fel mae’n digwydd, drwy ddarganfod yr hyn yr oedd pobl ei angen, a thrwy ymaddasu i’w hanghenion, roeddwn mewn gwirionedd yn gwneud rhywbeth a elwir yn ymchwil ar ddefnyddwyr.

Felly, beth yw ymchwil ar ddefnyddwyr?

Mae ymchwil ar ddefnyddwyr yn golygu darganfod yr hyn y mae ar bobl ei angen ac mae’n ffordd ddefnyddiol o droi’r hyn yr ydych yn ei wneud i fod yn rhywbeth ystyrlon. Dechrau’r broses yw darganfod beth yw’r broblem sylfaenol, yn hytrach na phlymio’n syth i mewn a chynnig datrysiad sy’n debygol o fod yn wastraff amser. Mae’n golygu deall pwy yw eich defnyddwyr, yr hyn y maent eisiau ei wneud a sut y maent yn ei wneud ar hyn o bryd.

Fel y crybwyllais yn barod, heb fod yn ymwybodol ohono, roeddwn eisoes wedi gwneud gwaith ymchwil ar ddefnyddwyr wrth wneud prosiectau tecstil yn yr ysgol. Cefais gyfle i siarad â chynllunwyr yn ogystal â chwsmeriaid, rhywbeth a roddodd oleuni pellach imi ar y broses o greu cynnyrch i lenwi bwlch yn y farchnad.

Dysgu wrth weithio

Llun o pobl yn eistedd o gwmpas desg gyda laptopsFel Prentis Digidol Data a Thechnoleg rwyf i, ynghyd â’r prentisiaid eraill, wedi elwa ar y cyfle i ddysgu am fethodolegau ymchwil ar ddefnyddwyr ac rwy’n gweithio fel rhan o dîm sy’n gwneud ymchwil o’r fath yn rheolaidd.

Cefais fy mlas cyntaf ar ymchwil ar ddefnyddwyr pan roddwyd imi a’m cyd-brentisiaid y prosiect o gynllunio cynnyrch i wella ffyrdd o weithio. Er mwyn darganfod a fyddai’r prosiect yn fuddiol, penderfynwyd gwneud peth ymchwil ar ddefnyddwyr. Aethom ati i ddefnyddio canlyniadau ein hymchwil i adnabod anghenion cyffredin ac i ddatblygu personâu defnyddwyr (cymeriadau a grëir i gynrychioli mathau gwahanol o ddefnyddwyr) er mwyn deall y canlyniadau a medru eu mynegi yn well. Mae cadw’r ffocws ym mhob cam o’n prosiect ar ymchwil ar ddefnyddwyr wedi golygu bod ein cynnyrch, ar hyn o bryd, yn cael ei lunio yn seiliedig ar yr hyn y mae defnyddwyr ei angen go iawn yn hytrach na’r hyn yr ydym ni’n meddwl efallai bod ei angen arnynt.

Fy sylwadau i

Y wedd ar ymchwil ar ddefnyddwyr rwy’n ei hoffi orau yw’r agwedd seicolegol sydd ynghlwm wrth weld sut y mae gwahanol bobl yn ymddwyn ac yn ymateb, gan ei fod yn aml yn annisgwyl. Gall y manylyn lleiaf, megis lliw ac enw’r cynnyrch neu’r gwasanaeth, gael effaith fawr ar y defnydd a wneir ohono.

O’m profiad innau o ddefnyddio’r dulliau hyn mor belled, rwy’n eu hystyried yn ffordd hwyliog ac effeithlon o ryngweithio â’r bobl yr ydym yn cynllunio ar eu cyfer. Mae’r broses hefyd yn arbed amser ac arian gan nad ydym yn eu gwastraffu ar greu cynnyrch na fydd yn llwyddiannus.

Er mwyn gwneud ymchwil ar ddefnyddwyr, nid oes rhaid i chi fod yn giamstar ar y byd digidol, nac yn arbenigwr ar gyfathrebu, ond gyda dealltwriaeth sylfaenol o’r methodolegau ac ychydig o adnoddau syml mae’n fodd clyfar o ryngweithio â’r bobl briodol. Fel person sy’n ei chael hi’n anodd peidio â pharablu, mae’n gweddu i’r dim i mi.

 

Post gan Tia Mais, Prentis Digidol, Data a Thechnoleg (DDaT)

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s