Yn dilyn y Gweithdy Data Agored ym mis Tachwedd, rydym yn gweithio gyda Data Cymru i gynnig dau weithdy ychwanegol yng ngogledd a de-orllewin Cymru. Bydd y gweithdai hyn yn canolbwyntio ar sut y gallwn gynyddu faint o ddata agored sy’n cael ei gyhoeddi a’i ddefnyddio drwy ddatblygu canllawiau ac arddangos ychydig o adnoddau defnyddiol.
Anelir y gweithdai at unrhyw un sydd yn cyhoeddi ac/neu yn defnyddio data agored yng Nghymru (neu sydd yn ceisio gwneud hynny). Felly, os ydych yn gweithio yn y sector cyhoeddus, y sector preifat, y byd academaidd neu unrhyw le arall, a bod gennych ddiddordeb mewn data agored, yna byddwn yn falch iawn i’ch croesawu i’r gweithdai.
Cynhelir y gweithdai yn ystod ail wythnos mis Mawrth a byddant yn rhoi sylw i’r canlynol:
Canllawiau Data Agored – Pa setiau data y dylen ni oll eu cyhoeddi?
Fel y crybwyllwyd yn y gweithdy blaenorol, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio ar y cyd ag eraill i ddatblygu canllawiau ar gyhoeddi data agored ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru. Bydd un rhan o’r canllawiau yn ymwneud â nodi setiau data cyffredin y bydd cyrff yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn anelu at eu cyhoeddi yn agored.
Bydd yna sesiwn ryngweithiol (ydy, mae hyn yn golygu nodiadau post-it!) gyda’r bwriad o nodi a thrafod setiau data posibl i’w cynnwys yn y canllawiau.
Y Data Agored ‘Hub’
Data Cymru yn datblygu platfform cyhoeddi ar-lein i helpu awdurdodau lleol a’r sector cyhoeddus ehangach i gyhoeddi eu data agored (gweler ein blog diweddar am ragor o wybodaeth). Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i gael golwg gyntaf ar y ‘hub’ a darganfod mwy am yr hyn sydd ganddo i’w gynnig.
Catalog Data Agored
Byddwn hefyd yn arddangos prototeip o gatalog Data Agored yr ydym ni yn Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei ddatblygu. Rydym yn gobeithio casglu eich barn ar y cwestiwn o ddefnyddioldeb y catalog a sut y gallwn ei wella.
Ble a Phryd?
Y Gogledd: Dydd Mawrth 10 Mawrth, Neuadd Reichel, Bangor, 1 – 4 pm
Y De-orllewin: Dydd Iau 12 Mawrth, Ystafell Ocean, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, 1 – 4 pm
Sut i Gofrestru
Bydd y digwyddiadau am ddim, ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael.
Mae cofrestru yn cael ei drefnu gan Data Cymru. I archebu’ch lle, anfonwch e-bost gan gynnwys y wybodaeth a ddangosir isod at Helen Williams (helen.williams@data.cymru) erbyn 6 Mawrth 2020.
Digwyddiad: Gogledd Cymru neu Dde Cymru
- Eich enw:
- Teitl swydd
- Trefniadaeth:
- Cyfeiriad ebost:
- Ffôn
A oes gennych unrhyw ofynion penodol i’ch galluogi i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn? Os oes, nodwch (Sylwch: darperir cyfieithu ar yr un pryd ar y diwrnod):
Ni fydd Data Cymru yn rhannu eich gwybodaeth gofrestru â Llywodraeth Cymru.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech drafod y digwyddiadau hyn yn fwy manwl, yna cysylltwch â Daniel Cummings ar 029 2090 9500 neu e-bostiwch Daniel.cummings@data.cymru