Mae ‘Cynllun gweithredu ar yr economi‘ Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau ffyniant i bawb drwy gefnogi economi sy’n cynyddu ein cyfoeth ac yn gwella ein llesiant. Er mwyn darparu cymorth effeithiol i economi Cymru mae’n bwysig deall gweithgaredd busnes cyfredol yng Nghymru … Faint o bobl mae busnesau yn eu cyflogi? Pa mor fawr yw eu trosiant? Beth maen nhw’n ei brynu a’i werthu? Gyda phwy maen nhw’n masnachu? Ydyn nhw’n masnachu gyda gwledydd eraill?
Yn dilyn y penderfyniad i adael yr UE, mae mwy fyth o alw am wybodaeth fwy cywir a manwl. Mae arlunwyr polisïau angen gwybodaeth gywir am ddiwydiannau a lefel y cynnyrch er mwyn llunio polisïau a gwneud penderfyniadau buddsoddi sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar lefel genedlaethol. Yn 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘Polisi masnach: materion Cymru‘. Roedd y polisi hwn yn amlinellu’r awydd am ddull gweithredu gwell sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Byddai mwy o dystiolaeth yn galluogi Llywodraeth Cymru i:
- gael gwell dealltwriaeth o economi Cymru, gan gynnwys effaith ymadael â’r UE a’r rhyng-gysylltiadau rhwng busnesau Cymru a busnesau mewn rhannau eraill o’r DU a thramor
- asesu effeithiau posibl cysylltiadau masnachu arfaethedig y DU yn y dyfodol ar fusnesau Cymru a’r economi ehangach yn fwy cywir.
Mae llawer o’r data hyn ar gael yn barod, acyn cael eu cynhyrchu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cynhyrchu ystadegau ar gyfer y DU, ac maen nhw’n defnyddio’r ffigurau hyn i amcangyfrif y niferoedd ar gyfer y gwahanol wledydd a rhanbarthau sydd yn y DU. Ond, nid fersiwn llai o’r DU yw Cymru. Mae gennym ein tirwedd busnes a’n meysydd arbenigedd penodol ein hunain.
Mae’r amcangyfrifon rhanbarthol presennol yn ystyried y dirwedd busnes wahanol ledled y DU, ond gall cynhyrchu amcangyfrifon dibynadwy fod yn gymhleth. Er enghraifft, ystyriwch fusnes unigol sydd â changhennau ledled y DU ac sy’n cynhyrchu cynnyrch amrywiol. Mae’n bosibl nad yw’n glir o’r wybodaeth ar lefel y DU beth mae’r canghennau sydd gan y busnes yng Nghymru yn ei gynhyrchu, a beth sy’n digwydd i’r nwyddau a’r gwasanaethau maen nhw’n eu darparu.
Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cynhyrchu ystadegau rhanbarthol ar gyfer allforion a mewnforion busnesau’r DU. Os oes gan fusnes ganghennau ledled y DU, mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn edrych ar nifer y gweithwyr sydd ganddo ym mhob rhan o’r DU er mwyn dyrannu cyfran o gyfanswm masnach y busnes. Efallai y byddai hyn yn iawn pe bai pob cangen o fusnes yn gwneud yr un peth, ond y gwir amdani yw y gallai gwahanol rannau o fusnes fod yn arbenigo mewn gweithgareddau gwahanol iawn.
Mae rhagor o fylchau yn gysylltiedig â dealltwriaeth o fasnach yng Nghymru, er enghraifft, diffyg gwybodaeth am fasnach sy’n digwydd yn y DU (e.e. faint mae Cymru’n ei fasnachu gyda Lloegr?). Credir bod gwerth masnach Cymru â gweddill y DU yn llawer iawn mwy na gwerth allforion rhyngwladol o Gymru. Ond nid oes gennym ddata i gefnogi’r dybiaeth hon – nid oes ystadegau swyddogol am y pwnc hwn ar gael ar gyfer Cymru.
Er mwyn deall gweithgareddau busnesau yng Nghymru, rydym yn cynnal arolwg masnach peilot i geisio canfod beth yn union sy’n digwydd yn y maes. Bydd hyn yn caniatáu i ni wirio’r ystadegau rhanbarthol presennol i sicrhau eu bod yn gwneud synnwyr ac, yn bwysicach fyth, i ddarparu tystiolaeth gadarn fel sail i benderfyniadau economaidd yn y dyfodol.
Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous ond heriol. Hwn fydd yr arolwg masnach pwrpasol cyntaf ar gyfer Cymru a byddwn yn defnyddio’r peilot i geisio deall pa gwestiynau y gall busnesau eu hateb yn hawdd a sut y gallant wahaniaethu eu gweithgareddau ar draws sectorau a marchnadoedd.
Dylai’r arolwg fod yn mynd allan i’r busnesau yn yr hydref, a gobeithio y bydd y canlyniadau cyntaf gennym yng ngwanwyn 2020. Byddwn yn darparu rhagor o ddiweddariadau yn y blog hwn yn y dyfodol, ond mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech gael gwybodaeth reolaidd am yr arolwg hwn.
Stephanie Howarth
Pennaeth ystadegau’r economi, sgiliau ac adnoddau naturiol
Ebost: ystadegau.masnach@llyw.cymru
27 Awst 2019