Ysgrifennais mewn blog blaenorol am ein cynlluniau ar gyfer arolwg masnach peilot dros Gymru. Mae’r peilot bellach wedi’i gwblhau a chyhoeddir y canlyniadau heddiw.
Hoffwn ddiolch i’r holl fusnesau a gymerodd yr amser i ymateb i’r arolwg. Yr ydych wedi rhoi cipolwg amhrisiadwy inni ar weithgarwch masnach yng Nghymru.
Mae ‘Cynllun gweithredu ar yr economi’ Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau ffyniant i bawb drwy gefnogi economi sy’n cynyddu ein cyfoeth ac yn gwella ein llesiant. Er mwyn llunio polisïau effeithiol ar gyfer economi Cymru, mae’n hanfodol deall gweithgarwch cyfredol busnesau yng Nghymru – dyma oedd prif nod ein harolwg masnach.
Y sbardun gwreiddiol ar gyfer datblygu gwybodaeth fasnachu fwy cywir a manwl oedd ymadael â’r UE, ond mae busnesau bellach yn wynebu heriau digynsail a gyflwynwyd gan y pandemig coronafeirws. Mae’r ystadegau masnach newydd a gynhyrchwyd gennym yn darparu llinell sylfaen hanfodol cyn y coronafeirws sy’n datgelu ein dibyniaeth ar fasnach ryngwladol a gellir ei defnyddio i danategu ein polisïau masnach yn y dyfodol.
Derbyniodd yr arolwg ychydig dros 1,000 o ymatebion, gan gasglu data o fusnesau micro i rai mawr, ar draws nifer o sectorau. Gofynnwyd i ymatebwyr am fanylion gwerthiannau a phryniannau nwyddau a gwasanaethau, o fewn y DU a thramor. Mae’r wybodaeth hon wedi ein galluogi i amcangyfrif cyfanswm y fasnach a wneir gan fusnesau yng Nghymru, a gyflwynwyd gan faint y busnesau, y sectorau a’r marchnadoedd.
Drwy gasglu gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrth fusnesau yng Nghymru, rydym wedi gallu llenwi rhai o’r bylchau yn y dystiolaeth a amlinellwyd yng nghyhoeddiad Llywodraeth Cymru, ‘Polisi masnach: materion Cymru‘. Yn benodol, mae wedi ein galluogi i wirio’r ystadegau masnachu rhanbarthol presennol, sydd wedi’u modelu gan ddefnyddio data ar lefel y DU. Rydym hefyd wedi gallu cynhyrchu’r amcangyfrifon swyddogol cyntaf o fasnach rhwng Cymru a gweddill y DU.
Ystyrid bod gwerth masnach Cymru â gweddill y DU sawl gwaith yn fwy nag masnach ryngwladol yng Nhgymru. Canfu ein harolwg fod 80% o werthiannau fusnesau yng Nghymru o fewn y DU (gan gynnwys Cymru).
‘Ystadegau arbrofol’ yw’r canlyniadau gan fod rhai cyfyngiadau o ran eu cwmpas, ac mae gwaith datblygu yn parhau yn sgil y fethodoleg newydd hon. Felly dylid defnyddio’r ystadegau gan roi sylw priodol i’r cyfyngiadau data a amlinellir yn y datganiad. Fodd bynnag, mae’r canlyniadau’n dal i gynnig cipolwg defnyddiol newydd ar fasnach busnesau yng Nghymru, yn enwedig dibyniaeth Cymru ar fasnach â rhannau eraill o’r DU o’i chymharu â masnach ryngwladol.
Gellir gweld y datganiad llawn am y canfyddiadau 2018 ar ein tudalennau ystadegau ac ymchwil.
Mae’r tîm sy’n cydgysylltu’r arolwg masnach yn croesawu unrhyw adborth ar y dadansoddiad hwn, e-bostiwch nhw: ystadegau.masnach@llyw.cymru
Beth nesaf?
Bydd y camau nesaf yn cynnwys cyhoeddiadau pellach am fasnach Cymru, yn seiliedig ar ganlyniadau’r arolwg gan ymgorffori ffynonellau data eraill i wella cwmpas busnesau a sectorau.
Mae cynllun i redeg ail arolwg masnach dros hydref 2020, a fydd yn ceisio casglu data masnach 2019. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall a yw’r fethodoleg ar gyfer casglu data masnach ar gyfer Cymru fel hyn yn cynhyrchu data dibynadwy dros amser.
Os hoffech wybod rhagor am yr arolwg nesaf, anfonwch e-bost at: ystadegau.masnach@llyw.cymru
Stephanie Howarth
Pennaeth ystadegau’r economi, sgiliau ac adnoddau naturiol