Diweddariad y Prif Ystadegydd: amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd is-genedlaethol sy’n seiliedig ar 2018

Read this page in English

Ym mis Hydref, fe wnaethom gyhoeddi ein bod yn mynd i ohirio’r amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd is-genedlaethol sy’n seiliedig ar 2017. Roedd ein blog blaenorol yn disgrifio’r rhesymau pam y gwnaethom y penderfyniad hwnnw, a chyhoeddwyd hefyd nodyn byr yn disgrifio’r heriau a gawsom gyda’r gwaith.

Ers hynny, rydym wedi bod yn gweithio i lunio set o amcanestyniadau sy’n ymdrin â’r materion yr oeddem wedi’u nodi. Mae’r blog hwn yn disgrifio’r newidiadau y byddwn yn eu gwneud i’r ffordd y cynhyrchir yr amcanestyniadau, a’n cynlluniau cyhoeddi ar gyfer 27 Chwefror.

Gwella’r fethodoleg 1: mudo

Fe wnaethom ddisgrifio o’r blaen mai un o’r materion oedd yn codi oedd y dybiaeth ynghylch mudo sefydlog yn ystod y blynyddoedd i ddod. Roedd hyn yn rhoi canlyniadau poblogaeth amcanestynedig annhebygol iawn o ystyried tueddiadau’r gorffennol. Rydym wedi edrych ar nifer o ffyrdd gwahanol o wella’r gydran fudo yn yr amcanestyniadau. Gyda’n grŵp cynghori technegol, rydym wedi newid y fethodoleg fel a ganlyn.

Mudo mewnol

Bydd hwn yn defnyddio cyfraddau mudo. O ran mewnfudo mewnol, bydd hwn yn cael ei gyfrifo fel cyfradd o’i gymharu â gweddill poblogaeth y Deyrnas Unedig. Ar gyfer allfudo mewnol bydd hwn yn cael ei gyfrifo fel cyfradd o’i gymharu â phoblogaeth breswyl yr awdurdod lleol. Mae’r ddau hyn yn golygu nad yw mudo mewnol ac allanol bellach yn gyson ac y byddant yn dibynnu ar faint a strwythur oedran poblogaeth yr awdurdod lleol a gweddill y DU.

Mudo rhyngwladol

Mae hwn yn parhau heb ei newid, hynny yw, mae’r blynyddoedd i ddod yn aros yn gyson, ar sail tueddiadau diweddar. Nid ydym wedi newid hwn oherwydd inni ganfod bod newid y mewnfudo mewnol i gyfradd yn datrys y materion a welsom gyda’r gydran fudo. Y rheswm am hyn yw bod gan y rhan fwyaf o Gymru lifoedd mewnfudo mewnol llawer uwch na rhai rhyngwladol.

Gwella’r fethodoleg 2: cyfyngu ar yr amcanestyniadau

Er gwaethaf y newidiadau i’r gydran fudo, gwelsom o hyd fod cyfanswm yr amcanestyniadau poblogaeth is-genedlaethol yn parhau i ddangos tueddiad tymor hir gwahanol i’r amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol (NPPs) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Fel y disgrifiwyd yn flaenorol, roedd yr amcanestyniadau cenedlaethol, am y tro cyntaf, wedi dangos gostyngiad bach ym mhoblogaeth Cymru dros gyfnod o 25 mlynedd, ac eto roedd ein hamcanestyniadau awdurdodau lleol, o’u cyfuno, yn parhau i ddangos twf cryf dros yr un cyfnod. Cymru oedd yr unig wlad na wnaeth gyfyngu ar ei hamcanestyniadau is-genedlaethol i’r NPPs. Fe wnaethom ystyried nifer o opsiynau gyda’n grŵp cynghori technegol:

  1. Cyfyngu ar gyfanswm y boblogaeth yn unig ac nid y cydrannau.
  2. Cyfyngu ar gyfanswm y boblogaeth, yr elfennau genedigaethau a marwolaethau.
  3. Cyfyngu ar gyfanswm y boblogaeth, genedigaethau, marwolaethau a mudo mewnol.

Dylid nodi nad yw’n bosibl defnyddio ein meddalwedd (POPGROUP) i gyfyngu ar yr holl gydrannau (genedigaethau, marwolaethau, mudo mewnol a rhyngwladol) gan ei fod yn gofyn bod un o’r rheini heb ei gyfyngu er mwyn caniatáu i unrhyw addasiad gael ei wneud i’r gydran honno. Er enghraifft, petai’r boblogaeth gyfan, dyweder 1,000 yn rhy uchel, byddai addasiad o 1,000 yn cael ei wneud i unrhyw gydran sydd heb ei chyfyngu.

Fe wnaethom asesu’r opsiynau hyn drwy edrych ar y cydrannau yn ogystal â’r newid cyffredinol yn ôl rhyw a grŵp oedran ac ar gyfer y 22 awdurdod lleol. Yr ail opsiwn oedd y set fwyaf credadwy o amcanestyniadau ym marn ein grŵp technegol.

Oherwydd bod yr NPPs diweddaraf sy’n seiliedig ar 2018 yn dangos lleihad amcanestynedig yn y boblogaeth yn y tymor hwy, mae’n debygol y bydd y gyfres nesaf hon o amcanestyniadau poblogaeth is-genedlaethol yn wahanol i amcanestyniadau blaenorol ar gyfer y rhan fwyaf o awdurdodau lleol. Bydd yr amcanestyniadau hyn yn adlewyrchu’r tueddiadau demograffig diweddaraf, sy’n dangos bod y cyfraddau ffrwythlondeb yng Nghymru yn gostwng (gan arwain at lai o enedigaethau) ac nad oes gwellhad pellach mewn cyfraddau disgwyliad oes, er enghraifft.

Mae’r newidiadau methodolegol a amlinellir uchod yn rhoi set o amcanestyniadau credadwy inni sydd, at ei gilydd, yn rhoi’r un patrwm â’r NPPs. Maent hefyd yn goresgyn y materion a welsom lle roedd canlyniadau annhebygol yn cael eu cynhyrchu ar gyfer rhai grwpiau oedran mewn rhai awdurdodau lleol.

Newid yr amrywiolion sy’n cael eu cynhyrchu

Gan fod y fethodoleg newydd yn cyfyngu ar yr amcanestyniadau i’r NPPs, dim ond amrywiadau a gynhyrchir hefyd gan yr SYG y gallwn eu cynhyrchu, lle gynt yr oeddem yn gallu ein rhai eu hunain (gan nad oedd yr amcanestyniadau wedi’u cyfyngu). Felly, ar ôl ymgynghori â’n grŵp cynghori technegol, rydym yn cynllunio cyhoeddi i ddechrau amrywiolion uchel ac isel, ac amrywiolyn dim mudo. Byddwn yn gweithio gyda’r SYG yn y dyfodol os byddwn yn gweld amrywiadau y mae arnom eu hangen nad ydynt yn cael eu cynhyrchu ar hyn o bryd.

Dim newidiadau i fethodoleg yr amcanestyniadau aelwydydd

Mae’r amcanestyniadau aelwydydd yn cymryd yr amcanestyniadau poblogaeth is-genedlaethol ac yn cymhwyso cyfraddau ffurfiant aelwydydd iddynt. Seilir y cyfraddau hynny ar Gyfrifiad 2001 a 2011. Nid ydym yn cynnig newid y cyfraddau hynny ar yr adeg hon gan y bydd canlyniadau Cyfrifiad 2021 ar gael yn ystod y blynyddoedd nesaf, a fydd yn ein galluogi i adolygu’r cyfraddau ffurfiant hynny.

Effaith y fethodoleg newydd ar gyfer y parciau cenedlaethol

Er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr yn y ffordd orau, ein bwriad oedd cyhoeddi’r amcanestyniadau ar gyfer y parciau cenedlaethol ar y cyd ag amcanestyniadau’r awdurdodau lleol. Fodd bynnag, oherwydd yr amser mae wedi’i gymryd i ddatblygu a sicrhau bod amcanestyniadau’r awdurdodau lleol yn gadarn, ni allwn gyhoeddi amcanestyniadau’r parciau cenedlaethol ar 27 Chwefror. Rydym am fod â’r un hyder yn y fethodoleg cyfyngu ar gyfer y parciau cenedlaethol ag ar gyfer yr awdurdodau lleol – ond mae sawl ffordd o wneud hynny, ac mae angen i ni asesu hynny. Rydym felly am gyhoeddi’r rhain ddiwedd mis Mawrth.

Yr hyn y bwriadwn ei gyhoeddi ar 27 Chwefror

Byddwn yn cyhoeddi amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd awdurdodau lleol. Ynghyd â hynny, byddwn hefyd yn cyhoeddi’r amrywiolion. Oherwydd faint o waith y mae wedi’i gymryd, a’r galw eang gan ddefnyddwyr ar gyfer yr amcanestyniadau hyn, ni fyddwn yn darparu sylwebaeth fanwl. Ar ôl trafod gyda’n grŵp cynghori technegol, y teimlad, ar y cyfan, oedd y byddai cael y data yn gynt yn fwy o werth i’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr na chael sylwebaeth fanwl. Byddwn, wrth gwrs, yn dal i geisio cynhyrchu’r sylwadau manwl hynny, a’r nod yw gwneud hynny ddiwedd mis Mawrth i gyd-fynd â chyhoeddi amcanestyniadau’r parciau cenedlaethol.

Glyn Jones
Y Prif Ystadegydd

Ebost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru