Diweddariad y Prif Ystadegydd: sut mae marwolaethau COVID-19 yng Nghymru yn cymharu gyda gweddill y DU, a pa mor wahanol yw o fewn Cymru?

Read this page in English

Ddydd Gwener cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ddwy erthygl arall ar farwolaethau cysylltiedig â COVID-19, gan ehangu ymhellach y gyfres o ddadansoddiadau critigol y mae wedi bod yn eu cyhoeddi i’n helpu ni i gyd i ddeall natur ac effaith y pandemig hwn yn well.

Fel yr ysgrifennais o’r blaen er bod y data gwyliadwriaeth gyflym a gyhoeddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn ddangosydd amserol pwysig o farwolaethau COVID-19 mewn achosion sydd wedi’u cadarnhau, data SYG ar farwolaethau cofrestredig yw’r set fwyaf cynhwysfawr o wybodaeth ar farwolaethau. Maent yn rhoi’r cyfle i wneud gwaith dadansoddi manwl ledled Cymru. Rydym yn gweithio gyda SYG i ddatblygu ei chyfres o ddadansoddiadau ar gyfer Cymru gan gynnwys ar farwolaethau cysylltiedig â COVID-19 yn ôl galwedigaeth ac ethnigrwydd.

Yn y blog hwn dw i am nodi rhai o’r prif bwyntiau ynglŷn â Chymru yn yr erthyglau a gyhoeddwyd ddydd Gwener.

Marwolaethau COVID-19 yng Nghymru ymysg yr isaf yng ngwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr

Yn ei herthygl yn edrych ar farwolaethau ledled y DU ym mis Mawrth a mis Ebrill 2020, mae data SYG yn dangos na wnaeth nifer y marwolaethau cyffredinol yng Nghymru gynyddu gymaint o ganlyniad i COVID-19 o’i chymharu â Lloegr a’r Alban, a bod y feirws wedi bod yn gyfrifol am gyfran lai o farwolaethau nag yn Lloegr.

Ar gyfer y diben hwn mae SYG yn defnyddio cyfraddau marwolaethau wedi’u safoni yn ôl oedran sy’n ffordd well o fesur a chymharu marwolaethau rhwng ardaloedd na nifer y marwolaethau, gan eu bod yn ystyried maint y boblogaeth a’r strwythur oedran.

Dangosodd erthygl SYG fod gan Gymru gyfradd gymharol is o farwolaethau cysylltiedig â COVID-19 fesul pen o’r boblogaeth na Lloegr a’r Alban ym mis Mawrth a mis Ebrill. Roedd hefyd yn dangos patrwm tebyg ar gyfer marwolaethau o bob achos. Yn ogystal, roedd marwolaethau yng Nghymru yn llai tebygol o fod yn gysylltiedig â COVID-19 (22% o farwolaethau) o’i chymharu â’r cyfartaledd ledled y DU (26%).

Yn gyffredinol, mae cyfraddau marwolaethau wedi bod yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr yn hanesyddol – dangosir hyn yn ffigur 3 yn erthygl SYG fel cyfartaledd dros 5 mlynedd. Serch hynny, yn ystod cyfnod y pandemig, mae cyfraddau marwolaethau yng Nghymru wedi bod yn is nag yn Lloegr. Y rheswm dros hyn yw’r gwahaniaeth mewn marwolaethau ychwanegol.

Wrth gwrs, mae’n wir bod marwolaethau ychwanegol wedi bod yng Nghymru yn ystod y pandemig – hynny yw, mae rhagor o farwolaethau wedi bod nag y byddem yn ei ddisgwyl yr adeg hon o’r flwyddyn. Yng Nghymru amcangyfrifir bod 1,450 o farwolaethau ychwanegol wedi bod ym mis Mawrth a mis Ebrill na’r cyfartaledd dros 5 mlynedd ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn (a bron 2,200 erbyn 5 Mehefin yn ôl bwletin marwolaethau wythnosol diweddaraf y SYG). Roedd hyn yn gyfwerth â 25% yn rhagor o farwolaethau, sy’n is nag yn Lloegr (46%) a’r Alban (37%).Tabl 1: Marwolaethau yn digwydd ym mis Mawrth ac Ebrill 2020* yn ôl gwlad y DUMae’r sefyllfa’n debyg wrth gymharu â rhanbarthau Lloegr. Llundain sydd â’r gyfradd uchaf o farwolaethau COVID-19 wedi’u safoni yn ôl oedran ledled Lloegr a Chymru, rhwng mis Mawrth a mis Mai 2020. Mae’r ffigur ar gyfer Cymru yn debyg i Ddwyrain Canolbarth Lloegr, Dwyrain Lloegr a De-ddwyrain Lloegr, a dim ond De-orllewin Lloegr sydd â chyfradd is na Chymru.Cyfraddau safonedig oedran ar gyfer marwolaethau sy'n cynnwys Covid-19 fesul 100k o'r boblogaeth yn rhanbarthau Lloegr a Chymru rhwng 1 Mawrth a 31 Mai 2020.

Ar hyn o bryd ni allwn ond bwrw amcan ynghylch y rhesymau dros y patrymau gwahanol ledled y DU. Fe fydd yna berthynas â llawer o ffactorau, gan gynnwys oedran, nodweddion economaidd-gymdeithasol ac ethnigrwydd ynghyd â ffactorau ehangach eraill megis amddifadedd, tai, gordewdra a chyflyrau iechyd sydd eisoes yn bodoli.

Cyfraddau marwolaethau amrywiol ledled Cymru, ond ar eu huchaf yn y De

Cyhoeddodd SYG erthygl arall ddydd Gwener yn cyflwyno’r sefyllfa ddiweddaraf o ran marwolaethau ar draws byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol. Mae llawer o ddiddordeb wedi bod yn effaith y pandemig ar wahanol rannau o Gymru, yn enwedig y Gogledd, yn yr wythnosau diwethaf. Mae’n anodd mesur y sefyllfa ar gyfer rhai rhannau o Gymru o ddata gwyliadwriaeth ICC oherwydd materion trawsffiniol, gan fod rhai preswylwyr o Gymru wedi marw mewn ysbytai yn Lloegr ac felly heb eu cynnwys yn nata ICC. Hefyd, fe fydd yna anawsterau wrth gymharu ardaloedd sydd â chyfraddau gwahanol o bobl mewn cartrefi gofal, nad ydynt wedi’u cynnwys yn llawn o fewn data ICC. Yn yr un modd â chymariaethau ledled y DU mae hefyd yn bwysig deall poblogaethau cymharol ardaloedd – ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw’r bwrdd iechyd mwyaf yn ôl maint y boblogaeth.

Mae erthygl SYG wedi’i seilio ar ble oedd person yn byw ac eto’n defnyddio cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran er mwyn ystyried ffactorau demograffig.

Ar lefel awdurdodau lleol, roedd cryn amrywiaeth o fewn Cymru. Yn gyffredinol, yn y De yr oedd y cyfraddau uchaf a Cheredigion oedd â’r isaf.

Ar lefel byrddau iechyd, yn Hywel Dda oedd y cyfraddau isaf; roedd cyfraddau ym Mhowys a Betsi Cadwaladr hefyd yn is na’r cyfartaledd ledled Cymru. Yng Nghaerdydd a’r Fro a Chwm Taf Morgannwg oedd y cyfraddau uchaf. Ond wrth gwrs mae yna amrywiaeth o fewn ardal bwrdd iechyd. O fewn Betsi Cadwaladr, yn y Gogledd-ddwyrain (Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) y mae’r cyfraddau uchaf ac ym Môn y mae’r rhai isaf.

Mae data SYG ar gael fesul mis felly maent hefyd yn ein galluogi i weld sut mae’r pandemig wedi amrywio yn ei natur ledled Cymru. Roedd y cyfraddau misol uchaf yn y De ym mis Ebrill, ond ym mis Mai rhai o awdurdodau lleol y Gogledd oedd â’r cyfraddau uchaf wedi’u safoni yn ôl oedran. Tra gwnaeth y cyfraddau yn y De ostwng ym mis Mai, roedd y cyfraddau marwolaethau yn ardaloedd awdurdodau lleol y Gogledd yn fwy sefydlog. Ond hyd yn oed yn y rhannau hynny o’r Gogledd, roedd y cyfraddau marwolaethau ym mis Mai yn is na 40 marwolaeth am bob 100,000 o bobl. Ar y llaw arall, ym mis Ebrill roedd gan 11 awdurdod lleol gyfraddau marwolaethau oedd dros 40 am bob 100,000 o bobl. Mae hyn yn amlygu’r gostyngiad mewn cyfraddau marwolaethau yn ystod mis Mai, a hefyd y darlun gwahanol yn y Gogledd, sydd wedi gweld “brig” llai amlwg nag ardaloedd eraill o Gymru.

Cyfraddau safonedig oedran ar gyfer marwolaethau sy'n cynnwys Covid-19 fesul 100k o'r boblogaeth yn ol bwrdd iechyd lleol, rhwng 1 Mawrth a 31 Mai 2020.

Tabl 2: Cyfraddau marwolaethau Covid-19 safonedig yn ôl oedran fesul 100k, Mawrth i Mai 2020

Glyn Jones
Prif Ystadegydd

E-bost: desg.ystadegau@llyw.cymru