Efallai eich bod yn cofio inni ddweud wrthych o’r blaen am ein cynlluniau i gynnal Gweithdy Data Agored. Wel, fis diwethaf, fe wnaethom ddwyn ynghyd dros 50 o bobl sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector (fel elusennau) ac mewn sefydliadau preifat. Roedd yn wych gweld cymaint o amrywiaeth o bobl a sefydliadau â diddordeb mewn data agored. Roeddem hefyd yn falch bod y rheini a ddaeth i’r gweithdy yn credu ei fod yn ddefnyddiol, a hoffem ddiolch iddynt i gyd am ei wneud yn ddigwyddiad difyr a diddorol tu hwnt.
Dechrau’r drafodaeth
Dechreuodd y diwrnod gyda sesiwn gweithdy a gynhaliwyd gan Ben Proctor o ODI Cardiff, a arweiniodd at nifer o drafodaethau am ddata agored. Gan ddefnyddio dull dadansoddi effaith meysydd dylanwadu (sy’n llai cymhleth nag y mae’n swnio!), gwnaeth Ben ein hannog i weithio mewn grwpiau i nodi pethau yr ydym yn credu sy’n ein helpu ni ac sy’n ein rhwystro ni o ran data agored. Roedd rhai o’r rhwystrau canfyddiedig yn cynnwys y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), hawlfraint, aeddfedrwydd data, sgiliau a gwybodaeth, platfformau cyhoeddi, ac ansawdd data.
A fyddai canllawiau yn helpu?
Gan ddefnyddio canlyniadau’r trafodaethau hyn, roedd y sesiwn wedyn yn canolbwyntio ar ystyried a oes angen canllawiau ar ddata agored yng Nghymru ac, os felly, beth ddylid ei gynnwys yn y canllawiau?
Roedd y drafodaeth a gafwyd wedi hynny yn amrywiol, ond roedd pawb yn cytuno ar y cyfan y byddai canllawiau yn fuddiol ac y dylid ystyried yr elfennau a ganlyn:
Beth arall ydym ni’n ei wneud yn Llywodraeth Cymru?
Ar ôl tipyn o drafod, roedd yn braf cael cyfle i ddangos beth yr ydym wedi bod yn ei wneud yn Llywodraeth Cymru i helpu pobl i ddod o hyd i ddata agored a’u cyhoeddi.
Roedd y rheini a oedd yn bresennol yn cymeradwyo ein cynlluniau i drawsnewid Lle, ein platfform data geo-ofodol, yn Fap Data Cymru. Datblygwyd Lle mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru a dim ond data amgylcheddol oedd y platfform yn eu cyhoeddi i ddechrau. Mae data ar ystod o bynciau ar gael erbyn hyn. Fodd bynnag, fel y soniwyd yn un o’n blogiau blaenorol, bydd Map Data Cymru, sef fersiwn newydd a gwell, yn mynd gam ymhellach. Bydd yn darparu platfform data a rennir ar gyfer holl gyrff cyhoeddus Cymru er mwyn iddynt allu cyhoeddi eu data.
Hefyd, roedd diddordeb go iawn yn y prototeip yr ydym wedi bod yn ei ddatblygu ar gyfer catalog data agored. Bydd y sylwadau a’r ymholiadau a gafwyd yn ystod y sesiynau hyn yn bendant yn ein helpu ni â’n gwaith parhaus ar y prosiectau hyn.
Beth nesaf?
Fel yr ydym eisoes wedi’i ddweud, roedd yn wych gweld cynifer o bobl â diddordeb go iawn mewn data agored ac rydym yn awyddus i ddal i weithio gyda nhw. Rydym yn gobeithio adeiladu ar y syniadau/awgrymiadau a gafwyd yn y gweithdy er mwyn cydweithio i lunio canllawiau ar ddata agored ar gyfer y sector cyhoeddus, i helpu i oresgyn rhai o’r rhwystrau a nodwyd. Byddwn yn rhoi gwybod ichi sut y byddwn yn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn drwy ddiweddariadau rheolaidd, felly cofiwch fwrw golwg ar y rhain yn y flwyddyn newydd.
Yn ystod y diwrnod, fe wnaeth nifer o bobl holi ynghylch digwyddiadau data agored tebyg mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. Rydym eisoes wedi cysylltu â’n cyd-weithwyr yn Data Cymru ac rydym yn gobeithio trefnu ychydig o ddigwyddiadau dilynol. Pan fydd modd, byddwn yn cynnwys ychydig o waith a wneir gan gyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau, anfonwch e-bost i blogdigidoladata@llyw.cymru