Ar 20 Medi, cyhoeddais ail adroddiad Llesiant Cymru 2017-18. Credaf fod yr adroddiad yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar fywyd yng Nghymru, gan roi darlun eang o ganlyniadau llesiant megis disgwyliad oes, yr economi, tlodi, bioamrywiaeth a’r celfyddydau. Dyma wybodaeth a ddylai fod yn werthfawr tu hwnt i bobl sy’n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus ac eraill i’w helpu i ddeall ein cenedl a gwneud gwell penderfyniadau.
Os ydych chi’n athro neu’n ddysgwr yng Nghymru, mae’n debyg eich bod yn gyfarwydd â Hwb. Ond os nad ydych chi, Hwb yw’r llwyfan ar-lein sy’n darparu mynediad at amrywiaeth eang o offer ac adnoddau ar-lein dwyieithog i gefnogi addysgu a dysgu. Mae Hwb hefyd yn un o raglenni trawsnewid digidol mwyaf Llywodraeth Cymru a dros yr ychydig fisoedd diwethaf mae camau wedi’u cymryd i drefnu bod yr holl waith sy’n gysylltiedig â rhedeg y gwasanaeth yn cael ei wneud yn fewnol.
Awdurdod Cyllid Cymru (yr Awdurdod) yw awdurdod trethi newydd Cymru ac mae’n gyfrifol am weinyddu dwy dreth ddatganoledig newydd yng Nghymru. Sefydlwyd yr Awdurdod yn ffurfiol gan Lywodraeth Cymru ar 18 Hydref 2017. Flwyddyn yn ddiweddarach, mae Rheolwr Gwasanaethau Digidol yr Awdurdod, Sean Melody, yn egluro’r dull gweithredu a ddefnyddiwyd a’r heriau a wynebwyd wrth sefydlu’r Awdurdod, a hynny o safbwynt digidol.