Awdurdod Cyllid Cymru (yr Awdurdod) yw awdurdod trethi newydd Cymru ac mae’n gyfrifol am weinyddu dwy dreth ddatganoledig newydd yng Nghymru. Sefydlwyd yr Awdurdod yn ffurfiol gan Lywodraeth Cymru ar 18 Hydref 2017. Flwyddyn yn ddiweddarach, mae Rheolwr Gwasanaethau Digidol yr Awdurdod, Sean Melody, yn egluro’r dull gweithredu a ddefnyddiwyd a’r heriau a wynebwyd wrth sefydlu’r Awdurdod, a hynny o safbwynt digidol.
Rydw i’n gweithio fel rhan o’r tîm gwasanaethau digidol a dechreuais yn fy swydd ym mis Medi 2017 er mwyn helpu i gefnogi rhaglen weithredu’r Awdurdod, dan arweiniad Llywodraeth Cymru. Sefydlwyd yr Awdurdod yn gyfreithiol ar 18 Hydref y llynedd a dim ond 25 aelod o staff oedd ganddo bryd hynny. Rydyn ni nawr yn nodi ein carreg filltir gyntaf ers i ni ffurfio ac mae gennym dros 60 aelod o staff yn gweithio ar draws tua 16 proffesiwn gwahanol. Rydyn ni wedi dod yn bell ac rydw i’n falch fy mod i’n gweithio i’r sefydliad gwasanaeth sifil cyntaf yng Nghymru i fod yn seiliedig ar system cwmwl! Yn syml, mae hynny’n golygu bod ein holl systemau treth digidol, gan gynnwys y galwadau mae staff ein desg gymorth yn delio â nhw, yn cael eu lletya drwy’r cwmwl.
Yr her ddigidol…
I weinyddu’r trethi cyntaf o 1 Ebrill 2018 ymlaen, roedd yn rhaid i ni ddarparu system dreth ar-lein newydd a phwrpasol, a fyddai’n galluogi gweithwyr cyfreithiol proffesiynol i ffeilio a chyflwyno ffurflenni treth ar-lein. Hefyd, roedd yn rhaid i ni wneud yn siŵr bod y dechnoleg gorfforaethol yn addas i’r diben ar gyfer holl staff yr Awdurdod. Roedd yn rhaid i ni gwblhau’r ddwy dasg fawr hyn erbyn 1 Ebrill 2018, sef ein dyddiad ‘mynd yn fyw’. Doedd dim modd newid y dyddiad hwn ac roedd wedi’i gorffori mewn cyfraith.
Dull gweithredu hyblyg…
Roedden ni wedi gwneud yn siŵr ein bod ni’n defnyddio ffyrdd ystwyth o weithio o’r dechrau un. Roedd hynny’n ein galluogi ni i weithredu mewn ffordd ailadroddol, gan addasu i anghenion gweithwyr cyfreithiol proffesiynol wrth i’r anghenion hynny ddatblygu. Fe wnaethom ddechrau gweithio ar y systemau ar-lein a’r dechnoleg gorfforaethol drwy gynnal ymarferion ymchwilio llawn gyda’r ddau grŵp gwahanol, gan gynnwys gweithwyr cyfreithiol proffesiynol a’n staff. O ran y system dreth ar-lein, roedd yn rhaid cynnal gweithdai gyda gweithwyr cyfreithiol proffesiynol er mwyn deall anghenion y defnyddwyr. Rhoddodd yr adborth o’r gweithdai syniad clir i ni o’r hyn a oedd yn ofynnol er mwyn symud i’r cam datblygu nesaf. O ran y dechnoleg gorfforaethol, fe wnaethom ddechrau cyflwyno dyfeisiau newydd i staff yr Awdurdod ym mis Hydref 2017. Fe wnaethom ddechrau gyda nifer fach o ddefnyddwyr, gan ddefnyddio adborth gan staff i addasu ein cynnig.
Cyntaf ar y cwmwl…
Un o brif fanteision yr Awdurdod yw’r ffaith ein bod ni’n sefydliad sy’n gweithio ar y cwmwl. Mae hyn yn golygu mai cysylltiad rhyngrwyd yw’r unig beth sydd ei angen ar ein staff, gan gynnwys tîm ein desg gymorth. Gall tîm y ddesg gymorth weithio mewn unrhyw leoliad sydd â chyswllt rhyngrwyd da, gan ddal i reoli ein canolfan gyswllt fach. Cafodd ein technoleg a’n trefn eu rhoi ar brawf ym mis Mawrth pan gawsom eira yn y rhan fwyaf o Gymru, 3 wythnos cyn i ni ‘fynd yn fyw’. Roedd ein staff yn gallu gweithio’n ddiogel o gartref, os oedden nhw eisiau, gan ddal i helpu defnyddwyr y gwasanaeth.
Llwyddo drwy gydweithio…
Gyda chymorth timau TGCh a digidol Llywodraeth Cymru, yn ogystal â chyflenwyr digidol, fe wnaethom lwyddo i sicrhau bod y system dreth ar-lein a’r dechnoleg gorfforaethol ofynnol ar gyfer staff yr Awdurdod yn fyw erbyn 1 Ebrill. Mae gweithio gyda phobl eraill wedi bod yn hanfodol er mwyn cyrraedd ble rydyn ni arni heddiw. Er enghraifft, gan ein bod ni’n delio â gwybodaeth sensitif am drethdalwyr, roedd hi’n bwysig bod arbenigwyr o Lywodraeth Cymru, Cyllid a Thollau EM, y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a’n cyflenwyr trydydd parti yn cyfrannu at y gwaith o brofi diogelwch ac at ein dull gweithredu.
Y canlyniadau…
Rydyn ni wedi wynebu rhywfaint o heriau ar hyd y ffordd. Ar brydiau, roeddwn i’n teimlo ei bod yn anodd gwybod ble i ddechrau rhai dyddiau gan fod ambell dasg yn ymddangos yn amhosib. Fodd bynnag, erbyn diwedd y tri mis cyntaf, roedd 97% o’r trafodiadau sy’n ymwneud â’r Dreth Trafodiadau Tir yn cael eu gwneud ar-lein. Mae dros 4,000 o ddefnyddwyr wedi cofrestru erbyn hyn ac yn ystod y chwarter cyntaf cawsom gyfanswm o 15,000 o ffurflenni treth. I gael rhagor o wybodaeth a’r newyddion diweddaraf, darllenwch yr ystadegau swyddogol sydd wedi’u cyhoeddi ar ein gwefan.
Cysylltu â ni…
Fel Rheolwr Gwasanaethau Digidol yr Awdurdod, rydw i nawr yn gyfrifol am sicrhau bod y gwasanaethau digidol yn gwbl weithredol a’u bod yn diwallu anghenion dydd i ddydd y defnyddwyr. Fel tîm, rydyn ni’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ac rydyn ni’n awyddus i ddatblygu ein sgiliau yn y proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg. Os oes gennych chi ddiddordeb brwd ym maes technoleg y Llywodraeth a’ch bod yn awyddus i weithio yn ne Cymru, cadwch lygad am swyddi gwag ar ein gwefan.