Dechrau o’r newydd fel rhan o’r Llwybr Carlam Digidol, Data a Thechnoleg

Delwedd avatar o Helen

Read this page in English

‘Chi yw’r union fath o arweinydd y bydd ei angen ar y Llywodraeth yn y dyfodol, dylech ymuno â’r Llwybr Carlam’ – dyna’r sylw cwbl annisgwyl a’m sbardunodd i wneud cais i ymuno â Llwybr Carlam y Gwasanaeth Sifil.

Neidiwch 18 mis i’r dyfodol, ac rwy newydd orffen fy swydd gyntaf ym maes Digidol, Data a Thechnoleg y Llwybr Carlam yn Llywodraeth Cymru. Helen Morris yw f’enw, ac fe wna i ddechreudrwy roi crynodeb byr o stori fy mywyd hyd yma – y darnau ‘proffesiynol’ beth bynnag.

Wedi graddio yn y Gyfraith a’r Gymraeg (bron i ddeg mlynedd yn ôl), bues i’n byw yn Brasil am flwyddyn cyn dod adre’ i weithio yn y trydydd sector. Ar ôl hynny, bues i’n gweithio yn y Ganolfan Byd Gwaith fel hyfforddwr gwaith yn helpu pobl i ddod o hyd i swydd, tra’r oeddwn yn astudio ar yr un pryd ar gyfer Gradd Feistr mewn Troseddeg. Roeddwn i’n gwybod fy mod am gamu ymlaen yn fy ngyrfa, a chan fod y broses fewnol ar gyfer gwneud hynny yn yr Adran Gwaith a Phensiynau mor gystadleuol, roedd yn ymddangos fod y Llwybr Carlam yn cynnig cyfle perffaith.

Fy amser yn Llywodraeth Cymru

Fe ddechreuais ar fy swydd chwe mis yn Swyddfa Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru, ym mis Medi 2017. Mae’r tîm ei hun yn amrywiol iawn ac mae’n gweithio i sicrhau bod y trawsnewid digidol yn digwydd mor gyflym â phosibl ar draws holl feysydd Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn darparu gwasanaeth ymgynghori digidol i’r sefydliad cyfan.

Roeddwn i’n gwybod eisoes y byddai’r Llwybr Cyflym yn fy ngwthio i gamu ymlaen, ond doeddwn i ddim wedi disgwyl i hynny ddigwydd ar gymaint o frys mor gyflym. Rhai dyddiau ar ôl cyrraedd, dyma fi’n cael fy hunan yn darllen drwy dudalennau o wybodaeth o ddadl ddigidol yn Nhŷ’r Arglwyddi i baratoi brîff i’r Ysgrifennydd Parhaol. Fe sylweddolais yn fuan bod ras wyllt y Llwybr Carlam wedi cychwyn, ac rwy’n golygu hynny’n llythrennol. Yn y dyddiau cyntaf hynny, roeddwn i’n teimlo bod angen imi redeg yn ddi-baid er mwyn cadw i fyny. Fodd bynnag, does dim angen dweud i bethau arafu rhyw ychydig yn fuan iawn.

Mae rhai pobl yn meddwl bod yn rhaid fy mod i’n rhyw fath o arbenigwr mewn technoleg neu yn y maes digidol i fod wedi ymuno â’r Llwybr Carlam Digidol, Data a Thechnoleg. Yr ateb yn fyr yw – Nac ydw, dydw i ddim. Mae’n wir fy mod i wedi gwneud rhywfaint o waith digidol o’r blaen wrth helpu pobl i fynd yn ôl i’r gwaith, ond yn bennaf roedd hynny’n ymwneud â dangos i gwsmeriaid sut i chwilio am swyddi ar-lein neu greu cyfrif e-bost, neu egluro wrth gydweithiwr nad oedd ei Wi-Fi’n gweithio oherwydd ei fod wedi ei droi i ffwrdd.

Yn ystod fy amser gyda Llywodraeth Cymru, bues i’n canolbwyntio’n bennaf ar ymgysylltu digidol. Rhoddodd hyn gyfle imi siarad â phobl o bob rhan o’r sefydliad ynghylch y gwahanol becynnau ymgysylltu roedden nhw’n eu defnyddio. Ar ôl ystyried eu hadborth, lluniais adroddiad yn argymell sut i wella’n dulliau ymgysylltu o fewn Llywodraeth Cymru. Hefyd es ati i adolygu ein hadnodd ymgysylltu, sydd fel llyfrgell yn cynnwys yr holl becynnau y gall staff eu defnyddio i ymgysylltu ag eraill. Fe ges i gyfle hyd yn oed i roi cyflwyniad ar ymgysylltu digidol mewn digwyddiad i gynrychiolwyr o’r trydydd sector.

Er bod hyn wedi cymryd y rhan fwyaf o’m hamser, fe lwyddais hefyd i gefnogi aelodau fy nhîm mewn meysydd gwaith eraill, fel helpu i ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth ddigidol i garfan newydd o brentisiaid yn y maes digidol yn Llywodraeth Cymru.

Beth nesaf?

Mae fy swydd gyntaf wedi bod yn un ras wyllt – dyna natur y Llwybr Carlam yn llythrennol. Rwyf wedi cael fy herio’n broffesiynol yn fwy nag erioed o’r blaen yn fy mywyd, ond rwy’n gallu dweud yn bendant imi fwynhau’n fawr ac mai dyma’r cam gorau imi erioed ei gymryd yn fy ngyrfa. Roeddwn yn ffodus o gael tîm gwych o’m cwmpas a oedd bob amser mor barod i ateb y llu o gwestiynau yr oeddwn yn eu gofyn.

Mae fy swyddi blaenorol eraill i gyd wedi golygu ymwneud wyneb yn wyneb â chwsmeriaid, gyda chyfle felly i weld yn uniongyrchol beth oedd effaith fy ngwaith ar fywyd unigolyn arall. Bellach rwyf wedi symud i ffwrdd o weithio yn y modd hwnnw, ond dyw hynny ddim yn golygu nad yw’r hyn rwyf wedi ei gyflawni wedi gwneud gwahaniaeth i rywun arall yn y pen draw, a’i fod wedi ei helpu i wneud gwahaniaeth er budd eraill.

Nesaf rwy ar fy ffordd i’r Swyddfa Gartref yn Llundain, ond lle bynnag y mae’r Llwybr Carlam yn mynd â mi nesaf, byddaf i’n siŵr o ddefnyddio’r sgiliau rwyf wedi eu datblygu yn Llywodraeth Cymru i’m helpu i wneud fy ngorau i wella sut mae llywodraeth yn gweithio’n ddigidol.

Wedi ei bostio gan Helen Morris, Swyddfa’r Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru.