Oes modd inni ei gysylltu?……..oes gobeithio

Read this page in English

Rydym yn fwy ymwybodol nag erioed o werth cyhoeddus data a’r ffordd y gallwn ni wneud y gorau ohono yw trwy ei gysylltu a’i rannu. Er enghraifft os bydd awdurdodau lleol yn cysylltu data ar draws gwahanol wasanaethau gall eu helpu i ddeall y rhyngweithio rhwng gwasanaethau ac efallai deall mwy am sut y gellir defnyddio atal i gefnogi canlyniadau gwell i bobl. Yn y mwyafrif o achosion o gysylltu data, megis hwn, mae’r data’n ddienw felly mae unrhyw wybodaeth adnabyddadwy yn cael ei dileu o’r data. Mae ymchwil wedi dangos fod pobl yn fodlon yn gyffredinol i ddata a ddelir gan gyrff cyhoeddus gael ei cysylltu at ddibenion ymchwil, yn enwedig os yw’n ddienw.

Wedi dweud hynny, wrth ymdrin ag unrhyw fath o ddata, yn enwedig data personol, mae’n orfodol cysylltu a rhannu data yn ddiogel, yn foesegol ac yn unol â’r ddeddfwriaeth bresennol ar ddiogelu data. Un rhwystr sydd gan rai cyrff yw’r diffyg seilwaith sy’n eu galluogi i gysylltu data, ei rannu, a’i wneud yn ddienw. Trwy lwc yng Nghymru mae gennym ystod o arbenigedd yn y maes penodol hwn gyda Banc Data SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw), a leolir ym Mhrifysgol Abertawe a Chanolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (ADRC-W) sy’n cael ei rhedeg ar y cyd gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd.

Felly sut gallwn ni ddefnyddio’r arbenigedd hwn a’u technoleg hwythau i chwalu’r ffiniau i rannu data’n ddiogel? Gallwn wneud hynny trwy’r ‘Prosiect Datblygu Llif Data’! Dyw’r teitl ddim yn gyffrous, ond gallai’r manteision posibl gael effaith go iawn ar sut rydym yn darparu ein gwasanaethau i bobl Cymru.

Beth yw’r Prosiect Datblygu Llif Data?

Ac yntau’n cael ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), mae’r prosiect yn anelu at ymchwilio i’r posibilrwydd o osod y dechnoleg y tu ôl i SAIL ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, gan eu galluogi i gysylltu data, ei rannu a’i wneud yn ddienw. Beth mae hyn yn ei olygu i chi? Wel, rydym wedi torri’r prosiect i lawr i’r tasgau canlynol:

  • Ymchwilio i’r seilwaith TGCh presennol ym mhob un o’r awdurdodau lleol yng Nghymru i ganfod y ffordd orau o osod technoleg SAIL.
  • Arbrofi gosod technoleg SAIL, ar ffurf Offer Data Ymchwil Genedlaethol (NRDAs), mewn nifer bach o awdurdodau lleol.
  • Arbrofi rhannu a chysylltu setiau data a’u gwneud yn ddienw gan ddefnyddio’r NRDAs.
  • Cynhyrchu dadansoddiad ar sail setiau data sydd newydd eu cysylltu er mwyn i awdurdodau peilot ddeall y manteision yn well.

Beth yw’r manteision?

Bydd elfen beilot y prosiect yn caniatáu i’r awdurdodau lleol gysylltu eu setiau data yn hawdd, a lle bo cytundebau priodol ar gyfer rhannu data yn eu lle, rannu setiau data dienw ag awdurdodau lleol peilot eraill. Wrth wneud hynny, gall yr awdurdodau lleol fod yn hyderus bod hyn yn cael ei wneud yn ddiogel.

Bydd y peilot hefyd yn dangos i’r awdurdodau lleol sut y gallant ddefnyddio cysylltu data i’w helpu i ddatblygu a gwerthuso eu polisïau trwy ddadansoddi setiau data cysylltiedig. Er enghraifft bydd ymchwilwyr prosiectau’n dadansoddi data a ddelir eisoes yn SAIL yn gysylltiedig â data sydd gan awdurdodau peilot mewn perthynas â rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar, sef Dechrau’n Deg. Byddant wedyn yn rhannu’r dadansoddiad â’r awdurdodau lleol peilot unigol i’w helpu i ddeall effeithiolrwydd yr ymyriadau.

Mantais bosibl arall yw y bydd yr awdurdodau lleol yn gallu trosglwyddo eu setiau data dienw i Fanc Data SAIL yn rhwydd os ydynt yn penderfynu gwneud hynny. Os byddant yn dewis gwneud hyn, bydd hyn yn cynyddu’r ystod o setiau data a ddelir yn SAIL a allai bod ar gael i’r gymuned ymchwil ehangach at ddibenion ystadegol ac ymchwil. Bydd hyn yn ei dro’n galluogi ymchwilwyr i ddadansoddi sut y mae pethau’n newid dros amser a monitro effaith ymyriadau.

Ddim problem hyd yn hyn

Gyda chymaint o fanteision ar gael i’r awdurdodau lleol yn arbennig rydym yn edrych ymlaen at weld sut mae’r prosiect hwn yn mynd rhagddo. Mae’n ddyddiau cynnar ar y prosiect, sy’n cael ei arwain gan ein cydweithwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Buont yn gweithio’n galed yn siarad â’r awdurdodau lleol i weld beth sydd ganddynt o ran eu seilwaith TGCh. Buont hefyd yn cydweithio’n agos â’r awdurdodau peilot i sicrhau bod yr holl gytundebau perthnasol yn eu lle cyn i’r gosodiadau allu digwydd. Fel y gallwch ddychmygu, ddim tasgau bach yw’r rhain, er ein bod yn gwneud cynnydd ac mae’r NRDAs eisoes yn ei le yn awdurdod lleol Abertawe.

Fel yn achos pob prosiect newydd rydym yn awyddus i ganfod a yw hyn yn cynnig y manteision a amlinellwyd. Er hynny, gan mai megis cychwyn yr ydym, bydd rhaid inni aros am sbel fach eto. Rydym yn awyddus i rannu’r cynnydd sy’n cael ei wneud ac rydym yn bwriadu cynnig diweddariad trwy’r blog yn y dyfodol, felly cadwch olwg yma am fanylion pellach.