Agor ein data gweithlu sector cyhoeddus

Read this page in English

Mae mwy na 300,000 o bobl yng Nghymru yn gweithio i’r sector cyhoeddus, sef tua 22.3% o’r swyddi yng Nghymru. Er hyn, nid ydyn ni’n gwybod llawer am nodweddion y bobl sy’n perthyn i weithlu’r sector cyhoeddus na’r ffordd y mae’n newid.Dyma rywbeth sydd wedi’i nodi gan Gyngor Partneriaeth y Gweithlu 1 fel rhan o’r gwaith sy’n cael ei wneud i wella cynllunio’r gweithlu ar draws sector cyhoeddus Cymru. Y newyddion da yw bod yr wybodaeth hon eisoes ar gael gan gyrff cyhoeddus yn eu systemau rheoli gwybodaeth amrywiol, ac nid yw’n syndod bod yr wybodaeth hon yn amrywio o sefydliad i sefydliad. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi bod yn gweithio drwy is-grŵp y Cyngor gyda chyflogwyr eraill y sector cyhoeddus ac undebau llafur i gytuno ar y ffordd y gallwn wella pa mor hygyrch yw’r data hyn drwy annog cyrff cyhoeddus i’w cyhoeddi’n agored.

Bydd y gwaith hwn yn helpu:

  • cefnogi dulliau da i gynllunio gweithluoedd ar draws cyrff gwahanol yn y sector cyhoeddus, i sicrhau darparu gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy
  • darparu barn tryloyw i ddinasyddion o ran maint a strwythur y gweithlu a gyflogir gan wasanaethau cyhoeddus
  • darparu gwerth am arian wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus drwy leihau’r baich o ateb ceisiadau niferus am yr un wybodaeth

Yn ogystal, gyda chyrff cyhoeddus unigol yn cyhoeddi eu data eu hunain, mae hyn hefyd yn cydnabod eu cyfrifoldeb fel y cyflogwyr ac yn cael gwared ar yr angen i ddatblygu casgliad canolog newydd o ddata.

Fel grŵp, roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig inni osgoi gosod baich diangen ar gyrff cyhoeddus, felly penderfynwyd mai’r dewis gorau fyddai defnyddio dulliau sydd ar waith ar hyn o bryd. Man cychwyn naturiol oedd ailddefnyddio’r data a oedd eisoes ar gael, megis data meincnodi’r gweithlu a gasglwyd gan Data Cymru ac a gafodd eu rhannu ar draws llywodraeth leol. Mae’r data hyn yn darparu cipolwg ar weithlu awdurdodau lleol yn ôl rhywedd, oedran, cyflog, patrwm gweithio amser llawn/rhan-amser, y rheini sy’n gadael eu swyddi a diswyddiadau. Wrth weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Data Cymru ac awdurdodau lleol, fe wnaethom gytuno i gyhoeddi’r data hyn yn agored ac am y tro cyntaf, mae’r data hyn nawr ar gael drwy Infobase Cymru mewn ffurf agored.

Heddiw, rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi’r un data ar gyfer staff Llywodraeth Cymru ar StatsCymru mewn fformat agored, fel rhan o’n hymrwymiad ehangach i ddarparu data agored.

Ble nesaf?

Megis dechrau’r broses yn unig yw hyn. Mae’r cyhoeddiad cychwynnol yn seiliedig ar y datganiad data presennol a gesglir drwy Data Cymru. Yn y dyfodol, hoffem adeiladu ar hyn ac ehangu’r ystod o wybodaeth sydd ar gael. Rydyn ni eisoes yn gweithio gyda’r gwasanaeth iechyd ac awdurdodau lleol datganoledig eraill i ddatblygu dulliau tebyg ar gyfer eu sefydliadau, ac rydym yn gobeithio y gallwn ddangos cynnydd ar ystod a chwmpas y wybodaeth sydd ar gael erbyn diwedd y flwyddyn.

Blaenoriaeth benodol o ran cwmpas y data yw cyhoeddi data Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn agored ar draws y sector cyhoeddus, gan gynnwys data ar wahaniaethau cyflog rhwng y rhywiau. Hoffem hefyd wella’r mynediad at ddata ar sgiliau Cymraeg gweithwyr. Er bod enghreifftiau o’r data hyn yn cael eu casglu a’u cyhoeddi mewn adroddiadau cydraddoldeb statudol, neu mewn adroddiadau blynyddol ar Safonau’r Gymraeg, gallant fod yn anodd eu canfod ar adegau felly hoffem weithio gyda chyrff cyhoeddus i sicrhau bod y data hyn mor agored a hygyrch â phosib.

Fydd adolygiad o weithredu’r egwyddorion a chanllawiau i gefnogi cynllunio gweithlu ar y cyd (a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017) yn ein helpu i ddeall os dyma’r data cywir a sut y caiff ei ddefnyddio at y diben hwnnw.

Rydyn ni wedi ymrwymo i barhau i annog sector cyhoeddus Cymru i ddefnyddio’r dull hwn ar gyfer data agored wrth fynd i’r afael â materion eraill, a byddem yn croesawu barn ar feysydd blaenoriaeth eraill i gyfrannu at ganllawiau rydyn ni’n eu datblygu ar gyfer y dyfodol.


Nodiadau:

1. Mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu (CPG) yn strwythur teiran partneriaeth cymdeithasol yr Undebau Llafur/Cyflogwyr/Llywodraeth Cymru ar draws y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.  Mae partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru yn ffordd o weithio, set o ymddygiadau y mae’r holl bartneriaid wedi ymrwymo i gynnal wrth cefnogi ein gweithlu ymroddedig gwasanaeth cyhoeddus i gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus cryf, effeithiol. Mae’n rhan o’r ymagwedd partneriaeth gymdeithasol cyffredinol a fabwysiadwyd yng Nghymru.