Diweddariad y Prif Ystadegydd: Mudo a tai – sut mae’r GSS yn gweithio gyda’i gilydd i wella ystadegau

Read this blog in English

Fel ystadegwyr Llywodraeth Cymru, ein prif waith yw sicrhau ein bod yn cynhyrchu ystadegau sy’n ein helpu i ddeall pobl, cymdeithas ac economi Cymru. Fodd bynnag, rydym hefyd yn gweithio gyda Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ledled y DU i sicrhau ein bod yn cydweithio ac yn rhannu syniadau ar y ffordd orau o ymateb i’r cwestiynau polisi mawr. Drwy gydweithredu gallwn rannu data a dadansoddiadau sy’n rhoi mwy o fewnwelediad i ddefnyddwyr ar bynciau penodol. Gyda hynny mewn golwg yr oeddwn eisiau rhannu dau ddiweddariad o Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth yn yr wythnos diwethaf sydd yn amlygu sut yr ydym yn cydweithio.

Y cyntaf yw diweddariad ar waith sy’n cael ei arwain gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, gan weithio gyda’r Swyddfa Gartref (yr adran bolisi arweiniol), ni yn y gweinyddiaethau datganoledig ac adrannau eraill y Llywodraeth sydd â diddordeb mawr mewn gwella’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer mudo. Mae anghenion newidiol defnyddwyr ar gyfer data mudo, yn enwedig dros y ddwy flynedd ddiwethaf, wedi taflu goleuni ar gyfyngiadau ein hystadegau mudo yn y DU. Bwriedir i’r gwaith hwn ddefnyddio ffynonellau data gweinyddol o bob rhan o’r DU i sicrhau bod gennym well dealltwriaeth nid yn unig o dueddiadau mudo ond hefyd ar effaith mudo. Mae hwn yn ddarn o waith hynod bwysig ac, i Gymru, mae’n bosibl y bydd yn drawsnewidiol drwy gynhyrchu data mwy cadarn a manwl am fudo. Mae hyn yn cael ei wneud drwy’r rhaglen trawsnewid ystadegau ymfudo ar draws y Llywodraeth.

Mae’r ail yn flog gan y Dirprwy Ystadegydd Gwladol Iain Bell ar sut y byddwn yn gweithio ar draws y DU i ddatblygu fframwaith gliriach ar gyfer ystadegau tai a datblygu meysydd o ddiddordeb cyffredin. Rydyn ni‘n barod yn gweithio’n galed, ynghyd â rhanddeiliaid a defnyddwyr, i wella’n hystadegau tai yng Nghymru. Yn ddiweddar, gwnaethom gwblhau gwaith maes ar yr Arolwg Cyflwr Tai Cymru cyntaf mewn degawd ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu Adnodd dadansoddi Stoc Tai, gan ddod at ei gilydd setiau data gwahanol ar dai. Mae blog Iain yn cydnabod y gwaith hwn, ar y cyd â gwaith arall ledled y DU, ac yn egluro sut y byddwn yn gweithio gyda’n gilydd ar flaenoriaethau cyffredin, cydlyniad a hygyrchedd i ddata. Mae hyn hefyd yn ein helpu i ymateb i adroddiad diweddar y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ar werth cyhoeddus ystadegau ar dai. Nododd yr adroddiad nifer o feysydd arfer da yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer gwelliannau i’r dirwedd ystadegol tai a fyddai’n helpu i ni I gyd ymateb i gwestiynau esblygol cymdeithas am dai.

Dyma ddwy enghraifft o sut y gallwn ni, fel Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth, weithio gyda’n gilydd ar flaenoriaethau penodol i ddarparu ystadegau gwell ar draws y DU a byddwn yn parhau i’ch diweddaru wrth i’r gwaith fynd ymlaen.

Croesawn eich barn ar y pynciau a drafodwyd yn y diweddariad hwn – e-bostiwch desg.ystadegau@llyw.cymru neu cysylltwch â ni drwy Twitter, ‘YstadegauCymru’.

Glyn Jones
Prif Ystadegydd

30 Mai 2018