Dydyn ni ddim yn gwybod pwy ydych chi, ond os oes gennych set benodol iawn o sgiliau byddwn yn dod o hyd i chi…

Read this page in English

Efallai i chi sylwi’n ddiweddar ar ffrwd Twitter y Prif Swyddog Digidol (ac os na, dylech ein dilyn ar @cdocymru) ein bod wedi dechrau hysbysebu am arbenigwyr digidol, data a thechnoleg. Gan y bydd nifer o ymarferion recriwtio dros y misoedd nesaf, fe benderfynom ysgrifennu blog i roi rhagor o wybodaeth i chi am ein rhesymau dros recriwtio a’r hyn sydd gan Lywodraeth Cymru i’w gynnig.

Pam recriwtio?

Rydym yn cydnabod yn yr oes ddigidol sydd ohoni bod angen i Lywodraeth Cymru gael sgiliau digidol, data a thechnoleg arbenigol o fewn y sefydliad ac ar draws ein hadrannau i wella’r gwasanaethau a’r polisïau rydym yn eu datblygu i bobl Cymru.

Mae gennym nifer o bobl o fewn y proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg eisoes ond gydag amryw brosiectau newydd cyffrous ar y gorwel a galw cynyddol am wasanaethau digidol, rydym yn gwybod bod angen i ni ehangu ein Proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg (DDaT).

 

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud?

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru’n cynnal dros 100 o wefannau a 24 gwasanaeth digidol byw gan gynnwys:

Delwedd yn dangos logo rhai o 24 gwasanaeth digidol Llywodraeth Cymru

Hefyd mae gennym wasanaethau newydd i ddod fel gwasanaeth Awdurdod Cyllid Cymru i gasglu’r dreth gwarediadau tirlenwi a’r dreth trafodiadau tir ar-lein, cofrestru byw a gwasanaethau Arolygiaeth Gofal Cymru a chymorth digidol i ddarparu addysg gynnar a gofal plant am ddim i rieni sy’n gweithio sydd â phlant 3 a 4 oed.

 

Beth sydd gan Lywodraeth Cymru i’w gynnig i arbenigwyr digidol, data a thechnoleg?

Fel llywodraeth ddatganoledig, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfle i staff weithio ar brosiectau cyffrous mewn meysydd polisi fel iechyd, trafnidiaeth, addysg, twristiaeth ac ati (Cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru). Drwy weithio fel rhan o’r proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg gallwn wneud y polisïau a’r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig yn y meysydd hyn yn haws i bobl gyrraedd atynt, a gwneud y profiad o ddefnyddio gwasanaethau’r llywodraeth yn well i’w dinasyddion.

Mae’r meysydd gwaith yn amrywiol ac yn rhoi cyfle i adeiladu arbenigedd a gyrfa mewn meysydd gwaith diddorol tu hwnt â nifer o heriau technegol. Mae llawer o waith ar draws yr adrannau i rannu arfer da ymysg y proffesiwn ac ar draws Llywodraeth Cymru. Mae gwaith traws-lywodraethol yn digwydd hefyd gyda’r Alban, Gogledd Iwerddon a Llywodraeth y DU, eto i rannu arfer da. Mae’r gwaith hefyd yn cynnig y boddhad o adeiladu pethau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y ffordd y gall dinasyddion Cymru ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus.

 

Newid ein ffordd o recriwtio

Rydym wedi bod yn gweithio i wneud ein swyddi’n gydnaws â Fframwaith Digidol, Data a Thechnoleg Llywodraeth y DU (Proffesiwn DDaT nodwch fod y ddolen yma’n un Saesneg ar wefan gov.uk). Rydym am ddefnyddio’r un derminoleg ac iaith i ddisgrifio ein swyddi ni ag adrannau eraill o lywodraeth ar garreg ein drws, fel yr Adran Gwaith a Phensiynau, y DVLA, Tŷ’r Cwmnïau a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Bydd hyn yn dangos yn glir pa sgiliau rydym ni’n chwilio amdanynt a beth sy’n ddisgwyliedig o’r swyddi hynny.

Rydym hefyd wedi bod yn ceisio symleiddio’r broses ar gyfer ymgeisio am ein swyddi digidol. Rydym yn deall nad yw ffurflen gais y gwasanaeth sifil sy’n canolbwyntio ar gymwyseddau bob amser yn gyfarwydd i’r rhai sy’n chwilio am swydd yn y maes DDaT, lle mae CV yn llawer mwy cyffredin. Felly rydym wedi bod yn profi gwahanol ffyrdd i bobl ymgeisio, gan barhau i gynnal y safonau gofynnol fel rhan o’r gwasanaeth sifil.

Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw medru dangos llwybr gyrfa i’r gweithwyr proffesiynol yn y maes hwn, a thrwy fod yn gyson â’r fframwaith DDaT, gobeithiwn y bydd modd gweld yn glir beth yw’r camau gyrfa posib. Rydym hefyd wedi dechrau cynnig prentisiaethau, gan ddod â phobl i mewn i’w hyfforddi o fewn y proffesiwn. Llynedd croesawyd ein carfan gyntaf o brentisiaid digidol sy’n gweithio mewn gwahanol dimau ar draws Llywodraeth Cymru. Byddwn yn cynnwys cyfres o flogiau ganddynt dros y 12 mis nesaf, felly cadwch lygad amdanynt.

 

Pam ddylech chi ymuno â Phroffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg Llywodraeth Cymru?

Yn ein barn ni, mae Llywodraeth Cymru’n lle gwych i weithio, ac fe ddylech chi ystyried ymuno â ni – ond peidiwch â dibynnu ar ein gair ni! Y mis hwn byddwn yn lansio cyfres o flogiau gan weithwyr proffesiynol DDaT sy’n gweithio yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Cewch glywed am eu gwaith o ddydd i ddydd a’u profiadau o weithio i Lywodraeth Cymru yn gyffredinol. Cadwch lygad am y blogiau hyn a’n negeseuon trydar am hysbysebion swyddi newydd.

Gobeithio y byddwn yn eich croesawu i’r sefydliad yn fuan.