Mae amcangyfrifon o’r angen a’r galw am dai ychwanegol yn allweddol i gynllunio at y dyfodol ar lefel genedlaethol a rhanbarthol. Er bod ystadegwyr yn paratoi diweddariadau rheolaidd i amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd, mae cymhwyso’r rhain i’r angen am dai ychwanegol yn fater cymhleth a allai arwain at oblygiadau pwysig i gymunedau a chenedlaethau’r dyfodol.
Dros y misoedd diwethaf, mae wedi bod yn amlwg bod angen mawr ymysg defnyddwyr am amcangyfrifon cyfredol o’r angen a’r galw am dai ychwanegol:
- i lywio penderfyniadau parhaus am bolisïau tai (Mae’r angen am dai wedi cael ei nodi fel ffrwd waith flaenoriaeth gan y panel annibynnol ar gyfer yr Adolygiad o’r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy)
- i lywio’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, sef y cynllun gofodol cenedlaethol 20 mlynedd ar gyfer Cymru. Mae Opsiwn a Ffefrir y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn datgan y bydd ei bolisïau’n nodi amcanestyniad poblogaeth a thai cenedlaethol sy’n seiliedig ar bolisi, a fydd yn cynnwys amrediad o niferoedd tai ar lefel Cymru gyfan a lefel rhanbarthol
- i gefnogi asesiadau o lesiant lleol sy’n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried anghenion cenedlaethau’r dyfodol ym mhopeth y gwnânt.
Cafodd yr amcangyfrifon diweddaraf o’r angen am dai yn y dyfodol yng Nghymru eu cyhoeddi gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru ym mis Hydref 2015 ac roeddent yn seiliedig ar ein hamcanestyniadau o aelwydydd yn seiliedig ar ystadegau 2011. Fodd bynnag, ym mis Mawrth 2017 fe wnaethom gyhoeddi amcanestyniadau aelwydydd mwy diweddar yn seiliedig ar ystadegau 2014, ac felly mae’r amcangyfrifon cyfredol o’r angen am dai yn seiliedig ar hen amcanestyniadau aelwydydd sydd ddim yn adlewyrchu’r tueddiadau diweddaraf o ran poblogaeth ac aelwydydd. Mae’r amcanestyniadau cyfredol o aelwydydd yn rhagweld llai o aelwydydd yng Nghymru bob blwyddyn ar y cyfan, a thwf is mewn aelwydydd at ei gilydd, o gymharu ag amcanestyniadau blaenorol.
Mae deall yr angen am dai yn waith cymhleth ac eang. Dros y misoedd diwethaf, rydym ni wedi adolygu dulliau a ddefnyddiwyd mewn rhannau eraill o’r DU i baratoi amcangyfrifon o’r angen a’r galw am dai yn y dyfodol, ac rydym wedi dod i’r casgliad y byddai offeryn Excel ar gyfer yr Angen a’r Galw am Dai a ddatblygwyd gan Lywodraeth yr Alban yn bodloni ein gofynion.
Dros y misoedd nesaf, rydym yn bwriadu defnyddio’r offeryn hwn i gyfrifo amcan cyffredinol o’r angen am dai ychwanegol yn y dyfodol yng Nghymru. Bydd yr amcan yn seiliedig ar:
- amcangyfrifon o aelwydydd newydd sy’n ffurfio a fydd angen unedau tai ychwanegol (amcanestyniadau o aelwydydd)
- amcangyfrifon o’r angen am unedau tai ychwanegol sydd heb ei ddiwallu ar hyn o bryd.
Bydd yr amcan cyffredinol yn cael ei ddadansoddi yn ôl deiliadaeth:
- Perchen-feddiannydd
- Rhent Sector Preifat
- Rhent rhatach na chyfradd y farchnad
- Rhent cymdeithasol
gan ddefnyddio tybiaethau ynghylch incwm a phrisiau tai a rhent yn y dyfodol.
Er mwyn pwysleisio’r ansicrwydd sy’n gysylltiedig â’r ffigurau hyn, byddwn yn cyhoeddi ystod o senarios gwahanol.
Bydd yr amcangyfrif o’r angen am dai yn cael ei gyhoeddi fel ystadegau swyddogol a bydd yn cadw at y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Bydd yn ddata pwysig ar gyfer ystod o ddefnyddwyr ac felly rydym am sicrhau bod y bobl gywir ynghlwm wrth y gwaith. Bydd penderfyniadau methodolegol yn cael eu gwneud gan ddadansoddwyr Llywodraeth Cymru gyda chymorth grŵp o Randdeiliaid allanol sy’n cynnwys arbenigwyr o lywodraeth leol.
Rydym yn bwriadu cyhoeddi amcangyfrifon cyffredinol o’r angen am dai ar lefel Cymru a lefel ranbarthol erbyn mis Ionawr 2019. Bydd amcangyfrifon yn ôl deiliadaeth yn cael eu cyhoeddi yng Ngwanwyn 2019.
Byddem yn croesawu unrhyw sylwadau neu gwestiynau am y gwaith hwn. Os hoffech glywed am y datblygiadau diweddaraf, cysylltwch â ni.
Ebost: ystadegau.tai@llyw.cymru
Glyn Jones
Prif Ystadegydd
22 Tachwedd 2018