Ym mis Tachwedd fe groesawon ni ein carfan gyntaf o brentisiaid digidol. Mae’r pedwar mis cyntaf wedi hedfan a phenderfynon ni dal lan gyda’r prentisiaid i ffeindio allan bach fwy amdanynt ac i weld beth maent yn feddwl o’r profiad hyd hyn. Felly, wna’i basio draw at ein ‘Digi squad’ am fwy.
Bod yn Brentis Digidol
Rydym yn rhan o gynllun prentisiaid Llywodraeth Cymru, ond rydyn ni’n cael gweithio ar brosiectau digidol a phrosiectau data eithaf cŵl… yn ogystal â mynd i sesiynau hyfforddi digidol. Mae hynny’n golygu ein bod ni’n cael hyfforddiant digidol ychwanegol, mentora digidol, cyfle i wirfoddoli yn y gymuned i sicrhau cynhwysiant digidol, a llawer mwy.
Fel y garfan ddigidol o brentisiaid rydym yn cyfathrebu gyda phob adran mewn sawl ffordd wahanol. Mae hyn yn golygu ein bod yn cwrdd â gwahanol bobl o bob lefel ac yn gweld sawl ongl ar Lywodraeth Cymru a’i hymrwymiad i gyflawni ar gyfer y cyhoedd. Mae’n wych achos ry’n ni’n cael cyfathrebu a defnyddio ein gwybodaeth am faterion digidol i helpu pobl i ddeall sut i fanteisio i’r eithaf ar dechnoleg.
Pwy ydyn ni?
Ry’n ni’n griw reit amrywiol, ac yn dod o wahanol gefndiroedd, rhai wedi graddio, rhai gyda phrofiad o amgylchedd gwaith gwahanol a rhai yn syth o ysgol. Dyma fwy am ein cefndiroedd a pam gwnaethon ni ymuno â’r cynllun prentisiaid.
“Des i yma ar ôl astudio Niwrowyddoniaeth yn y Brifysgol – fe welais i’r hysbysebion am swyddi i brentisiaid ar facebook a meddwl ‘ro’i gynnig arni!’. Dyma fy swydd lawn amser gyntaf – dim ond mewn tafarndai ac fel achubwr bywydau ydw i wedi gweithio o’r blaen – ond dwi’n mwynhau, ac yn hoffi’r ffaith fy mod yn gallu cael amser i wneud pethau eraill, fel bod yn athro Taekwando! Ar hyn o bryd, dw i’n gweithio yn swyddfa’r Prif Swyddog Digidol yn ysgrifennu sgriptiau prawf, a fy mhrif brosiect ar y foment yw datblygu canllawiau i ddefnyddwyr gwefan.“
“Dw i’n dod o Ynysoedd y Philippines ac mae gen i radd Seicoleg. Mae gen i beth profiad o weithio mewn gwerthiant a marchnata yn y diwydiant adeiladu. Gwnes i gais am y brentisiaeth achos bod ffrind oedd wedi’i gwblhau wedi’i ganmol. Bellach dw i’n gwneud gwaith rheoli Cyfryngau Cymdeithasol, gwaith diweddaru’r wefan, a threfnu digwyddiadau sy’n cynnwys llawer o waith trefnu a chydlynu.“
“Cyn dod i Lywodraeth Cymru, roeddwn i’n gweithio mewn Parc Trampolinau. Ces i sawl rôl wahanol yn y busnes, ond fy mhrif gyfrifoldebau oedd Iechyd a Diogelwch, Cymorth Cyntaf a gweithio yn y caffi. Ces i drafferth ofnadwy dechrau gyrfa newydd, ond roedd y brentisiaeth i’w gweld fel y gymysgedd berffaith o hyfforddiant a gwaith cyflogedig. Ces i wybod am y rhaglen gan ffrindiau a theulu – roedden nhw’n dweud bod y cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd yn well – a phenderfynais wneud cais. Ar hyn o bryd, rwy’n rhedeg clinig ar gyfer staff i’w galluogi i weithio ar-lein pan nad yden nhw yn y swyddfa. Hefyd, dwi’n helpu i ddatblygu ffyrdd newydd o ddefnyddio fideo-gynadledda.“
“Roeddwn i’n gweithio mewn manwerthu a fferylliaeth, mewn rôl reoli. Roeddwn i wedi gweithio yno ers gadael y brifysgol, lle gwnes i Astudiaethau Ffilm a Sgrin. Roeddwn ni eisiau newid gyrfa ac angen her newydd. Roeddwn i’n gwybod ei fod yn sefydliad da i weithio iddo ac y byddai’r brentisiaeth yn gyfle gwych. Hefyd, roeddwn i’n awyddus i ddysgu sgiliau newydd a mynd yn ôl i mewn i addysg. Ond ar yr un pryd, roeddwn ni eisiau ac angen gweithio – felly roedd y brentisiaeth yn ddelfrydol. Dw i nawr yn gweithio yn Swyddfa’r Wasg – dwi’n helpu gydag ymholiadau newyddiadurwyr a chyda hysbysiadau i’r wasg, dw i hefyd yn casglu datganiadau a phethau felly ynghyd ar gyfer swyddogion y wasg, a hynny’n ddyddiol.“
Ry’ ni wedi dod yn bell mewn 4 mis….
Fel y gwelwch, rydyn ni yn rhan o sawl adran yn Llywodraeth Cymru, o swyddfa wasg y Prif Weinidog i gymorth TGCh a sawl lle arall – nid oes yr un ohonon ni’n gwneud yr union yr un gwaith! Fodd bynnag, daeth yn amlwg yn gyflym bod gennym rywbeth yn gyffredin- roedden ni oll yn edrych ymlaen at weithio i Lywodraeth Cymru, ac yn awyddus i wneud y mwyaf o’r cyfle gwych.
Mae’n rhyfedd meddwl ein bod wedi dechrau fel grŵp bach o wahanol bobl mewn ystafell ar y 1af o Dachwedd… roedden ni fel plant mewn disgo ysgol – bechgyn ar un ochr, merched ar y llall! Erbyn ein gweithdy cyntaf, roedden ni oll yn dod ymlaen ac yn clebran tipyn (roedd yn rhaid i rywun ddweud wrthym i fod yn dawel, twt twt)! Rydyn ni bellach yn aelodau gwerthfawr o’n timoedd ac o Lywodraeth Cymru. Ry ni’n cyfrannu i’r gwaith dyddiol o’n timoedd, cymryd rhan mewn prosiectau cŵl trwy’r ‘Digi squad’ ac yn cael cyfleoedd i fynychu cynhadledd digidol.
Beth fydden ni’n ei ddweud wrth unrhyw un sy’n meddwl gwneud hyn?
“Ewch amdani! Fe wnes i a dw i ddim yn difaru! Dw i’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd, dwi wedi dysgu pethau roeddwn ni eisiau eu dysgu ers blynyddoedd.
“Gwnewch yr hyfforddiant – talwch sylw i fanylder – yfwch lawer o goffi!”
“Mae’n ffordd wych o ymuno â sefydliad a dysgu sgiliau mewn rôl nad oeddech, efallai, yn disgwyl i chi fod ynddi.”
Rydyn ni’n awyddus i barhau â’n hyfforddiant ac yn edrych ymlaen at y cyfleoedd a’r heriau newydd byddwn yn wynebu fel rhan o’r cynllun prentisiaid. Os oes gennych ddiddordeb mewn clywed fwy am ein profiadau a’r prosiectau rydym yn gweithio ar, cadwch lygad ar y blog.
Digi Squad