Fel ystadegwyr Llywodraeth Cymru, ein prif waith yw sicrhau ein bod yn cynhyrchu ystadegau sy’n ein helpu i ddeall pobl, cymdeithas ac economi Cymru. Fodd bynnag, rydym hefyd yn gweithio gyda Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ledled y DU i sicrhau ein bod yn cydweithio ac yn rhannu syniadau ar y ffordd orau o ymateb i’r cwestiynau polisi mawr. Drwy gydweithredu gallwn rannu data a dadansoddiadau sy’n rhoi mwy o fewnwelediad i ddefnyddwyr ar bynciau penodol. Gyda hynny mewn golwg yr oeddwn eisiau rhannu dau ddiweddariad o Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth yn yr wythnos diwethaf sydd yn amlygu sut yr ydym yn cydweithio.
Dechrau o’r newydd fel rhan o’r Llwybr Carlam Digidol, Data a Thechnoleg
![]()
‘Chi yw’r union fath o arweinydd y bydd ei angen ar y Llywodraeth yn y dyfodol, dylech ymuno â’r Llwybr Carlam’ – dyna’r sylw cwbl annisgwyl a’m sbardunodd i wneud cais i ymuno â Llwybr Carlam y Gwasanaeth Sifil.
Beth yw ‘Prentis Digidol’?
Ym mis Tachwedd fe groesawon ni ein carfan gyntaf o brentisiaid digidol. Mae’r pedwar mis cyntaf wedi hedfan a phenderfynon ni dal lan gyda’r prentisiaid i ffeindio allan bach fwy amdanynt ac i weld beth maent yn feddwl o’r profiad hyd hyn. Felly, wna’i basio draw at ein ‘Digi squad’ am fwy.
Cwestiynau Cyflym i’n Datblygwr Newydd
Yn ddiweddar, cyhoeddwyd blog oedd yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn recriwtio i rolau Digidol, Data a Thechnoleg ac yn sôn am ein dymuniad i gynyddu ein sgiliau a’n gallu mewnol yn y meysydd hyn. Fel rhan o’r broses recriwtio ddiweddar hon, rydym wedi cyflogi Datblygwr newydd i’r Tîm Digidol Corfforaethol, ac rydym yn hynod gyffrous i’w groesawu i’r sefydliad. Felly, pa ffordd well o ddod i’w adnabod na gofyn iddo ateb cyfres o gwestiynau cyflym?
Dydyn ni ddim yn gwybod pwy ydych chi, ond os oes gennych set benodol iawn o sgiliau byddwn yn dod o hyd i chi…
Efallai i chi sylwi’n ddiweddar ar ffrwd Twitter y Prif Swyddog Digidol (ac os na, dylech ein dilyn ar @cdocymru) ein bod wedi dechrau hysbysebu am arbenigwyr digidol, data a thechnoleg. Gan y bydd nifer o ymarferion recriwtio dros y misoedd nesaf, fe benderfynom ysgrifennu blog i roi rhagor o wybodaeth i chi am ein rhesymau dros recriwtio a’r hyn sydd gan Lywodraeth Cymru i’w gynnig. Parhau i ddarllen
Pwerau newydd i gyrff cyhoeddus gael rhannu data – beth yw eich barn?
Mae data’n chwarae rôl bwysig yn y broses o wneud penderfyniadau effeithiol, yn enwedig yn y sector cyhoeddus. Yn aml bydd angen yr un data ar wahanol gyrff cyhoeddus, ac mae hynny’n golygu bod casgliadau data’n cael eu dyblygu, bod arian yn cael ei wario’n ddiangen, a bod baich gwaith ychwanegol yn cael ei roi ar y rheini sy’n darparu’n data. Hefyd yn aml, nodir y cymhlethdodau a’r pryderon sy’n gysylltiedig â rhannu data fel rhwystrau sylweddol i’r ymdrechion i wella gwasanaethau cyhoeddus a’r gwasanaethau a ddarperir ar gyfer ein pobl. Yr ateb syml yw trefnu i gyrff cyhoeddus gael rhannu eu data, ond yn y gorffennol bu rhwystrau sydd wedi atal hynny rhag digwydd. Parhau i ddarllen
Ble nesaf ar y daith data agored?
Nid yw’n teimlo’n hir ers inni gyhoeddi ein Cynllun Data Agored cyntaf un. Fodd bynnag, dyma ni bron â bod wedi cyrraedd diwedd 2017, ac yn meddwl ei bod yn bryd edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd ers hynny, i ba raddau rydym wedi llwyddo i gyflawni ein hymrwymiadau, ac i ble yr awn nesaf. Parhau i ddarllen
Blog Gwadd: Arolwg ar Chwaraeon Ysgol – Gwell ac Yn Ôl ar gyfer 2018
Bydd Arolwg ar Chwaraeon Ysgol Chwaraeon Cymru yn ôl yn 2018 ac mae’r paratoadau ar droed ar gyfer y lansiad ym mis Ebrill.
Mae’r Tîm sy’n arwain y prosiect, a ddenodd 116,000 o ieuenctid i rannu eu barn am weithgarwch corfforol yng Nghymru y tro diwethaf, wedi bod yn brysur yn ymgynghori â phartneriaid ar newidiadau a gwelliannau posib.
Dyma’r Uwch Swyddog Gwybodaeth, Lauren Carter-Davies, i sôn am yr Arolwg a’r gwelliannau arfaethedig iddo …
Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: Deall newidiadau i ddata addysg
Heddiw rydym wedi cyhoeddi canlyniadau terfynol Cyfnod Allweddol 4 2017 ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru. Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae’n werth rhoi’r perfformiad cenedlaethol yn ei gyd-destun, boed drwy gymharu Cymru â gwlad arall neu drwy edrych ar dueddiadau dros amser. Gwnaed nifer o newidiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf i’r ffordd y caiff mesurau perfformiad eu cyfrifo, ac yn y blog hwn rwyf am ddisgrifio effaith y newidiadau hyn ar ein gallu i gymharu. Parhau i ddarllen
Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: Mesur Llesiant Cymru a y Newyddion diweddaraf am Gyfrifiad 2021
Mesur Llesiant Cymru
Ar 25 Medi, cyhoeddais yr adroddiad blynyddol cyntaf ar Lesiant Cymru. Roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gofyn inni adrodd yn flynyddol ar hynt y gwaith o gyflawni’r nodau llesiant cenedlaethol, gan gyfeirio at y dangosyddion cenedlaethol.
Roedd yn rhoi darlun o gyflwr llesiant y genedl a’r tueddiadau diweddar. Mae’r prif negeseuon i’w gweld yn y Slideshare hwn ac mae’r adroddiad llawn.
