Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: Mesur Llesiant Cymru a chynlluniau adrodd y dyfodol

Read this blog in English

CapturecyAr 20 Medi, cyhoeddais ail adroddiad Llesiant Cymru 2017-18. Credaf fod yr adroddiad yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar fywyd yng Nghymru, gan roi darlun eang o ganlyniadau llesiant megis disgwyliad oes, yr economi, tlodi, bioamrywiaeth a’r celfyddydau. Dyma wybodaeth a ddylai fod yn werthfawr tu hwnt i bobl sy’n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus ac eraill i’w helpu i ddeall ein cenedl a gwneud gwell penderfyniadau.

 

Beth mae’r adroddiad hwn yn ei ddweud wrthym am Lesiant Cymru yn 2018?

Wrth grynhoi ein cynnydd tuag at y nodau llesiant, ceir darlun cymysg fel y gellid ei ddisgwyl mewn adroddiad mor eang. Yn yr adroddiad, rydym yn nodi bod canlyniadau’n gwella mewn nifer o feysydd, ond ceir anghydraddoldeb o hyd mewn meysydd eraill ar draws grwpiau poblogaeth. Mewn rhai meysydd, mae’r data diweddaraf yn awgrymu o bosib bod y cynnydd wedi pallu yn y tymor byr, ac mae meysydd eraill wedi aros yn weddol gyson dros y tymor hir. Gellir gweld y negeseuon allweddol yn y sleidiau a’r adroddiad llawn.

Gwyddom y gall nifer o ffactorau ddylanwadu ar lesiant unigolion, a bod cysylltiad posib rhyngddynt. Fel rhan o’n rhaglen waith, rydym wedi ceisio defnyddio dadansoddiad ystadegol o Arolwg Cenedlaethol Cymru i nodi’r ffactorau pwysicaf ar gyfer llesiant pobl, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y bennod ar gydlyniant cymunedol.

Hefyd, nid ydym wedi cyfyngu ein hunain yn yr adroddiad i edrych ar y 46 o ddangosyddion llesiant cenedlaethol yn unig gan fod nifer o ffactorau eraill yn medru dylanwadu ar yr canlyniadau llesiant hynny. Rydym felly wedi adrodd ar ddata perthnasol eraill, megis cerbydau allyriadau isel, ffyrdd o gymudo a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Rydym hefyd wedi cynnwys amrywiaeth eang o ddata cyd-destunol sy’n ymwneud yn uniongyrchol â Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig o safbwynt cyfraniad byd-eang Cymru. Er enghraifft, rydym wedi cynnwys data ar y nifer sy’n derbyn brechiadau, ceiswyr lloches, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) a myfyrwyr rhyngwladol.

Deall llesiant plant

Capture1cyGan nad yw Arolwg Cenedlaethol Cymru yn cynnwys plant yn y sampl, rydym wedi bod yn gweithio gyda’n cydweithwyr academaidd i gynnwys amrywiol ddata newydd ar lesiant plant o’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac Astudiaeth Carfan y Mileniwm. Rwy’n ddiolchgar iawn am gymorth ein cydweithwyr ar hyn. Rydym hefyd wedi casglu’r naratif perthnasol am blant i greu adroddiad ar wahân – ‘Beth ydym ni’n ei wybod am lesiant plant?’ a fydd, gobeithio, yn ddogfen gyfeirio ddefnyddiol i ddeall llesiant plant yng Nghymru. Gellir gweld y prif negeseuon ar gyfer plant yn y sleidiau a’r adroddiad. Nid ydym yn bwriadu gwneud hyn bob blwyddyn, ond byddwn yn ystyried ei wneud bob rhyw ychydig o flynyddoedd pe bai hynny o ddefnydd i chi.

Yr ail albwm anodd?

Ein nod ar gyfer adroddiad Llesiant Cymru o’r cychwyn cyntaf oedd darparu golwg hirdymor ar gynnydd mewn perthynas â’r nodau. Wrth gynhyrchu’r ail adroddiad, gwelwyd yn fuan na fyddai llawer o’r naratif hirdymor yn newid yn gyflym iawn, ac yn wir nid oes data newydd yn bodoli ar gyfer rhai ffynonellau. Roedd hynny’n golygu ein bod yn wynebu’r her o sicrhau bod yr adroddiad yn ffres, gan gydbwyso’r angen i adrodd ar gynnydd yn erbyn y ffaith bod rhai mathau o ddata yn gyfnewidiol tu hwnt ac yn llawer gwell eu dadansoddi dros dymor hirach. Ceisiwyd gwneud hynny drwy ychwanegu adran newydd ar ddechrau pob naratif, sef “Beth ydym ni wedi ei ddysgu o’r data yn ystod y flwyddyn ddiwethaf?” ac fe fyddem yn gwerthfawrogi adborth ar hyn.

Dull gweithredu newydd ar gyfer y flwyddyn nesaf

Gan gofio’r gwersi a ddysgwyd eleni, rydym yn cynnig canolbwyntio yn 2019 ar gynhyrchu diweddariad byrrach ar y cynnydd yn erbyn y nodau, a’r hyn y mae’r data diweddaraf yn dweud wrthym am lesiant Cymru, yn hytrach na chynhyrchu adroddiad llesiant blynyddol cynhwysfawr arall.

Mae gofyn am gryn dipyn o waith i gynhyrchu adroddiad llesiant blynyddol llawn, ac rwy’n cynnig y dylem gyhoeddi diweddariad llawn a chynhwysfawr bob 4-5 mlynedd yn unol â’r amserlen orau i ddiwallu anghenion defnyddwyr a gofynion eraill Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Yn sgil y newid hwn byddwn yn gwneud y canlynol:

  • ym mis Medi 2019, cyhoeddi naratif clir ar y newid a’r cynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf
  • cyhoeddi data drwy gydol y flwyddyn ar y 46 dangosydd llesiant cenedlaethol wrth iddynt gael eu diweddaru
  • blaenoriaethu ein hadnoddau ar ddehongli’r data, y ffactorau sy’n effeithio ar lesiant a dadansoddi cynnydd
  • cynhyrchu adroddiadau ar bynciau penodol yn achlysurol i ategu adroddiad Llesiant Cymru, fel y gwnaed ar gyfer plant eleni (fe fyddem yn croesawu’ch sylwadau ynghylch blaenoriaethau).

Ar ben hynny, yn 2019 byddwn yn cyhoeddi diweddariad o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, sydd eto’n gryn dipyn o waith trawsbynciol i’n hystadegwyr, felly bydd ymdrin â Llesiant Cymru mewn ffordd wahanol yn sicrhau bod modd i ni flaenoriaethu’n hadnoddau ar draws y ddau brosiect.

Ym mis Gorffenaf, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid diweddariad ar gynlluniau i bennu cerrig filltir cenedlaethol. Adroddir yn erbyn y cerrig milltir hyn hefyd mewn adroddiadau Llesiant Cymru y dyfodol.

Mae’ch adborth yn bwysig i ni

Cysylltwch â mi os hoffech roi unrhyw adborth am y cynlluniau hyn (desg.ystadegau@llyw.cymru). Mae’n anhygoel o bwysig sicrhau bod ein gwaith ystadegol o werth i’r cyhoedd, felly hoffem ddeall sut yr ydych yn defnyddio adroddiad Llesiant Cymru wrth lunio cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Mae Awdurdod Ystadegau’r DU ar hyn o bryd yn asesu i ba raddau y mae Llesiant Cymru yn cyrraedd y safonau proffesiynol a ddisgrifiwyd yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau statudol. Fel rhan o hyn maent yn ceisio barn defnyddwyr neu ddefnyddwyr posib. Gallwch ddarganfod mwy am yr asesiad, eu harferion cysylltu defnyddiwr a sut i roi eich barn ar eu gwefan.

Glyn Jones
Y Prif Ystadegydd

27 Tachwedd 2018