Yn ddiweddar, cyhoeddwyd blog oedd yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn recriwtio i rolau Digidol, Data a Thechnoleg ac yn sôn am ein dymuniad i gynyddu ein sgiliau a’n gallu mewnol yn y meysydd hyn. Fel rhan o’r broses recriwtio ddiweddar hon, rydym wedi cyflogi Datblygwr newydd i’r Tîm Digidol Corfforaethol, ac rydym yn hynod gyffrous i’w groesawu i’r sefydliad. Felly, pa ffordd well o ddod i’w adnabod na gofyn iddo ateb cyfres o gwestiynau cyflym?
Enw: Adam
Rôl: Datblygwr
Beth oeddech chi’n ei wneud cyn ymuno â Llywodraeth Cymru?
Roeddwn i’n ddatblygwr pen blaen i gwmni technoleg teithio yng Nghaerdydd. Roeddwn i’n datblygu pen blaen gwefan gwyliau e-fasnach y cwmni ac yn fwyaf diweddar, roeddwn wedi bod yn gweithio ar wefan sgïo.
Pam y gwnaethoch chi ymuno â Llywodraeth Cymru?
Roeddwn am gael newid ac am ddatblygu fy sgiliau – mae codio â thechnolegau ac ieithoedd gwahanol wastad yn beth da i’r CV! Doeddwn i ddim yn gwybod gymaint am Lywodraeth Cymru fel sefydliad cyn imi ddod yma, ac mae’r gwaith yn llawer mwy amrywiol nag yr oeddwn i wedi meddwl. Roeddwn wedi disgwyl gweithio ar wefan llyw.cymru y Llywodraeth, ond dwi wedi gweithio ar wefannau eraill y Llywodraeth hefyd.
Beth ydych chi wedi bod yn gweithio arno hyd yn hyn?
Dwi wedi bod yn trwsio bygiau ar wefan Beta llyw.cymru a datblygu gwefan newydd ar gyfer Arolygiaeth Gofal Cymru (a alwyd gynt yn AGGCC).
Beth yw’r peth mwyaf diddorol rydych chi wedi gweithio arno?
Datblygu gwefan llyw.cymru a’i gwneud yn fwy hygyrch i bobl. Doeddwn i ddim wedi gwneud llawer o waith ar hygyrchedd yn fy swydd flaenorol, felly mae wedi bod yn ddiddorol bod yn rhan o’r gwaith hwnnw a meddwl sut y mae pobl sydd â nam ar y golwg neu sy’n defnyddio rhaglen darllen sgrin yn cyrchu ein gwefan.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd am weithio yn y maes hwn?
Mae’n rhaid i chi fod yn barod i ddysgu a chymryd cyfrifoldeb dros eich dysgu a’ch datblygiad eich hun. Gall hynny gynnwys darllen tiwtorialau neu ddilyn arweinwyr y diwydiant ar Twitter er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.
Beth yw’r cyngor gyrfa gorau rydych chi wedi’i gael?
Byddwch yn barod i ddysgu bob amser a pheidiwch â rhoi’r gorau i wneud hynny, yn enwedig gan fod y diwydiant hwn yn datblygu o hyd. Mae felly angen i chi gadw i fyny ag unrhyw newidiadau neu welliannau.
Pe na fyddech chi’n ddatblygwr, beth fyddech chi?
Parcmon heb dechnoleg ac yn gwbl hunangynaliadwy – yn gwbl groes i fy mywyd ar hyn o bryd!
Rydych chi’n cael eich ychwanegu at y bocs o greonau – pa liw fyddech chi a pham?
Byddwn i’n dewis glas Adar Gleision Dinas Caerdydd.
Pa dri pheth fyddech chi’n mynd gyda chi i ynys bellennig?
Bear Grills, er mwyn gallu goroesi. Rafft fywyd a chasgen o gwrw!
Beth sydd ar eich rhestr cyn cicio’r bwced?
Does gen i ddim un a dweud y gwir, ond hoffwn i redeg marathon ryw ddydd……. a gweld Cymru yn chwarae pêl-droed yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd!
Felly, dyna gyflwyniad bras i’n Datblygwr newydd. Bydd blogiau gan aelodau eraill o’n staff yn Llywodraeth Cymru yn cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf i roi blas i chi o weithio i Lywodraeth Cymru ac amrywiaeth y gwaith y mae’r rheini yn y proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg yn ei wneud.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â phroffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg Llywodraeth Cymru, cadwch lygad ar ein gwefan am y swyddi gwag sydd ar gael, cofrestrwch i gael ein hysbysebion swyddi neu dilynwch ni ar Twitter @cdocymru.