Darparwr Hunaniaeth Addysg Cymru (AWE)

Read this page in English

hwb_ (002)Os ydych chi’n athro neu’n ddysgwr yng Nghymru, mae’n debyg eich bod yn gyfarwydd â Hwb. Ond os nad ydych chi, Hwb yw’r llwyfan ar-lein sy’n darparu mynediad at amrywiaeth eang o offer ac adnoddau ar-lein dwyieithog i gefnogi addysgu a dysgu. Mae Hwb hefyd yn un o raglenni trawsnewid digidol mwyaf Llywodraeth Cymru a dros yr ychydig fisoedd diwethaf mae camau wedi’u cymryd i drefnu bod yr holl waith sy’n gysylltiedig â rhedeg y gwasanaeth yn cael ei wneud yn fewnol.

Ond beth mae hyn yn ei olygu?

Wel, mae’n golygu ein bod nawr yn gallu gwneud newidiadau i’r llwyfan a’i ddatblygu’n gyflym mewn ymateb i adborth gan ein defnyddwyr a newidiadau i’n cwricwlwm sy’n esblygu.   Yn ymarferol, roedd yn gam i’r anhysbys, gan nad oeddem erioed wedi ymgymryd â phrosiect trawsnewid o’r maint hwn o’r blaen, a hynny o fewn yr amserlen eithriadol heriol oedd gennym.

Fel rhan o’r gwaith, rydym wedi cyflwyno gwasanaeth mewngofnodi newydd, sef ‘Gwasanaeth Darparwr Hunaniaeth Addysg Cymru’ (AWE IdP) at ddibenion creu, cynnal a rheoli cyfrifon defnyddwyr Hwb.     Bydd y gwasanaeth yn golygu y bydd athrawon a dysgwyr yn gallu defnyddio system mewngofnodi un-tro i gael mynediad at fwy a mwy o offer ac adnoddau ar-lein, er enghraifft, Microsoft Office 365 a Google for Education, drwy ddefnyddio’r enwau defnyddwyr sydd ganddynt ar Hwb.

Roedd tri phrif gam i’r newid, sef:

Cam un – toriad terfynol

Yn ystod gwyliau hanner tymor ym mis Mai 2018 roeddem wedi torri’r cyswllt â’r gronfa ddata leol o ddefnyddwyr i bob pwrpas a symud i gronfa ddata genedlaethol o ddefnyddwyr sy’n seiliedig ar system gwmwl (yn nhermau technegol, symud o’r system Active Directory ‘yn yr adeilad’ i’r system gwmwl newydd Azure Active Directory). Am gyfnod byr o oddeutu 20 munud (ond a oedd, serch hynny’n ddychrynllyd o hir!) nid oedd defnyddwyr yn gallu mewngofnodi i lwyfan Hwb ar brydiau. Ond dyma’r unig brofiad o gyfnod segur a gafwyd. Dros y 3 diwrnod nesaf, llwyddwyd i fewngofnodi i’r llwyfan 30,000 o weithiau. Roedd hyn yn well nag yr oeddem wedi’i dybio, gan gadarnhau bod y gwasanaeth yn gweithio fel roeddem yn ei ddisgwyl.

Cam dau – eich tro chi

Sgrin mewngofnodi HwbCawsom adborth yn nodi bod rheoli cyfrifon defnyddwyr yn achosi problemau i weinyddwyr ysgolion.   Fel rhan o’r datblygiadau newydd, roeddem yn awyddus i fynd i’r afael â’r mater hyn trwy gyflwyno Porthol Rheoli Defnyddwyr diogel newydd.

Drwy’r Porthol newydd hwn, mae gweinyddwyr nawr yn gallu newid cyfrinair a gwneud tasgau fel cofnodi caniatâd dysgwyr ar gyfer y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn rhwydd ac yn gyflym. Ailosodwyd tua 5,000 o gyfrineiriau yn llwyddiannus yn ystod wythnos gyntaf gweithredu’r system. Eto, roedd hyn yn well na’r disgwyl, gan gadarnhau o’r newydd fod popeth yn gweithio’n iawn.

Cam tri – cysoni

Rydym yn deall manteision cadw un cofnod unigol ar gyfer dysgwyr gydol eu hamser yn y system ysgolion yng Nghymru, ac yn awyddus i leihau unrhyw baich ar ysgolion, felly rydym wedi sefydlu dolenni uniongyrchol rhwng y gronfa ddata genedlaethol o ddefnyddwyr a Systemau Rheoli Gwybodaeth mewn ysgolion.