Dwi’n falch o gyflwyno blog gwadd gan Penny Babb o’r Swyddfa Rheoliad Ystadegau. Mae Awdurdod Ystadegau’r D.U ar hyn o bryd yn ymgynghori ar fersiwn diwygiedig o’r Cod Ymarfer ar gyfer ystadegau. Y Cod Ymarfer yw’r fframwaith ar gyfer ystadegau swyddogol cynhyrchwyd yma yng Nghymru yn ogystal â gweddill y D.U.
Fel rhan o’r diwygiad yma mae’r wybodaeth rifiadol, felly mae’n berthnasol i’r agenda data ehangach. Byddwn yn annog i’r rhai ohonoch gyda diddordeb mewn data ac ystadegau yng Nghymru i ymateb.
Glyn Jones. Prif Ystadegydd
Taliadau Gwledig Cymru Ar-lein – trawsnewidiad digidol llwyddiannus

Bum mlynedd yn ôl, rhoddwyd her i Taliadau Gwledig Cymru i symud o system bapur ddwyieithog ar gyfer talu cymorthdaliadau amaethyddol i system ar-lein ddwyieithog erbyn 2016. Parhau i ddarllen
Defnyddio technoleg i hybu’r iaith Gymraeg: Wicipedia

Nod Llywodraeth Cymru yw gweld y nifer y bobl sy’n gallu mwynhau siarad a defnyddio’r Gymraeg yn tyfu i un filiwn erbyn y flwyddyn 2050. Bydd galluogi pobl i ddefnyddio’r dechnoleg yma yn Gymraeg yn chwarae rhan allweddol wrth gyrraedd y targed hwn. Parhau i ddarllen
Gwneud defnydd da o brofion defnyddioldeb
Yn ein blog blaenorol fe wnaethom ni gyflwyno’r newidiadau sy’n cael eu gwneud i LLYW.CYMRU. Mae deall sut rydych chi, ein defnyddwyr, yn defnyddio’r wefan a’ch barn ar y newidiadau rydym yn eu gwneud yn rhan bwysig o’n gwaith. Gwnawn hyn drwy gynnal profion defnyddioldeb pryd bynnag y bo hynny’n bosib er mwyn ein helpu i nodi unrhyw broblemau’n gynnar a’u datrys cyn iddyn nhw fynd yn rhai rhy ddifrifol. Parhau i ddarllen
Mesur y daith tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg
Cafodd y strategaeth Gymraeg newydd Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg ei chyhoeddi yn ddiweddar ac mae’n cynnwys targed uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Parhau i ddarllen
Blwyddyn y Chwedlau â Realiti Estynedig

Yn ein blogiau diweddar, rydyn ni wedi bod yn tynnu’ch sylw at rai o nodweddion newydd ap Cadw mewn safleoedd hanesyddol ledled Cymru. Mae’r ddwy gêm ddiweddaraf, a gafodd eu lansio dros yr wythnosau diwethaf, yn dod â chwedlau’n fyw go iawn… Parhau i ddarllen
Cestyll ar flaen y gad!
Mewn blog diweddar, fe wnaethon ni roi gwybod i chi am ail-lansio ap Cadw. Erbyn hyn mae’n datgloi cynnwys cudd mewn safleoedd ledled Cymru. Roedd y ddau brosiect cyntaf yn defnyddio’r dechnoleg newydd hon i ymdrin â’n castell ‘gorau’ a’r un mwyaf ‘mawreddog’… Parhau i ddarllen
Cadw’r gorffennol yn gyfoes
Falle ‘mod i’n gweithio yn y gorffennol, ond dw i hefyd wrth fy modd â thechnoleg newydd. Mae prosiectau newydd gyda Cadw, Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn ei gwneud yn hawdd i gael gafael ar archaeoleg Cymru ac yn rhoi ein cestyll ar flaen y gad o ran technoleg. Parhau i ddarllen
Cynhwysiant digidol…… mae lle i wella!

Delwedd gan Cymunedau Digidol Cymru
Ni all y mwyafrif helaeth ohonom ddychmygu bywyd heb y rhyngrwyd. Rydym yn dibynnu’n fwyfwy (efallai gormod ar adegau) ar dechnolegau digidol ar gyfer ein gwaith, ein haddysg a’n gweithgareddau hamdden. Er hyn, mae gormod o bobl yn parhau i golli allan ar fanteision y rhyngrwyd, gydag oddeutu 15% o oedolion yng Nghymru all-lein. Parhau i ddarllen
Paratoi ar gyfer y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)
Beth yw’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol?
Bydd y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yn cael ei roi ar waith yn y DU ar 25 Mai 2018 ac mae gan sefydliadau lai na blwyddyn i baratoi ar gyfer ei effaith.
Mae’r Rheoliad yn diwygio’r ddeddfwriaeth diogelu data presennol, sef y Ddeddf Diogelu Data yn bennaf, er mwyn sicrhau ei bod yn gydnaws â’n dulliau o weithio yn yr 21ain ganrif. Parhau i ddarllen