Blog Gwadd: Arolwg ar Chwaraeon Ysgol – Gwell ac Yn Ôl ar gyfer 2018

Read this page in English

Bydd Arolwg ar Chwaraeon Ysgol Chwaraeon Cymru yn ôl yn 2018 ac mae’r paratoadau ar droed ar gyfer y lansiad ym mis Ebrill.  

Mae’r Tîm sy’n arwain y prosiect, a ddenodd 116,000 o ieuenctid i rannu eu barn am weithgarwch corfforol yng Nghymru y tro diwethaf, wedi bod yn brysur yn ymgynghori â phartneriaid ar newidiadau a gwelliannau posib.

Dyma’r Uwch Swyddog Gwybodaeth, Lauren Carter-Davies, i sôn am yr Arolwg a’r gwelliannau arfaethedig iddo …

Mae’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol yn gyfle gwych i blant a phobl ifanc ledled Cymru leisio eu barn ar chwaraeon a llesiant. Ar adeg pan rydyn ni’n annog y boblogaeth i leisio eu barn a’u safbwyntiau ar y pwnc yma drwy gyfrwng Chwaraeon a Fi – Y Sgwrs, mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n galluogi ein plant i wneud hynny hefyd.

Yn 2015, cymerodd bron i 1000 o ysgolion ran, sy’n wych, ac rydyn ni eisiau gweld mwy fyth yn cymryd rhan y tro yma. Gan gadw hyn mewn cof, rydyn ni wedi bod yn edrych ar sut gallwn ni ei gwneud yn haws i ysgolion gymryd rhan yn yr arolwg yn 2018.

Yn gynharach eleni, aethon ni ati i ofyn am adborth gan amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys ysgolion, Awdurdodau Lleol, Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol ac Estyn. Awgrymodd yr adolygiad y gallen ni wella’r holiaduron cyfranogiad i ysgolion drwy eu gwneud nhw’n fyrrach a gwneud yr iaith yn fwy addas i blant.

Fel ymateb i’r adborth yma, rydyn ni’n bwriadu creu un holiadur hawdd ei ddarllen ar gymryd rhan i bob disgybl cynradd ac uwchradd. Bydd y cynnig yma’n golygu bod pob disgybl yn ateb yr un faint o gwestiynau, dim ots faint o chwaraeon maen nhw’n eu gwneud, a bod yr holiadur yn fyrrach ac yn symlach.

Fe fyddwn ni’n cadw cymaint o gwestiynau â phosib, yn benodol, y rhai a ddefnyddir gan ein partneriaid ni ac ysgolion at ddibenion cynllunio. Mae’r rhai fydd yn aros yn cynnwys y cwestiynau am amledd y cyfranogiad mewn chwaraeon allgyrsiol ac mewn clybiau cymunedol, aelodaeth o glybiau chwaraeon, galw cudd, a chwaraeon a llesiant.

Wrth gwrs, bydd rhaid i ni golli rhai cwestiynau o’r holiaduron cymryd rhan traddodiadol, er enghraifft, y rhai am gyfranogiad mewn chwaraeon cystadleuol, llefydd ar gyfer chwaraeon tu allan i’r ysgol, cyfranogiad teulu a ffrindiau, gweithgareddau amser hamdden eraill a theithio egnïol. Mae’r cwestiynau yma wedi cael eu dewis gan mai’r rhain yw’r rhai lleiaf gwerthfawr yn ôl pob tebyg o ran cynnig gwybodaeth ddefnyddiol at ddibenion cynllunio.

Fel ymateb i adborth partneriaid rydyn ni hefyd yn bwriadu ychwanegu pysgota, chwaraeon eira, dosbarthiadau ffitrwydd, sboncen a chodi pwysau at y rhestr o chwaraeon ar gyfer pob oedran yn yr arolwg ar gymryd rhan.

Mae proses yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol yn ymdrech dîm sy’n gofyn am gefnogaeth gan dimau Datblygu Chwaraeon mewn Awdurdodau Lleol, ysgolion, Llysgenhadon Ifanc a’r disgyblion eu hunain. Rydyn ni wir yn gobeithio y bydd y newidiadau hyn yn ei gwneud yn symlach i bawb sy’n cymryd rhan, i roi cyfle i bobl ifanc leisio eu barn am chwaraeon a llesiant yng Nghymru.

Bydd rhagor o gefnogaeth ac adnoddau i helpu ein partneriaid ni i baratoi ar gyfer yr arolwg ar gael cyn ei lansio ym mis Ebrill 2018.

Os hoffech chi roi adborth ar y newidiadau arfaethedig neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost i schoolsportsurvey@sport.wales erbyn dydd Gwener 22ain Rhagfyr 2017.

Post gan, Lauren Carter-Davies, Chwaraeon Cymru

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s