#CaruData23
Efallai mai mis Chwefror yw mis rhamant, ond nid calonnau a blodau yw’r unig bethau sy’n bwysig. Mae San Ffolant yn rhannu’r sylw gydag Wythnos Caru Data!
Parhau i ddarllenEfallai mai mis Chwefror yw mis rhamant, ond nid calonnau a blodau yw’r unig bethau sy’n bwysig. Mae San Ffolant yn rhannu’r sylw gydag Wythnos Caru Data!
Parhau i ddarllenY blog hwn yw’r trydydd mewn cyfres sy’n cyflwyno rhywfaint o’r gwaith rydym wedi bod yn ei wneud yn Uned Gwyddor Data Llywodraeth Cymru. Mae llawer o’r gwaith a wnawn fel gwyddonwyr data yn cynnwys dadansoddi data mewn rhyw ffordd, ond rydym hefyd yn hoffi datblygu offer sy’n helpu pobl i weithio gyda data. Dyma ychydig o enghreifftiau o bethau rydyn ni wedi bod yn eu datblygu.
Parhau i ddarllenCroeso i ail ran ein cyfres o flogiau sydd yn cyflwyno rhai o’r prosiectau sydd ar waith yn yr Uned Gwyddor Data. Cyhoeddwyd Rhan 1 yr wythnos diwethaf
Bydd y blog hwn yn dilyn prosiect sydd yn ymchwilio i’r defnydd o ddata profion cyflymder rhyngrwyd i gefnogi’r wybodaeth sy’n bodoli eisoes o ran y ddarpariaeth ar hyd a lled Cymru.
Parhau i ddarllenEr bod ystadegau cywir ac amserol bob amser wedi cael eu cydnabod fel mewnbwn allweddol i benderfyniadau a llunio polisïau o ansawdd da o fewn y llywodraeth, mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi golygu bod data yn hynod bwysig o ran strategaeth ac adrodd mewn ffordd newydd oherwydd COVID-19. Mae awydd y cyhoedd am ddata wedi cynyddu ac mae cynhyrchion fel dangosfyrddau data yn cael eu defnyddio’n aml gan bobl nad ydynt efallai wedi cymryd rhan ym maes casglu data o’r blaen.
Parhau i ddarllenBydd Arolwg ar Chwaraeon Ysgol Chwaraeon Cymru yn ôl yn 2018 ac mae’r paratoadau ar droed ar gyfer y lansiad ym mis Ebrill.
Mae’r Tîm sy’n arwain y prosiect, a ddenodd 116,000 o ieuenctid i rannu eu barn am weithgarwch corfforol yng Nghymru y tro diwethaf, wedi bod yn brysur yn ymgynghori â phartneriaid ar newidiadau a gwelliannau posib.
Dyma’r Uwch Swyddog Gwybodaeth, Lauren Carter-Davies, i sôn am yr Arolwg a’r gwelliannau arfaethedig iddo …
Bum mlynedd yn ôl, rhoddwyd her i Taliadau Gwledig Cymru i symud o system bapur ddwyieithog ar gyfer talu cymorthdaliadau amaethyddol i system ar-lein ddwyieithog erbyn 2016. Parhau i ddarllen
Yn ein blogiau diweddar, rydyn ni wedi bod yn tynnu’ch sylw at rai o nodweddion newydd ap Cadw mewn safleoedd hanesyddol ledled Cymru. Mae’r ddwy gêm ddiweddaraf, a gafodd eu lansio dros yr wythnosau diwethaf, yn dod â chwedlau’n fyw go iawn… Parhau i ddarllen
Beth yw’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol?
Bydd y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yn cael ei roi ar waith yn y DU ar 25 Mai 2018 ac mae gan sefydliadau lai na blwyddyn i baratoi ar gyfer ei effaith.
Mae’r Rheoliad yn diwygio’r ddeddfwriaeth diogelu data presennol, sef y Ddeddf Diogelu Data yn bennaf, er mwyn sicrhau ei bod yn gydnaws â’n dulliau o weithio yn yr 21ain ganrif. Parhau i ddarllen
Helo, Sean ydw i, a dw i’n swyddog digidol, data a thechnoleg ar y llwybr carlam yn Llywodraeth Cymru. Fe wnes i ymuno â Llywodraeth Cymru fis Medi diwethaf fel rhan o gynllun y Gwasanaeth Sifil i raddedigion … ond gadewch imi ddechrau yn y dechrau.