Ble nesaf ar y daith data agored?

 

Tudalen flaen y Cynllun Data AgoredRead this page in English

Nid yw’n teimlo’n hir ers inni gyhoeddi ein Cynllun Data Agored cyntaf un. Fodd bynnag, dyma ni bron â bod wedi cyrraedd diwedd 2017, ac yn meddwl ei bod yn bryd edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd ers hynny, i ba raddau rydym wedi llwyddo i gyflawni ein hymrwymiadau, ac i ble yr awn nesaf.

 Cychwyn ar y ffordd

Yn 2016, pan gyhoeddwyd y cynllun cyntaf, roedden ni fel sefydliad eisoes yn gwneud gwaith da mewn rhannau o Lywodraeth Cymru, yn enwedig o ran cyhoeddi data ystadegol a data daearyddol. Fodd bynnag, daethom i sylweddoli’n fuan y byddai angen inni wneud mwy yn enwedig i hybu ymwybyddiaeth a lledaenu gwybodaeth ar draws y sefydliad. Diolch i’r drefn nid oeddem ar ein pennau ein hunain ar y daith hon, a chawsom help ar hyd y ffordd gan y Sefydliad Data Agored a’i wefan, ac yn fwy diweddar gan ei gangen yng Nghaerdydd.

Pethau’n dechrau dod at ei gilydd

 Felly, beth rydym wedi bod yn ei wneud? A ydym wedi llwyddo i gyflawni pob un o’n hymrwymiadau? Wel, yr ateb yn fyr yw nac ydym, nid yn hollol. Fodd bynnag, wedi dweud hynny, rydym wedi llwyddo i gyflawni nifer o ymrwymiadau, ac rydym wedi mynd rhywfaint o’r ffordd i gyflawni eraill.

Un o’n llwyddiannau cynharaf oedd gwella graddfa ein platfform ystadegol StatsCymru o ran pa mor agored yw’r data i 4* – yn ôl y cynllun graddio data agored 5*. Gwnaed hyn drwy gyflwyno pwyntiau terfyn, gan ddefnyddio OData, sy’n golygu bod y rhan fwyaf o ddata ar StatsCymru bellach ar gael mewn fformat sy’n ei gwneud yn hawdd i beiriannau brosesu’r data ac i’w hailddefnyddio.

Gan na fydd pawb yn deall yn llawn i ddechrau sut y bydd hyn yn newid eu ffordd o fynd at y data a’u defnyddio, mae’n dda gennyf ddweud bod fy nghydweithwyr mynd i gyhoeddi canllawiau cyn bo hir ar StatsCymru i gynnig tipyn o help llaw.

Llwyddiant arall oedd symud i ddefnyddio fformatau agored wrth gyhoeddi gwybodaeth newydd ar wefan Llywodraeth Cymru. Er nad yw’r ymrwymiad hwn wedi ei gyfyngu i gyhoeddi ar fformat ddata agored, mae’n golygu ein bod, wrth gyhoeddi data agored ar y wefan, yn gallu gwneud hynny ar lefel 3*. Enghraifft o hyn yw’r data ar wariant dros £25k Llywodraeth Cymru yr ydym yn eu cyhoeddi yn fformat .ODS (sef fformat agored ar gyfer taenlenni).

Rydym hefyd yn parhau i ddatblygu ein platfform ar gyfer data daearyddol, Lle, gan gynnwys cyflwyno adnodd mapio newydd sy’n galluogi defnyddwyr i gynhyrchu mapiau yn ôl yr angen.

Serch hyn, mae mwy o ffordd i fynd eto…..

Fel yr wyf wedi sôn eisoes, rydym yn gwneud yn reit dda gyda’n data ystadegol a’n data daearyddol, ond beth am ein holl ddata eraill. Fel sefydliad, rydym yn casglu ac yn cadw ystod lawn o ddata, ac mae’n hanfodol ein bod yn dechrau eu cyhoeddi fel data agored, lle bo hynny’n briodol. Er nad tasg fach mo hon, rydym yn bwriadu canolbwyntio arni drwy ddatblygu canllawiau i’n perchnogion data, a blaenoriaethu pa setiau data i’w cyhoeddi gyntaf.

Hefyd yn ystod y flwyddyn nesaf, rydym yn bwriadu gwneud mwy o waith ar ein hymrwymiad i ddatblygu catalog data. Er nad ydym wedi llwyddo i fynd mor bell gyda’r gwaith hwn ag yr oeddem wedi gobeithio, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi meithrin mwy o ddealltwriaeth o’r agenda data agored yng Nghymru. Rydym yn gobeithio y bydd y ddealltwriaeth honno’n ein helpu i ystyried yr hyn y bydd ei angen arnom ni ac ar ddefnyddwyr eraill, gan ddod o hyd i’r atebion gorau.

Yn olaf, rydym hefyd yn bwriadu adeiladu ar y gefnogaeth a gafwyd yn Nadl y Cyfarfod Llawn ar ddata agored yn ddiweddar, yn enwedig o ran datblygu cod tryloywder anstatudol. Pan yn datblygu y cod, rydym yn awyddus iawn i gydweithio gyda chyrff eraill yn sector cyhoeddus Cymru er mwyn sicrhau ei bod yn bosibl diwallu unrhyw ofynion data agored sy’n cael eu cynnwys, a bod y gofynion hynny yn rhai buddiol. Un o’r meysydd rydym yn trafod gyda chydweithwyr yn y sector gyhoeddus ar hyn o bryd yw gwneud data am eu gweithlu yn fwy agored.

Felly, dyna grynodeb o’r hyn rydym wedi bod yn ei wneud a rhai o’r meysydd y byddwn yn canolbwyntio arnynt yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Os hoffech gyfrannu at y gwaith o ddatblygu’r cod tryloywder, neu os oes set data yr ydym yn gyfrifol amdano y byddech am inni ei chyhoeddi fel data agored, mae croeso ichi e-bostio: blogdigidoladata@llyw.cymru

Rydym hefyd yn awyddus i glywed gan y rhai ohonoch sy’n gweithio ar ddata agored yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Os hoffech gael sgwrs am yr hyn yr ydych yn ei wneud neu’n bwriadu ei wneud, cysylltwch â ni.

Post gan Swyddfa’r Prif Swyddog Digidol

 

Delwedd y Cynllun Data Agored: © Edhar Yralaits | Dreamstime.com