Pwerau newydd i gyrff cyhoeddus gael rhannu data – beth yw eich barn?

Read this page in English

Mae data’n chwarae rôl bwysig yn y broses o wneud penderfyniadau effeithiol, yn enwedig yn y sector cyhoeddus. Yn aml bydd angen yr un data ar wahanol gyrff cyhoeddus, ac mae hynny’n golygu bod casgliadau data’n cael eu dyblygu, bod arian yn cael ei wario’n ddiangen, a bod baich gwaith ychwanegol yn cael ei roi ar y rheini sy’n darparu’n data. Hefyd yn aml, nodir y cymhlethdodau a’r pryderon sy’n gysylltiedig â rhannu data fel rhwystrau sylweddol i’r ymdrechion i wella gwasanaethau cyhoeddus a’r gwasanaethau a ddarperir ar gyfer ein pobl. Yr ateb syml yw trefnu i gyrff cyhoeddus gael rhannu eu data, ond yn y gorffennol bu rhwystrau sydd wedi atal hynny rhag digwydd.

Byddai’r pwerau newydd ar gyfer rhannu data, a gyflwynwyd gan Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017, yn helpu i oresgyn y rhwystrau hyn, ac ar yr un pryd cyflwyno dulliau effeithiol o ddiogelu preifatrwydd data dinasyddion. Mae Deddf yr Economi Ddigidol yn gosod fframwaith clir ar gyfer rhannu data, os mai dyna fydd y peth cywir i’w wneud a’i fod yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data. Rydym yn awyddus i weld y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn elwa ar y pwerau hyn, ond cyn i hynny ddigwydd rhaid enwi’r cyrff cyhoeddus perthnasol o fewn y ddeddfwriaeth ei hun.

Pwy sy’n cael defnyddio’r pwerau newydd?

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi enwi’r cyrff cyhoeddus yn Lloegr a’r cyrff cyhoeddus sydd heb eu datganoli, a fydd yn cael defnyddio’r pwerau newydd – gan gynnwys cyrff megis awdurdodau lleol, yr heddlu, a’r gwasanaethau tân, yn ogystal ag adrannau yn Llywodraeth y DU ei hun megis yr Adran Gwaith a Phensiynau a CThEM. Bydd y Ddeddf hefyd yn nodi at ba ddibenion penodol y mae cyrff yn cael rhannu data er mwyn helpu i wella sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu a lleihau nifer yr achosion o dwyll a dyled yn erbyn y sector cyhoeddus.

Cyrff cyhoeddus sy’n rhannu data yng Nghymru

Rydym am weld cyrff cyhoeddus yng Nghymru hefyd yn cael manteisio ar y pwerau rhannu data newydd pan fyddant yn dod i rym yn nes ymlaen eleni. Er mwyn sicrhau bod yr holl gyrff perthnasol yn cael eu henwi ac yn cael rhannu data â chyrff eraill sydd wedi eu henwi ar draws y DU, rydym am ymgynghori ar restr y cyrff cyhoeddus perthnasol.

Rydym yn awyddus i gael eich barn

Byddem wir yn gwerthfawrogi cael eich barn ynghlych pa gyrff cyhoeddus y dylid eu cynnwys ar ein rhestr. Mae gennym ddiddordeb hefyd yn eich awgrymiadau ar y ffordd orau o ddefnyddio’r pwerau newydd yng Nghymru yn y dyfodol i helpu i ddarparu ein gwasanaethau cyhoeddus. Felly, os oes gennych unrhyw syniadau neu sylwadau rhowch wybod inni drwy ymateb i’r ymgynghoriad erbyn 5 Chwefror 2018.

Mae manylion llawn y pwerau newydd a’n cynigion, ynghyd â gwybodaeth ar sut i ymateb, ar gael yma:

https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/deddf-yr-economi-ddigidol-2017-rhestr-or-cyrff-yng-nghymru-syn-rhannu-data